Adolygiad Hafina Clwyd o Clwyfau gan Penri Jones. Y Lolfa. 拢6.95
Gan fy mod eisoes eleni wedi darllen dwy nofel Gymraeg wedi eu llunio o gwmpas ynfydrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf (un gan Angharad Tomos a'r llall gan Mari Emlyn) mi syrthiodd fy nghalon braidd wrth ganfod bod y nofel hon gan Penri Jones hefyd ar yr un pwnc.
Ond y mae hon yn wahanol gan mai nofel ydyw am filwr ddaeth yn 么l yn fyw.
Y mae dweud ei fod "yn fyw" yn ymylu at fod yn gabledd oherwydd yr oedd wedi'i glwyfo'n ddrwg a'i iechyd wedi'i dorri. Mwy na hynny yr oedd ei feddwl hefyd wedi'i glwyfo gan iddo weld dau o'i ffrindiau yn cael eu chwythu'n chwilfriw o flaen ei lygaid ym Mrwydr Coed Mametz..
Huw yw enw'r prif gymeriad ac un annwyl a meddylgar iawn ydyw. Gofalwyd amdano'n dyner yn ei gartref ar fferm ym Mhen Ll欧n gan ei chwaer, Magi. Ceir portread hyfryd o Magi "y fam Gymreig" ddibriod a diblant sydd wedi eidduno ei holl fywyd i ofalu am ei thad a'i brodyr ar y fferm.
Y rhai o'i gwmpas Heblaw am roi inni ddarlun clir a chigog iawn - os oedd angen un - o erchyllterau'r Rhyfel dieflig hwnnw, thema'r nofel yw y modd yr effeithiodd clwyfau Huw ar ei anwyliaid o'i gwmpas.
Ei dad sych-dduwiol, ei frawd ofer, Alis ei nith beniog ac yn bennaf oll ei gariad Luned.
Nid yn aml y cawn yn y Gymraeg ddisgrifiad o ddau yn caru a hynny ar brydiau mewn geiriau tu hwnt o graffig.
Disgrifiwyd y cyfnod hwn fwy nag unwaith gan Kate Roberts ac yr ydym wedi cymryd ei gwaith hi fel enghraifft o'r ing achoswyd gan y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae yna adlais o hynny yma gan Penri yn y disgrifiadau o'r tirwedd a'r dillad a'r galar ond fuasai Dr Kate byth bythoedd wedi disgrifio'r act rywiol fel a wneir yn y gyfrol hon! Mwy o D H Lawrence nag o Kate efallai.
Hyd at ddagrau Mwynheais y stori'n fawr. Hyd at ddagrau yma ac acw, er fy mod yn gweld popeth yn gorffen yn rhy daclus braidd.
Un peth oedd yn fy nharo'n chwithig oedd penawdau'r penodau - a oedd angen rhai o gwbl?
Mae'n gwneud y cyfan ymddangos yn rhy gatalogaidd.
Ac ar y diwedd y mae yna dudalen o Ddiolchiadau a phedair tudalen a hanner o Gydnabyddiaethau. Buasent yn llawer gwell ar ddechrau'r llyfr yn fy marn i.
Ond stori pob teulu yng Nghymru yw hon - stori teulu Hedd Wyn a Wilfred Owen, brawd fy nain, pedwar cefnder i fy nhad - a thra pery cof teulu nid yw rhyfel byth yn gorffen.