|
Y Grefft o Dan-y-Groes Hwch o fewn trwch blewyn i gadair y Steddfod!
Adolygiad Gwyn Griffiths o Y Grefft o Dan-y-Groes. Golygydd: Idris Reynolds, Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.
Am andros o stori! Dosbarth cynganeddion y Prifardd Dic Jones yn llunio awdl ar y cyd a'i hanfon i gystadleuaeth Cadair Eisteddfod Cwm Rhymni 1990.
Y ffugenw oedd Lleng a'r enw'n yr amlen oedd Blodwen Evans, Gwesty'r Emlyn, Tanygroes, Ceredigion.Ond hwch morwyn John yr Emlyn - man cyfarfod y dosbarth - oedd Blodwen!
Cawn holl hanes yr awdl o'i chynllunio hyd banics ddydd y Cadeirio gan Dic Jones ei hun yn y gyfrol Y Grefft o Dan-y-groes.
Y testun yng Nghwm Rhymni oedd Gwythiennau, a barn y dosbarth oedd fod yn rhaid wrth rywbeth bach i blesio pob un o'r tri beirniaid.
Ychydig o wyddoniaeth i foddio Emrys Roberts, ychydig am bysgota ac afon yn abwyd i'r cyn botsiwr T. Llew Jones a chyfeiriad parchus at John Elfed Jones, Cadeirydd y Bwrdd D诺r, noddwr y Babell L锚n a chyfaill y trydydd beirniad, Gerallt Lloyd Owen.
A bant 芒'r cart, fel y dwedir yn y parthau hynny.
Holl gyffro'r creu Fe gawn holl gyffro'r creu. Un o'r aelodau, Emyr Oernant, yn cyrraedd un noson gyda chadwyn gyfan o englynion.
Yr oedd, meddai Dic, "fel ennill y loteri heb brynu tocyn".
Daeth dydd y Cadeirio a beirdd Tan-y-groes yn astud o gwmpas uchelseinyddion y maes yn gwrando ar T. Llew yn traddodi.
Mae'r chwysu'n cyrraedd ei uchafbwynt pan fo'r Llew yn cyrraedd y Dosbarth Cyntaf ac heb hyd yn oed s么n am awdl Lleng.
Mae tair awdl o gwmpas y brig - pob un yn deilwng o'r Gadair.
Cyrraedd y twlc Beth os bu i'r llythyr gyrraedd twlc Blodwen heb i neb ei weld? A oedd Blodwen wedi ei ddarllen a chadw'r gyfrinach, yn unol 芒 gorchymyn y llythyr? A oedd un o deulu parchus perchyll Tom Troed-yr-aur ar drothwy anfarwoldeb? Fyddai helynt Ianws a dwy awdl Aberteifi ddim ynddi o gymharu 芒 hwch yn ennill Cadair y Genedlaethol!
Ochenaid o ryddhad Daeth ochenaid - mochenaid? - enfawr o ryddhad oddi wrth feirdd Tan-y-groes pan ddechreuodd y Llew draethu am rinweddau Lleng - arfer beirniaid yw s么n am y gerdd orau yn olaf, ac yr oedd dwy i ddod.
Ac os oedd T Llew yn ei morio hi a'r dorf yn eu dyblau gallai gw欧r Tanygroes anadlu'n rhydd o wybod bod deunydd, os nad gwell, fwy addas i ddod.
Ond fel y dywed Dic, beth byddai'n flwyddyn wan? Beth pe byddai Myrddin ap Dafydd heb gystadlu a Tudur Dylan wedi anghofio postio ei awdl! Mae'r dychymyg yn rhedeg reiat.
Yn ogystal 芒'r stori ardderchog hon fe gynhwysir awdl ddifyr, ddychanol a hynod ddarllenadwy Lleng yn y gyfrol.
Mae'n gyfoes iawn, hefyd, yn mynd i'r afael - ymysg pethau eraill - 芒 llygredd ein planed.
Mwyaf o hwyl Petai hynny i gyd ddim digon i wneud Y Grefft o Dan-y-groes yn werth 拢7, mae yma lawer, lawer, mwy.
Heb os, dyma'r llyfr a roddodd fwyaf o hwyl a llawenydd imi ers degawdau.
Cyfrol o farddoniaeth yn nhraddodiad afieithus y gymdeithas 芒 ymgasglodd o gwmpas Bois y Cilie 'slawer dydd.
Cerddi gan feirdd yn cymryd eu crefft, ond nid nhw eu hunain, o ddifri. Cerddi cyfarch, cerddi diolch, y llon, y lleddf - a llwythi o ddireidi.
Mae yma lawer iawn o dynnu coes. Cerddi'n ateb cerddi. T卯m Talwrn Tan-y-groes yn pryfocio T卯m Crannog ac ati.
Teimlwn fy mod yn adnabod cymeriadau fel Emyr Penrhiw, Dai Rees Davies ac Emyr Oernant.
Cawn bigion o gynnyrch carlamus Stacan yr Awen, tudalen farddol papur bro Y Gambo, ynghyd 芒 chefndir y cerddi.
Pe dechreuwn ddyfynnu byddwn wrthi am byth. Dyna faled Jon Meirion Jones i gyfarch y Prifardd Dic Jones ar gyrraedd "oed yr addewid". Ni wn a 诺yr pawb fod Dic wedi arall gyfeirio a bod gwersyll gwyliau Tipi ar fferm Yr Hendre.
Bydd eisiau Archdderwydd ar Gymru cyn hir, A phwy'n well na'r Hendre, Geronimo'n wir, Cadeirio mewn pow-wow, a dawns shwl-di-mwl - A phwff o gynghanedd o b卯b Sitting Bull.
Mae Dic yn wrthrych sawl cerdd, fel un Ifor Owen Evans yn dymuno gwellhad buan iddo ar 么l cael clun newydd: Mae cymaint ynddo bellach o steinles st卯l, wir dduw - Mae dipyn yn fwy gwerthfawr fel sgrap nag yw e'n fyw. A phan 'mhen hir flynydde fe ddaw i ddiwedd oes Nid i Barc Gwyn yr eith e, ond i brecyrs Tan-y-groes.
Cerddi caeth yw'r mwyafrif yma, gan gynnwys awdl gampus arall ar y cyd i fisoedd y flwyddyn - dau fesur i bob mis, pob un o'r pedwar mesur ar hugain.
Ni anfonwyd hon i'r un eisteddfod!
Englynion campus Hoffais gerddi byrion Ken Griffiths, sy'n dwyn Sarnicol i gof, ac y mae llu o englynion campus.
T. Llew Jones yn diolch i John Davies, Aberporth am botel o win cartref gyda dau englyn. Dyma'r olaf o'r ddau:
Daw gwin ffein o'r Rhein, a'r Rh么n, - rhai da iawn Yw'r Bordeaux a'r M芒con; Molir y St. Emillion, - Gwell eto yw'r Ch芒teau Si么n.
Am ganmoliaeth!
'Does dim yn y gyfrol nad yw'n talu'n llawn am ei le.
Hanes y dosbarth Ceir gan y Prifardd Idris Reynolds hanes cychwyn y dosbarth a theyrnged i'w syflaenydd, y diweddar Roy Stephens, a fu'n gyfrifol am sefydlu nifer fawr o ddosbarthiadau Cerdd Dafod yng Ngheredigion.
Darllenais y gyfrol o glawr i glawr heb ei rhoi o'r neilltu unwaith.
Ni fydd hon yn ymuno 芒'r cyfrolau barddoniaeth eraill ar fy silffoedd. Caiff aros wrth fy mhenelin yn y stydi - i erlid y falen ymaith.
Cyfrol ddisylw Teimlaf reidrwydd, er hynny, i daro nodyn neu ddau beirniadol, wedi eu hanelu at y cyhoeddwr.
Oni bai i 大象传媒 Cymru'r Byd ofyn imi ei hadolygu mae'n annhebyg y buaswn wedi prynu'r gyfrol, llai fyth ei darllen.
Wedi ei derbyn, aeth pythefnos heibio cyn i mi gychwyn arni.
Nid yw clawr y gyfrol, er tlysed y llun, yn cyfleu dim o natur y cynnwys. Yr un modd y broliant difflach.
Ac erbyn i mi gyrraedd tudalen 120 yr oedd y meingefn yn ymddatod!
A chofier, nid nofel i'w darllen a'i lluchio yw hon, ond cyfrol i ddychwelyd ati dro ar 么l tro.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|