|
Iesu Tirion Lobsgows o gylch meithrin
Adolygiad Lowri Rees o Iesu Tirion gan Lleucu Roberts. 拢6.95. Lolfa.
Nofel sy'n dilyn helyntion cylch meithrin pentref dychmygol, Nantclagwydd, ydi Iesu Tirion.
A hithau'n fam i bedwar o blant bu'r awdur, Lleucu Roberts yn ymwelydd cyson 芒 chylchoedd meithrin ac mae'n hen gyfarwydd 芒 threfn cylchoedd o'r fath.
Ac y mae cyfeiriadau gydol y nofel sy'n ei gwneud yn amlwg iddi fod a'r flaen y gad yn y maes hwn.
Edrych ymlaen Rwy'n un sy'n mwynhau ymgolli mewn nofel dda ac ar 么l derbyn y nofel gyntaf hon o eiddo Lleucu Roberts edrychwn ymlaen yn fawr at swatio mewn cornel dawel i fwynhau nofel a fyddai'n ymdrin 芒 phwnc sydd yn un hynod gyfarwydd i mi a sawl mam arall.
Mae'r nofel yn cael ei ddisgrifio yn y rhagair fel: "Nofel ysgafn llawn hiwmor."
"Bydd darllen y nofel yn ddifyrrwch pur i unrhyw riant, gyda lobsg贸ws o gymeriadau cyferbyniol yn trio cadw trefn ar eu plant - o fewn un dosbarth yn unig fe geir 'un tedi rhacs, un eviction ac un affair," meddir.
Pob math o helynt Yn syth roedd y nofel yn apelio!
Mae'r arweinydd, Mared, gyda chymorth gan ei chydweithwraig Doreen, yn ceisio cadw trefn ar wyth o blant ond yn fwy na hynny yn ceisio cadw rheolaeth ar eu rhieni hefyd sydd yn cael eu hunain mewn pob math o helyntion.
Fel rhiant sydd 芒 phlentyn mewn ysgol feithrin, mae rhywun yn gwybod yn iawn am drefn - ac anhrefn! - cylch o'r fath ynghyd a'r helynt a all godi a'r adegau rhwng rhieni - ond rwy'n amau i awdur Iesu Tirion fynd ymhell dros ben llestri a threthu'n hygoeledd ar adegau wrth lunio'r stori hon.
Yn enwedig o gael y ddwy chwaer, Doreen a Tina, yn mynd ati i baffio mewn tafarn ac yna Doreen yn neidio i'r gwely gydag un o famau'r cylch!
Mae Mared, prif gymeriad y nofel, yn gorfod delio a phwysau bywyd nifer o'r cymeriadau ac yn gorfod trin amrywiaeth o wahanol drafferthion gan gynnwys carwriaethau, perthynas hoyw, rhegi, ymladd a dadlau yn gyffredinol a hynny o fewn ffiniau'r cylch heb s么n am geisio cadw trefn ar ei theulu ei hunan.
Er gwaethaf tuedd y nofel i fod yn gyfres o ddigwyddiadau wedi eu taflu at ei gilydd yn lobsgows mae yna benodau unigol a pharagraffau gwych a digri iawn a thrueni nad yw'r gwead yn fwy cywrain.
O enau plant bychain Sawl tro mae'r nofel yn tanlinellu'r hen wireb mai o enau plant bychain y daw'r gwirionedd a cheir enghreifftiau cyson o hyn.
Mae yna ddarnau teimladwy a sensitif hefyd - yn enwedig pan fo Mared yn trafod ei charwriaeth newydd gyda Gwion y mab: "Be ti'n feddwl o'r .... sefyllfa," mentrais. "Dwi'n cymryd i bod hi'n iawn gin ti mod i'n gweld rhywun ...wsti... "Mmm,' meddai Gwion, a finna'n methu dehongli a'i mm negyddol ta mm cadarnhaol oedd ganddo. "Achos pe bysa gin ti wrthwynebiad , swn i'n...swn i'n be, dwn i'm . . .
Yn ei hymgais i bortreadu y gwahanol gymeriadau a'u teuluoedd, teimlwn fod yr awdur yn mynd ar goll a'r adegau.
Ar ben hynny, ychydig yn arwynebol yw cynnwys y nofel mewn gwirionedd.
Teimlais hefyd fod gormod o bwyslais ar gael llwyth o straeon bach yn clymu 芒'i gilydd yn hytrach na chanolbwyntio ar un stori dda a'i datblygu.
Mae'r them芒u i gyd yma, y dadlau, affairs, ymladd a rhyw - y math o bethau y byddai rhywun yn eu mwynhau yn fwy mewn nofel wedi ei saern茂o'n well.
Wedi gorffen darllen, teimlad o gyfle wedi ei golli sydd yna a rhaid cyfaddef na weithiodd y nofel hon fel cyfanwaith i mi.
Ond fe roddodd achos imi ddiolch i'r drefn bod ein cylch meithrin ni yn un tra gwahanol i un Nantclagwydd.
Wel, hyd y gwn i beth bynnag - ond wedi'r cyfan nid fi yw'r arweinydd!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|