| |
|
|
|
|
|
|
|
Twm Morys - ofni'r dyfodol Dydi'r Prifardd Twm Morys ddim yn obeithiol yngl欧n 芒 dyfodol y Gymraeg ym mro ei febyd.
Nid yw o'r farn, meddai, y bydd yn cael ei hadfer yno.
Dychwelodd Twm Morys i ardal y Mynydd Du ger Y Fenni ar gyfer rhaglen deledu gyda Iolo Williams yn y gyfres Crwydro ar S4C.
Bu'r teulu yn byw ar lethrau Twyn y Gaer, ardal lle mae'r iaith Gymraeg wedi hen ddiflannu.
"Mewn lle fel hyn y mae llawer iawn o bobl sydd heb lawer o gysylltiad gyda'r ardal a'r hanes ac yn methu dweud enwau'r tai maent yn byw ynddynt," meddai Twm, bardd cadeiriol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, 2003.
"Mae'n anodd iawn meddwl sut y byddai rhywun yn dod 芒 iaith gyfan a phopeth sydd ynghlwm 芒 hi yn 么l i ardal fel hon," meddai.
Yn aelod o'r mudiad iaith Cymuned, ei ofn yw y gall yr un peth ddigwydd i ardaloedd eraill yng Nghymru.
"Fel hyn dwi'n gweld Cymru ymhen dim llawer iawn o amser os nad oes rhywbeth go fawr yn cael ei wneud," rhybuddiodd.
Ar gyfer y rhaglen, ymwelodd Twm a Iolo 芒 chartref y melinwr John Williams, un o Gymry Cymraeg olaf y cwm yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf.
Dywedodd Twm fod clywed llais yr hen felinydd a recordiwyd gan yr Athro TJ Morgan yn gyrru ias i lawr ei gefn.
Ond er bod yr iaith wedi diflannu o'r ardal mae'r enwau Cymraeg yn parhau.
Yn fab i'r awdur Jan Morris - James Morris cynt - bu Twm yn s么n hefyd am y newid mawr y bu'n rhaid i'r teulu ddygymod ag ef.
"Tydi o ddim wedi effeithio arna fi yn negyddol," meddai.
"Mae wedi dysgu i mi, hawl pawb i fod ei hun, yn ei ffordd ei hun yn 么l ei ddewis ei hun," meddai.
Crwydro: nos Fercher, Mehefin 29, 21.00. S4C a phob prynhawn Sul ar S4C digidol.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|