大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Gongol Felys
Cyfrinach chwerw Y Gongol Felys
Adolygiad Lowri Rees o Y Gongol Felys gan Meinir Pierce Jones. Gomer. 拢6.99

Mae Y Gongol Felys, nofel gyntaf Meinir Pierce Jones ar gyfer oedolion wedi ei ddisgrifio fel perl o nofel a ysgrifennwyd yn grefftus ac yn bwerus.

Clawr y llyfr Yr union eiriau y byddwn innau yn eu defnyddio i'w disgrifio.

Adroddir y stori yng ngeiriau'r prif gymeriad, Edith Morwenna Williams, ac ac mae wedi ei lleoli ddechrau'r ganrif ddiwethaf, 1914.

Mae'n ymwneud 芒'r hyn a ddigwyddodd Edith a'i theulu ar fferm y Gongol Felys adeg y Pasg ym 1912. Mae dirgelwch mawr yn perthyn i'r teulu.

Cawn ein cyflwyno ym mhenodau cyntaf y nofel i'r teulu ac i'r bywyd digynnwrf y mae Edith, a'i chwaer, a'i brawd a'i modryb yn ei fyw mewn cartref gwledig yng ngogledd Cymru.

Yr ydym yn ymwybodol iawn o'r cychwyn o ysfa Edith i adrodd ei stori yn ei 'chopi bwc' a chawn y teimlad yn syth ei bod yn ysgrifennu er mwyn ysgafnhau baich sy'n bwysau arni.

Ei gobaith yw cael rhyddhad a chysur o wneud hynny.

Mae'n s么n am ddigwyddiad dirdynnol sy'n cael effaith arni hi a'i theulu am byth.

Mae'r nofel yn ffrwd o iaith gyfoethog ardal Ll欧n ac Eifionydd ac yn frith o idiomau a dywediadau yr ardal.

Mae hefyd nifer o ddarluniau cynnil o arferion pob dydd yng nghefn gwlad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, yn ogystal 芒 chyfeiriadau at fywyd ar y m么r, gan fod tad Edith yn llongwr.

Mae merched y fferm yn gwneud cyflaith, yn coginio pwdin reis cyraints, yn paratoi 't芒n oer'. Mae cyfeiriadau hefyd at arferion amaethyddol y cyfnod.

Dywed yr awdur iddi wneud llawer o waith ymchwil, gan gynnwys holi pobol yr ardal, a chwilota drwy hen luniau fel y gallai greu darlun credadwy o'r cyfnod.

Dirgelwch tywyll
Ond dirgelwch tywyll sy'n ganolog i'r nofel. Nid darlun gefn gwlad difrycheulyd sydd yma.

Anodd ymhelaethu gan y byddai datgelu beth yw'r digwyddiad mawr sydd yn effeithio ar y teulu yn difetha'r nofel a rhaid bodloni ar eich cymell i fynd ati i ddarllen stori sydd wedi ei hysgrifennu'n gywrain a chrefftus.

A mwynhau'r darluniau byw o gefn gwlad Cymru y cyfnod:
"Trois innau i sb茂o, a gweld fod Hi yn hanner cario hanner llusgo Margaret am y gadair freichiau, a bod golwg ofnadwy iawn ar Margaret ni. Yr oedd ei hwyneb wedi chwyddo yn fawr a hances goch ganddi ar ei cheg a gwaed yn diferyd ohoni. A'i llygaid yn hanner caead ac yn agor a chau bob yn ail.

"'Syrthio wnest ti?' gwaeddais arni. 'Be ddigwyddodd?''Na,' meddai Miss Netta mewn llais braidd yn grynedig. 'Mi fydd hi'n iawn yn y munud. Wedi cael tynnu ei dannedd y mae hi.

'"'Tynnu'i dannedd??'
"'Felly y bydd gwraig gydwybodol yn gwneud cyn priodi, i arbed cost a thrafferth i'w g诺r yn nes ymlaen cyn priodi.'"

Mae hon yn gamp o nofel sy'n dychryn ar un llaw ac yn ennyn cydymdeimlad ar y llall.

Mae'n nofel hefyd sy'n gwneud ichi wenu a chwerthin yn uchel a'r adegau.

Mae'n wir werth manteisio ar y cyfle i fynd yn 么l at hen draddodiadau dechrau'r ganrif ddiwethaf ac ymgolli yn stori ddirdynnol merch ifanc o'r cyfnod.

Adolygiad ar Gwales



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy