|
Cerddi Arfon Ardal hawdd ei chanmol
I ddathlu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri, mae Gwasg Gomer yn cyhoeddi blodeugerdd newydd o gant o gerddi am yr ardal.
Bydd Cerddi Arfon yn cael ei chyhoeddi yn y Babell L锚n ddydd Llun, Awst 1, am 1.15.
Dywedodd golygydd y gyfrol, R. Arwel Jones, fod mwy o ganmol wedi bod ymhlith y beirdd ar y rhan hon o'r wlad nag unrhyw un arall.
"Go brin fod beirdd Cymru wedi dewis canmol tiriogaeth unrhyw sir i'r graddau y maent wedi canmol tiriogaeth Arfon," meddai.
"Canwyd awdlau cyfain i'r tir ei hun - i Eryri, ac wrth reswm, i dref Caernarfon.
"Wrth gwrs, ddylai hynny ddim peri syndod i unrhyw ddarllenydd mewn gwirionedd: pan fo aruthredd rhai o fynyddoedd gorau'r byd yn galon i'r ardal, sut allai hynny beidio ag ysbrydoli'r beirdd?"
Bydd rhai llinellau yn gyfarwydd iawn fel 'amlinell lon y moelni maith' T H Parry-Williams.
Canwyd hefyd i gestyll a chwareli, y mynydd a Menai gan feirdd yn amrywio o Caradog Prichard i Meirion Macintyre Huws.
Erbyn heddiw mae'r ardal hon hyd yn oed yn un lle mae'r mae'r iaith dan fygythiad a hynny'n cael ei adlewyrchu yng ngwaith y beirdd.
"Mae rhyw fin gwleidyddol cyson i Gymreictod Arfon," meddai R. Arwel Jones.
Yn yr ardal hon hefyd y bu'r ddau anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain, streic fawr Bethesda ac ymgyrch gweithwyr Fiction Dynamics yn fwy diweddar.
O'r ardal hon hefyd y cododd y 609 cyntaf i bleidleisio dros Blaid Cenedlaethol Cymru, ac yn 1969 gwelwyd arwisgo'r Tywysog Siarl a'r gwrthwynebiad i hynny.
Egyr y flodeugerdd yn gwbl briodol gyda chywydd croeso ergydiol y Prifardd Gerallt Lloyd Owen i Eisteddfod Eryri, 2005: Cliciwch i ddarllen y cywydd.- Cerddi Fan Hyn: Cerddi Arfon, R. Arwel Jones, Gwasg Gomer, 1843235552, 拢6.95, cm, 148tt.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|