| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Y Wiwer Goch Hanes rhyfeddol adfer y pla prin
Sylwadau Glyn Evans ar Y Wiwer Goch - addasiad Bethan Wyn Jones o lyfr gan Tom Tew a Niall Benvie. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.95.
Yn 么l yn y Pumdegau yr oeddwn yn byw lle gallwn weld drwy ffenest y t欧 wiwer goch yn chwarae rhwng brigau derwen ifanc yng ngwaelod yr ardd.
Anifail digon swil ydoedd - yn dianc gyda'r s诺n annisgwyl cyntaf - ond yn greadur gwefreiddiol i'w wylio yn ei gynefin.
Ar y pryd, doedd rhywun ddim yn sylweddoli cymaint o fraint oedd cael bod yn dyst i gampau'r anifail oedd i'w weld hefyd ar ddalennau Llyfr Mawr y Plant - ond y gwir amdani yw na welais i byth wedyn wiwer goch yn y gwyllt.
Erbyn heddiw, mae gwiwerod llwydion yn ymylu ar fod yn bla yng ngardd rhywun a phrinhaodd y goch nes bo'i bodolaeth mewn peryg.
Pwy heddiw fyddai'n credu fod y wiwer goch mor niferus ar un adeg ei bod hithau'n cael ei hystyried yn bla?
Y tro hwn yn hanes un o'n hanifeiliaid prydferthaf ydi testun llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch - wedi ei addasu o gyfrol Saesneg a argraffwyd gyntaf yn 1997.
Ar gyfer y fersiwn Gymraeg mae 'pennod' yn rhoi gwybodaeth am gynllun llwyddiannus i adfer gwiwerod cochion ar Ynys M么n.
Byddai un arall debyg am y sefyllfa yng Nghlocaenog, Sir Ddinbych, wedi bod yn ddifyr hefyd - ond does yna'r un.
Fel arall, mae'r wybodaeth yn y gyfrol yn gryno ac yn gyflawn.
Pam prinhau? Rhoddir cryn sylw, yn naturiol, i'r dyfalu a fu yngl欧n 芒'r rhesymau am ddiflaniad syfrdanol y wiwer goch gan gynnwys y ddadl boblogaidd i hynny ddigwydd oherwydd ei herlid gan y wiwer lwyd a gyflwynwyd i Brydain o Ogledd America - lle mae'n cael ei hadnabod mewn rhai lleoedd fel tree rat - ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Erbyn 1920 roed y wiwer lwyd wedi llwyddo i gael troedle cadarn, a rhwng 1930 a 1945 fe chwyddodd poblogaeth y wiwer lwyd gyda chanlyniadau trychinebus i'r wiwer goch," meddai Bethan Wyn Jones.
Ond dydi'r berthynas rhwng y gostyngiad ym mhoblogaeth un a'r cynnydd ym mhoblogaeth y llall ddim yn un gwbl arwyddocaol ychwaith, fel y dangosir yn y llyfr.
Mae'r sefyllfa ymhell o fod yn ddu a gwyn - neu lwyd a choch, fel y mynnwch - ac nid erlid un gan y llall yw'r unig ddamcaniaeth.
Rhoi eu cas arnynt Bid a bo hynny, diddorol yw darllen fod y wiwerod cochion yn bla yr oedd ciperiaid ac eraill yn rhoi eu cas arnynt ar un cyfnod.
"Yn 1910 sefydlwyd Clwb Saethu Gwiwerod Cernyw er mwyn rheoli'r niferoedd mawr o wiwerod coch oedd yn creu difrod i goed a chynnyrch gardd.
"Wrth edrych yn 么l gwelwn mai blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd oes aur y wiwer goch ym Mhrydain.
"Tua 1920 y dechreuodd y lleihad . . . erbyn 1942 nid oedd yr un wiwer goch i'w gweld ym Mharc Regent Llundain," meddai Bethan Wyn Jones.
Cynlluniau cadwraeth Fel sy'n digwydd mor aml ym mherthynas dyn a'i gyd-greaduriaid daeth yr hyn oedd yn bla yn drysor prin fel ag yn achos y barcud coch, a dyn yn gorfod gwarchod lle bu'n erlid .
Diolch i gynlluniau cadwraeth mae'r rhod yn araf droi a da darllen fod dau le yng Nghymru yn rhan o'r adfywiad - mewn coedydd ar Fynydd Llwydiarth ym M么n ac i raddau llai, Fforest Clocaenog yn Sir Ddinbych.
Patrwm, y gyfrol yw llun lliw gyferbyn 芒 dalen o destun sy'n gwneud hon yn gyfrol go ddeniadol.
Er, byddai ar ei hennill o baragraffu'r testun yn amlach gan fod ambell i ddalen yn eithaf talp o deip sy'n anneniadol i'r llygaid.
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|