|
Lloyd George a'r Eisteddfod Gwleidydd steddfodol
Bu Ioan Mai Evans yn noson lansio Lloyd George a'r Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyliau Bangor a Chaernarfon gan Emyr Price. Gwasg y Bwthyn. 拢10. Dyma ei sylwadau.
Dangos pa mor Gymraeg oedd Lloyd George - dyna ysgogodd yr awdur Emyr Price, i ysgrifennu ei gyfrol werthfawr Lloyd George a'r Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyliau Bangor a Chaernarfon.
Do, mynychodd bob Eisteddfod ond dwy er pan y'i hetholwyd yn AelodSeneddol Bwrdeistrefi Arfon yn 1890.
Cafodd y gyfrol groeso twymgalon ar noson ei lansio yn Galeri Caernarfon gyda'r bywiog Maldwyn Thomas o Wasg y Bwthyn yn llywyddu , a Dafydd Wigley, yn 诺r gwadd.
Iddo ef y cyflwynwyd y gyfrol am ei hir wasanaeth i ran o hen etholaeth Lloyd George.
Cyfnbodau cyffrous Yn gychwyn i'r dwsin o benodau cawn olwg ar gyfnodau cyffrous Cymru Fydd a'r Home Rule, gan ein harwain at yr hyn a alwai Lloyd George yn Uchel 糯yl y Werin i fod yn Eisteddfod gwbl Gymreig.
Y tro cyntaf i Lloyd George annerch yn y Brifwyl oedd ym Mangor 1890, er i'r Eisteddfod honno fod yn ddigon helbulus oherwydd ymddygiad yr arch Dori, yr Arglwydd Penrhyn, yn dal yn 么l ei gyfraniad haelionus at gronfa'r Steddfod gan yr ofnai y byddai Lloyd George yn troi'r 糯yl yn achlysur gwleidyddol.
Fel pe na byddai hynny yn ddigon bu yna hefyd helyntion yngl欧n 芒 chastell Caernarfon. Fel y gellid disgwyl cymharol fychan fu cyfraniad Lloyd George yn Eisteddfod Bangor.
Dal yn Seisnig Bedair blynedd yn ddiweddarach roedd yr Eisteddfod yng Nghaernarfon ac yn dal yn Seisnig gyda'r byddigions yn geffylau blaen.
Er bod cysgodion stadau fel Glynllifon, y Faenol a'r Penrhyn yn drwm ar y trefniadau a'r Saesneg yn amlwg yn iaith cadeirio Elfed, fe ddaeth cyfle Lloyd George pan gafodd annerch y miloedd yn y cyngerdd.
Fel y gellid disgwyl, caed araith ddiflewyn ar dafod yn dadlau fod yr Eisteddfod yn fater o ymffrost i bob Cymro a'r Cymry yn dilyn awen a ch芒n trabo Lloegr yn ymhyfrydu yn ei cheffylau rasio - fel ag yr oedd y Barwn Penrhyn, ac hefyd Sgweiar y Faenol, Assheton Smith, a'i geffylau drudfawr yntau.
Yma y cyfeiriodd Lloyd George at Ymreolaeth i Gymru pan oedd ef ei hunan yn arwain mudiad Cymry Fydd oedd i ragflaenu Senedd i Gymru.
Yn 么l yr awdur dyma pryd yr ymddangosodd Lloyd George fel Pamell Cymru.
ffyrnigrwydd Y nesaf yw Eisteddfod Bangor 1902 lle yr ymdrinnir 芒 ffyrnigrwydd Lloyd George tuag at ryfel y Boeriaid pan y'i beirniadwyd yn hallt gan ryfel garwyr imperialaidd a hynny, ysywaeth, yn ei etholaeth ef ei hun.
Wedi 'r cyfan dyma pryd y daeth y Gwrthwynebwr Cymreig i fri Prydeinig.
Bu hon yn Eisteddfod a ddangosodd elw sylweddol a diau i awdl fuddugol Ymadawiad Arthur gan Gwynn Jones ddylanwadu ar feddylfryd y Cymry - ac yma y cafodd Lloyd George ei gyfle i roi cyfeiriad i'r feddylfryd honno i fonllefau y tyrfaoedd.
Dangosodd y ffordd ymlaen gan adrodd yr englyn hwn: Tra craig uwch craig yn crogi - tra c芒n, Tra cerdd yn Eryri, Tra nen, heulwen, tra m么r heli, Hen Walia wen anwylwn hi.
Dan gwmwl rhyfel Ymlaen a ni at yr Eisteddfod oedd dan gwmwl Rhyfel 1915 ym Mangor. Cyfeiria Lloyd George at y nosweithiau tawel yn ei fwthyn yn Surrey lle y clywai s诺n y magnel yn ergydio mewn digofaint ar feysydd rhuddgoch marwolaeth yn Ffrainc.
Yno deuai ato hen weddi yr Orsedd yn fyw i'w gof, "0, Iesu, nad gamwaith,"
Eisteddfod Mab y Bwthyn, Cynan, y gelwir Eisteddfod 1921 pryd y dadorchuddiwyd y gofgolofn yng Nghaernarfon. Erbyn hyn dywed yr awdur fod Lloyd George yn colli peth o'i boblogrwydd oherwydd torri ar wario cyhoeddus a thorri ei addewid o genedlaetholi y diwydjant glo.
Ton o dristwch Erbyn 1931 Y Dyrfa gan Cynan rto a ddaeth i'r amlwg yn Eisteddfod Bangor ond bu ton o dristwch oherwydd absenoldeb Lloyd George.
Roedd y cancr yn ymosod arno gan ei adael yn bur wael. Ond fe ddaeth ei ferch, Megan, i gyfleu negeseuon cadarnhaol ei thad i'r miloedd Eisteddfodwyr.
Yr olaf Prifwyl olaf Lloyd George oedd yr un yng Nghaernarfon 1935 ac yn 么l ei ysgrifennydd preifat, A J Sylvester, dyma pryd y siaradodd hiraf yn y Gymraeg . Yma hefyd y gwahoddodd nifer o feirdd am bicnic yng Nghwm Pennant.
Yn y bennod olaf ond un cawn wybod am "Eisteddfod Radio Ryfeddol Bangor/Caerdydd a'r Dewin wrth y meic 1940."
Yna, yn glo, cawn ddarllen am y Dr William George. Cyfeiria fel y bu i'w ewythr Lloyd George ddweud wrtho yn nyddiau ei ieuenctid mai ei brif ddymuniad oedd bod yn Brifardd Cadeiriol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Hyfrydwch y gyfrol dra gwerthfawr hon yw'r 77 o luniau perthnasol a phrin.
Llongyfarchion a diolch i Emyr Price, am drylwyredd ei ymchwil i gyfraniad un oedd yn amlwg yn "enaid hoff " iddo.
Hefyd, diolch i Wasg y Bwthyn, Caernarfon, am waith mor gymen.
Gwybodaeth ar Gwales:
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad gan John Stevenson
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|