| |
|
|
|
|
|
|
|
Elwyn Roberts - marw prifardd seicig Yr oedd y Prifardd Elwyn Roberts yn 诺r o ddiddordebau eang ac anghyffredin.
Yn wyddonydd wrth ei alwedigaeth yr oedd hefyd yn fardd ac yn ymddiddori mewn ymchwil seicig o bob math.
Yn wyddonydd ifanc dyfeisiodd offer i fesur dirgryniadau ffrwydrad niwclear unrhyw le yn y byd. Dyfeisiodd a bu'n adeiladau organau electronig hefyd.
Yr oedd yn 72 pan fu farw ar Fehefin 9 a hynny yn ei bentref genedigol ym Mhen Ll欧n er mai yn Rhydtalog ger Yr Wyddgrug yr oedd yn byw erbyn hyn.
Rai blynyddoedd yn 么l prynodd hen gapel ei febyd yn Llangian ger Pwllheli i'w droi'n d欧 gan wneud llawer iawn o'r gwaith ei hun.
Yr oedd yn un a'i wreiddiau yn ddwfn yn naear Ll欧n a dylanwad ei fagwraeth draddodiadol Gymreig yn fawr iawn arno.
Er dywedodd mai ymhen blynyddoedd wedyn y daeth i wir werthfawrogi'r fagwraeth honno.
Ei gysylltiad 芒 Phen Ll欧n oedd hanfod dilyniant o gerddi, Pridd, a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor yn 1975.
Cyhoeddwyd y cerddi hynny a rhai eraill o'i eiddo mewn cyfrol a gyhoeddwyd toc wedyn.
Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn wyddonydd gyda'r Bwrdd Trydan Canolog yn Capenhurst ger Caer yn ymchwilio i effeithiau mellt.
Ond daeth i amlygrwydd hefyd oherwydd ei ddiddordeb yn y paranormal neu'r seicig a bu'n ymchwilio'n helaeth i achosion o ysbrydion, i ysbrydegaeth ac i ffenomenau fel hupnoteiddio a iachau. Yr oedd ganddo ddoniau seicig ei hun ac yn dilyn astudiaeth mewn seicoleg a seicotherapi daeth yn gymrawd cymdeithas genedlaethol o arbenigwyr yn y maes hwnnw ac yn seicotherapydd.
Ymddiddorai hefyd mewn meddygaeth amgen a chymrodd batent ar ddull o ddefnyddio perocsid fel meddyginiaeth.
Yn ystod ei ymchwiliadau seicig ymwelodd a sawl lle a aflonyddwyd gan ysbrydion gan dynnu i'r amlwg ar adegau wybodaeth a fyddai'n peri cryn ryfeddod. Bu cyfres deledu yn amlygu'r doniau hyn.
Pwysleisiai mai diddordeb y gwyddonydd oedd ei un ef yn hytrach na rhyw ymh茅l mympwyol ac yr oedd y gred yng ngoroesiad ein bodolaeth yn greiddiol i'w syniad o fywyd a lle dyn yn y bydysawd.
Yr oedd yn fardd cywrain a thelynegol er, weithiau, oherwydd y gyfeiriadaeth, yn peri trafferth o ran dehongliad.
Wrth ei wobrwyo ym Mro Dwyfor dywedodd un o'r beirniaid, Haydn Lewis, ei fod "yn nhraddodiad peth o ganu gorau Cymru, o gynildeb enbyd Llywarch Hen i dlysni angerddol y penillion telyn."
Aeth o ddim i goleg yn syth o'r ysgol ond dod yn brentis gyda chwmni trydan Manweb ac yr oedd wedi cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol gyda'r fyddin cyn troi ei lygaid ar goleg gan raddio gydag anrhydedd o Adran Electroneg Coleg y Brifysgol, Bangor.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|