|
Anturio yn y Cymoedd Deg taith i'r teulu
- Adolygiad Gwyn Griffiths o Anturio yn y Cymoedd gan Dafydd Meirion. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.50.
Cefais dipyn o fwynhad gyda'r llyfryn Anturio yn y Cymoedd - a fy ysbrydoli i wisgo fy esgidiau cerdded er mwyn dilyn rhai o'r teithiau cerdded a awgrymir ynddo.
Cyfrol yw gyda straeon i blant oddeutu'r saith neu wyth oed hyd at 11, pob un yn cael ei dilyn gan fanylion taith gerdded sy'n ymweld 芒'r mannau y cyfeirir atynt yn y stori. Yng nghwmni rhieni neu athrawon, wrth reswm.
Yna ceir cyfres o gwestiynau i'w hateb wedi i'r plentyn, neu ddosbarth, gwblhau'r daith.
Wedi anfon yr atebion i Wasg Carreg Gwalch bydd y plentyn yn derbyn tystysgrif.
Hanes a chwedl Rwy'n tybio bod y gyfrol yn rhannu'n bum stori hanesyddol a phum chwedl.
Defnyddiaf y gair "tybio" gan nad wyf yn hollol sicr i ba ddosbarth y perthyn stori Offeiriad Eglwysilan, a arferai annog teuluoedd y meirw i osod, gyda'r corff, yn yr arch y pethau gwerthfawrocaf a feddent.
Wedyn byddai'r offeiriad a'i ferched yn ysbeilio'r eirch. Stori werin, yn hytrach na darn o hanes, debygwn i.
Ar y cyfan, cefais y blas mwyaf ar y chwedlau. Cystal cyfaddef bod pedair ohonynt, Yr Helygen Wylofus, Cawr Gilfach-Fargoed, Gwladus a'r Llanc o Defynwy ac Offeriad Eglwsyilan yn anghyfarwydd imi.
Am y llall, Llyn y Forwyn, tybiais mai stori Llyn y Fan Fach oedd hon a bod yr enw Llyn y Forwyn yn gysylltiedig 芒 Morwyn Penrhys.
Caerffili Mae'r straeon hanesyddol yn mynd a ni o Guto Nyth Br芒n, Llywelyn Williams (neu Penrose) Y M么r-leidr o Gaerffili, at Ddic Penderyn, William Price Y Doctor Anhygoel, hyd Derfysgoedd Tonypandy.
Hoffais yn fawr hanes Y M么r-leidr o Gaerffili ac nid oeddwn yn ymwybodol o gwbl o'r cysylltiad 芒 Chaerffili.
Tenau yw'r ymdriniaeth 芒 William Price. Gellid bod wedi s么n am ei waith yn feddyg cyflogedig gan weithwyr diwydiannol ym Mhontypridd a'r gweithwyr eu hunain yn cyfrannu swm gyson o'u cyflogau fel y caent eu trin am ddim ganddo wedi damwain neu yn ystod cyfnod o salwch.
Cynllun a efelychwyd wedyn gan y glowyr yng Ngwent a chan Aneurin Bevan pan sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd.
Mwy i ddod? Buaswn yn gobeithio y bydd yr awdur yn parhau gyda'r syniad hwn oherwydd y mae yn yr ardaloedd hyn lawer o gymeriadau eraill ac theithiau y byddai'n fuddiol dilyn eu trywydd.
Rhyfedd meddwl iddo ymdrin ag Eglwysilan heb gyfeirio at fedd William Edwards, adeiladydd pont Pontypridd a chynllunydd Treforys.
Nid oes gyfeiriad at Bontypridd na chyfansoddwyr ein hanthem genedlaethol, 'chwaith. Nac at Morgan John Rhys o Lanbradach.
Mae syniad Anturio yn y Cymoedd yn ardderchog gan ateb y gwir alw am gyfrolau fel hon mewn ardal lle mae'r Gymraeg ar gynnydd sylweddol.
Gwybodaeth ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|