|
Dathlu Calan Gaeaf Cawl gwaed, bwyd bwganod a llawer o hwyl
Coginio cawl gwaed, gwneud bwyd bwganod a diodydd dieflig - do, bu'n ddiwrnod dychrynllyd ym Machynlleth i gyd-fynd 芒 chyhoeddi llyfr Cymraeg newydd am arferion Calan Gaeaf.
Fore Iau, Medi 15 2005 yr oedd disgyblion ysgolion Glantwymyn a Chaersws wedi dod at ei gilydd yn Celtica, Machynlleth, i gael blas ar bob math o ddathliadau Calan Gaeaf yn sgil cyhoeddi Dathlu Calan Gaeaf gan Wasg Carreg Gwalch.
Roedd y prifardd Myrddin ap Dafydd, perchennog y wasg, yno gyda Malachy Doyle i gynnal gweithdai adrodd straeon a chreu ar lafar gyda'r plant.
Hefyd, yr oedd Ruth J锚n, yr artist o Dal-y-bont, Ceredigion, yn cynnal gweithdai crefft Calan Gaeaf.
Mae'r gyfrol newydd yn liwgar ac "yn llawn o hwyl a sbri arswydus" gan gynnwys syniadau sut i fwynhau ias y noson.
"Mae'r gyfrol yn cynnig llawer o weithgareddau i'r plant eu mwynhau," meddai Gordon Jones, golygydd llyfrau plant Gwasg Carreg Gwalch.
Dywedodd mai hon yw'r gyfrol gyntaf yng nghyfres 'Hwyl G诺yl' gan Wasg Carreg Gwalch.
"Ynddi, gallant ddysgu sut i wneud Lantern-Pen-Bwgan; sut i goginio cawl gwaed, gwneud bwyd bwganod a diodydd dieflig; pa wisgoedd gwych y gellir eu gwisgo; pa grefftau y gellir eu creu ar gyfer addurno stafell barti a pha g锚mau arswyd y gellir eu mwynhau.
"Mae yma straeon ysbryd; s么n am yr arfer o chwarae triciau; cerddi difyr; disgrifiadau o g锚mau afalau traddodiadol.
"Ac hefyd, cawn ddarllen pam fod pawb yn dathlu Calan Gaeaf a sut y dechreuodd y cyfan amser maith yn 么l," meddai.
Yn y cyswllt hwnnw, ychwanegodd fod g诺yl Calan Gaeaf a'i holl weithgareddau o dynnu coes a dychryn yn rhywbeth sy'n llawer h欧n na'r chwarae 'lol neu lwc' sydd wedi croesi'r Iwerydd yn 么l yma o'r America yn ddiweddar.
Dathlu Calan Gaeaf, Celebrating a Celtic Halloween. 64 tudalen o hwyl a dehongli. Golygydd: Gordon Jones, pris 拢6.95 Gwybodaeth ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|