Clirio cymylau rhyfel
- Adolygiad Grahame Davies o Tir Newydd gan Gerwyn Wiliams. Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru. 309 tt. 拢15.99.
'Dyw'r geiriau 'Cymraeg' a 'rhyfel' ddim yn mynd gyda'i gilydd yn dda iawn. A'r gymuned Gymraeg ers cwpl o ganrifoedd wedi gosod 'Heddwch' wrth ganol ei seremon茂aeth gyhoeddus, ac wrth ganol ei hunan-ddelwedd, y mae'r profiad milwrol wedi ei alltudio i'r tywyllwch eithaf, ymhell o 'wyneb haul llygad goleuni.'Ac eto, dyn a 诺yr, mae'r wlad a'i phobl wedi profi digon o ryfel dros y cyfnod hwnnw; yn anturiaethau ymerodraethol ac yn rhyfeloedd byd fel ei gilydd.
Yr Ail Ryfel Byd yw testun y gyfrol newydd gampus hon gan Gerwyn Wiliams, y ddiweddaraf yng nghyfres Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig dan olygyddiaeth John Rowlands, sydd yn bwrw golwg dros ymatebion llenyddol Cymraeg i'r gwrthdaro erchyll hwnnw.
Dyma'r eildro i Williams ymwregysu er mwyn mynd i'r afael 芒 rhyfel.
Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1997 am Tir Neb, sef astudiaeth gyffelyb o lenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, a synnwn i ddim nad yw gwobr 2006 yn ei aros yn sgil y gwaith diweddaraf hwn.
Un o'r pethau braf am y gyfrol yw'r ffordd mae'n gweld yr ymateb Cymreig mewn cyd-destun ehangach. Dyna a wneir yn y bennod agoriadol lle cynigir trawsolwg ar brofiad y Cymry o'r rhyfel, yn filwyr, yn sifiliaid ac yn heddychwyr, gyda'r ymatebion oll yn cael eu gosod yn erbyn cefndir ehangach y cyfnod, ar lefelau Prydeinig ac Ewropeaidd.
Cydbwysedd
Dyma enghraifft, o'r bennod gyntaf, o'r cydbwysedd iach sy'n nodweddu'r gyfrol: wrth ddyfynnu un awdur sy'n disgrifio'r profiad Cymreig fel un o wrthsafiad parhaol yn erbyn goresgyniad, meddai:
Mae'n sicr fod y weledigaeth hon o Gymreictod, un a ddyrchafa fychanfyd cymdogol, cl貌s, Cymraeg yn Waldoaidd yn nannedd bygythiad gwrthnysig, materolaidd Saesneg, yn un y gallai amryw o'r awduron a ddyfynnir yn y gyfrol hon uniaethu 芒 hi. Ond un weledigaeth yw hi, ac yn enw lluosogedd ac amrywiaeth, cam gwag fyddai mabwysiadu dehongliad mor rhinweddol, ac ar ei waethaf, hunangyfiawn a chyfyngol o Gymreictod.
A dyna, o'r dechrau oll, osod allan y bwriad o osgoi'r perygl o gyfyngu'r ymateb Cymraeg i'r rhyfel i gyfres o gwynion a gwrthwynebiadau. Tra'n rhoi sylw teilwng i'r dystiolaeth heddychol bwysig, mae Wiliams wedi gwneud gwaith arwrol yn canfod ac yn amlygu deunydd gan yr hebogiaid yn ogystal 芒'r colomennod, camp nid bychan pan y mae rhywun weithiau yn cael yr argraff mai'r colomennod, ar y cyfan, sydd wedi llunio ymateb cymunedol y gymuned Gymraeg i ryfel fel y cyfryw.
Dengys y gyfrol fod 2,920 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru fel gwrthwynebwyr cydwybodol yn ystod y rhyfel, y rhan fwyaf ohonynt ar sail heddychiaeth Gristnogol, sef dwywaith cyfartaledd yr un ymateb yn Lloegr a'r Alban.
Does ond rhaid edrych ar enwau rhai o fawrion llenyddiaeth Gymraeg a fu'n heddychwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel y'u cofnodir yn y gyfrol hon, i weld pa mor ddylanwadol y mae eu safbwynt wedi bod: Gwynfor Evans; Kate Roberts; Waldo Williams; John Gwilym Jones; Morris Williams; Pennar Davies a J. Gwyn Griffiths. Ac ni fu pleidwyr achos heddwch ymhlith llenorion y Gymraeg wedi'r rhyfel yn dawel o bell ffordd ychwaith.
Ond ar yr un pryd, mae'r gyfrol yn nodi i 300,000 o Gymry wasanaethu yn y lluoedd arfog rhwng 1939 a 1945, gyda 15,000 ohonyn nhw'n cael eu lladd. Mae rhywun yn cael y teimlad nad yw'r safbwynt mwyafrifol yma wedi cael cymaint o ofod yn ein diwylliant ag yw'r safbwynt gwrthwynebus.
Y bardd a aeth i ryfel
Does dim rhaid coleddu unrhyw ddamcaniaeth gynllwyn yngl欧n 芒'r rheswm am hynny. O ddarllen y gyfrol hon, fe ddaw'n amlwg mai un rheswm yw am mai ychydig o'n llenorion o'r radd flaenaf a brofodd y bywyd milwrol.
Yn hynny o beth, ar ysgwyddau Alun Llywelyn-Williams y syrthiodd y swyddogaeth o fod yn rhyw fath o fyddin un dyn wrth ddarparu tystiolaeth Gymraeg i'r rhyfel, ac yntau wedi rhoi heibio ei ddrwgdybiaeth gynnar o'r ryfel, gan iddo deimlo fod arno reidrwydd moesol i frwydro yn erbyn Nats茂aeth.
Fe neilltuir pennod gyfan iddo, ac yn haeddiannol felly. Fe'm trawyd gan ddyfnder ac aeddfedrwydd ei ymateb i'r rhyfel fel bardd, ac, y tu allan i gyd-destun y rhyfel ei hun, fe'i cefais yn ddiddorol i ddysgu fel yr oedd ef wedi bod yn lladmerydd cynnar, eofn ac argyhoeddiadol i safbwynt dinesig a blaengar yng Nghymru, rhagor y safbwynt gwledig ac, ar y cyfan, ceidwadol. Yn sicr, un o gymwynasau'r gyfrol hon yw i roi sylw teilwng i'r bardd pwysig hwn, a fu'n gyfrwng, fel y dywed yr awdur, i sicrhau 'na roddodd llenyddiaeth Gymraeg ei phen yn y tywod rhwng 1939 a 1945.'
Serch hynny, un o'r pethau sy'n synnu rhywun wrth fwrw golwg dros y cyfnod yw'r graddau y bu i lenyddiaeth Gymraeg roi ei phen yn y tywod. Mewn man arall, dyfynnir Gwyn Thomas yn pwyntio allan nad torri'r rhyfel oedd digwyddiad mawr ail hanner y tridegau i lenorion Cymraeg, ond llosgi'r Ysgol Fomio.
Gan ddibynnu ar eich safbwynt, mae blaenoriaethu Penyberth o flaen yr Ail Ryfel Byd un ai yn enghraifft glodwiw o annibyniaeth barn, neu'n enghraifft o fewnblygrwydd arswydus o anghyfrifol. Heb iddo gymryd ochrau yn amlwg mewn mater o'r fath, mae awdur Tir Newydd wedi darparu llawer iawn o ddeunydd pryfoclyd i rywun gnoi cil arno.
Llenorion eraill
O symud ymlaen i feirdd eraill a brofodd y rhyfel, fe roddir sylw haeddiannol iawn i Elwyn Evans, bardd a wasanaethodd yn y Dwyrain Canol, ac a greodd gerddi trawiadol allan o'r profiad. Ond wedi hynny, daw'n amlwg bod y cynnyrch llenyddol a ddeilliai o brofiad uniongyrchol o wasanaeth milwrol ar y cyfan yn cwympo i'r ail ddosbarth o ran safon, ac ar adegau, teimlais fod agendor sylweddol rhwng praffter a disgleirdeb ysgolheictod Gerwyn Wiliams a chyffredinedd a diffyg menter llawer o'r deunydd y mae'n ei drin.
Ym mhenodau eraill y llyfr, ceir ymdriniaeth 芒'r rhyfel yn y meysydd canlynol: rhyddiaith a drama 1940-1960; rhyddiaith 1960-2000 a barddoniaeth 1960-2000.
Yn yr adran olaf honno, diddorol yw gweld sut y mae diwylliant a ddewisodd gadw'r rhyfel o hyd braich ar y pryd, wedi ymateb, unwaith i'r brwydro ddod i ben, gyda dilyw o gerddi ar y pwnc. Wrth imi baratoi fy nghasgliad o lenyddiaeth Gymreig yn ymwneud 芒'r Iddewon rai blynyddoedd yn 么l, buan iawn y sylweddolais fod rhaid imi beidio 芒 chynnwys cerddi am yr Holocost ynddo, a hynny gan fod cymaint o'r rheiny i'w cael fel y gellid fod wedi llenwi casgliad ar 么l casgliad gyda nhw.
Cwestiynau caled
Mae'n ddealladwy, wrth gwrs, pam mae beirdd a llenorion wedi ymateb i ddigwyddiad mor erchyll, ond mae agwedd ychydig yn dywyllach i'r ffordd y mae rhai beirdd Cymraeg wedi defnyddio delweddaeth yr Holocost hefyd - ac fe gyffyrddir 芒 hyn yn Tir Newydd - sef cymhwyso delweddaeth yr erledigaeth ar yr Iddewon i ddisgrifio pethau gwahanol, gan gynnwys sefyllfa Cymru.
Mae rhwyddineb y ffordd y mae rhai llenorion Cymraeg yn defnyddio delweddaeth o'r fath er mwyn benthyg awdurdod moesol i'w safbwyntiau yn sicr yn galli peri anesmwythder, a da yw gweld Wiliams yn gwyntyllu'r dadleuon yn hyn o beth.
Dyna un o nifer o gwestiynau caled a godir gan y gyfrol hynod ddisglair ac awdurdodol hon, sy'n ffrwyth ymchwil trylwyr i ystod eang o ffynonellau, a sydd wedi ei chyflwyno gyda'r diwyg a'r proffesiynoldeb y mae rhywun wedi dod i'w disgwyl gan y gyfres y mae'n rhan ohoni.
Anodd iawn yw dod o hyd i unrhyw wendidau. Fe'i cribiniais am arwyddion o duedd annheg tuag at safbwynt arbennig, ond yn ofer. Yn y diwedd, bu rhaid imi fodloni fy angen i gyfiawnhau fy swyddogaeth fel adolygydd gwrthrychol drwy nodi nad Amon Goeth ond Itzhak Stern yw'r Iddew a gysurir gan Oskar Schindler yn y sgwrs a ddyfynnir o'r ffilm Schindler's List, ar dudalen 20 o'r llyfr, ac mai rhy hael, yn fy marn i, yw cymharu nofel Martin Davis, Os Dianc Rhai, 芒 gwaith G眉nter Grass yn y bennod olaf ond un.
Mae hon yn astudiaeth feistrolgar, difyr a phryfoclyd, sydd heb unrhyw amheuaeth yn mynd i newid y ffordd yr edrychir ar yr ail ryfel byd ac sydd o'r herwydd yn deilwng i'w hystyried yn garreg filltir bwysig yn ein beirniadaeth gyfoes.
Gwybodaeth ar Gwales