大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llafurwyr y M么r
Cofio cyfraniad 'yr Admiral'
  • Adolygiad John Stevenson o Llafurwyr y M么r. Darlith Goffa Aled Eames gan y Dr David Jenkins. Traddodwyd yng Nghapel Carmel, Moelfre, Medi 24, 2005. Cyhoeddir gan MOROL (Sefydliad Astudiaethau Morwrol Cymru) ar ran Partneriaeth Moelfre.

    Cefais fy mreintio nifer o weithiau yng nghyswllt y ddarlith hon, darlith i gofio g诺r oedd yn hanesydd morwrol ac erbyn ei farwolaeth annhymig, yn arbenigwr byd enwog yn y maes.

    Y fraint gyntaf oedd cael gwrando ar y Dr David Jenkins yn traddodi'r ddarlith yng Nghapel Carmel, Moelfre.

    Yr ail fraint oedd cael copi o'r ddarlith yn rhad ac am ddim wrth imi adael y cyfarfod niferus - a theg dweud fod pawb arall oedd yno wedi cael copi am ddim hefyd!

    Ond, y fraint fwyaf o ddigon oedd honno a gefais flynyddoedd ynghynt, cyn cychwyn am Gapel Carmel.

    Clawr un o lyfrau Aled eames Y fraint honno yw gallu ymffrostio imi adnabod Aled Eames ac wedi ei gyfri yn ffrind dibynadwy yn ystod cyfnod digon tymhestlog.

    Tro cyntaf
    Mae pymtheng mlynedd ar hugain ers inni gyfarfod am y tro cyntaf - ef yn Warden Neuadd Reichel ar ddiwedd y Chwedegau dechrau'r Saithdegau a minnau yn 1969, yn las-fyfyriwr ar gychwyn ei flwyddyn Golegol gyntaf.

    Hawdd oedd gweld, wrth sgwrsio hefo fo, fod hwn yn dipyn o gymer ac yn dra gwahanol i'r ysgolheigion (prin) eraill yr oeddwn wedi eu cyfarfod.

    Yr hyn oedd mor wahanol am Aled Eames, o'i gymharu a chymaint o'r ysgolheigion Cymreig eraill, oedd ei fod yn gwisgo ei ddysg aruthrol mor ysgafn a'r cyfan i'w weld mor ddiymdrech.

    I lawer ohonom yn Neuadd Reichel, roedd Aled Eames bron a bod yn "un ohona ni'r hogia".

    Bri ar ddefodaeth
    Neuadd draddodiadol oedd Reichel y dyddiau hynny gyda bri o hyd ar ddefodaeth y Top Table a gorfodaeth ar i bawb i wisgo 'gown' academia ar gyfer y prydau gyda'r nos.

    Yr roedd gan y Prif Borthor, Dafydd Haul, ei far preifat yn un o'r cypyrddau cudd ac yn gwerthu Newcastle Brown a phorc peis bach pob nos Sul!

    Fwy nac unwaith, ar 么l bod allan yn pregethu ac wrth ddisgwyl am ein swper Sabothol, mi fyddai dyn yn sylweddoli fod y Warden ei hun wedi ymuno 芒'r ciw, i brynu ei botel yntau o Newcastle Brown!

    Ond yr hyn oedd yn llai hysbys i ni oedd fod Aled Eames yn ysgolhaig mor braff ac ymroddedig o fewn cylch hanes morwrol - pwnc oedd yn parhau yr adeg honno, yn un cymharol newydd.

    Byddai wedi bod yn hynod ddefnyddiol i ni fod wedi cael rhestr gyflawn o gyhoeddiadau Aled Eames i'n hatgoffa ysgolhaig mor doreithiog oed o.

    Heb s么n amdano
    Yn wir, gwendid y ddarlith yw na roddwyd digon o sylw i Aled Eames ei hun gan nad oes fawr ddim s么n amdano nac am ei gyfraniad aruthrol ar radio a theledu yn y Gymraeg, yn poblogeiddio pwnc unigryw, newydd a chyffrous.

    Aled Eames oedd yr Admiral hynod boblogaidd ar raglen Helo Bobol Hywel Gwynfryn!

    A beth am y ffilmiau anhygoel a wnaeth o gyda'r cynhyrchydd teledu Selwyn Roderick, yn nyddiau cynnar S4C?

    Pwy all anghofio, er enghraifft, y gampwaith o ffilm am gyfraniad llongau Cymru i ddiwydiant guano Ynysoedd y Chinchas yn y M么r Tawel neu'r gyfres arloesol Halen yn y Gwaed.

    Ac er y gallai Cymraeg Aled Eames fod yn ddigon bratiog ar adegau yr oedd hyd yn oed hynny, rywsut, yn cyfrannu at y perfformiad ac i'r ddelwedd gyhoeddus.

    Ail greu
    Cryfder y ddarlith ar y llaw arall, yw fod Dr Jenkins wedi llwyddo i ail greu - a hynny mewn modd hynod ddifyr - y byd oedd mor bwysig i Aled Eames ei hun.

    Yr oedd hwn yn fyd oedd hefyd yn bwysig i amryw o'r rhai a gafodd y fraint o glywed Dr Jenkins yn cyflwyno'r ddarlith yn Moelfre.

    Bu chwerthiniad o adnabyddiaeth, er enghraifft, wrth i amryw o'r merched oedd yn y gynulleidfa, adnabod ei ddisgrifiad o'r hen arferiad lle'r oedd gwragedd capteiniaid yn cael ei hadnabod fel "Mrs Capten Hughes" ac yn y blaen.
    Cof am nain neu fam neu fodryb?

    Golwg eang
    Dilyn yn 么l traed Aled Eames mae'r Dr David Jenkins mewn darlith sy'n bwrw golwg eang a manwl dros hanes ein treftadaeth forwrol.

    Darlith sy'n ein hatgoffa o bwysigrwydd morwriaeth i gymunedau Cymraeg eu hiaith ar lannau M么n ac i lawr heibio Pen Ll欧n ac ymlaen i Fae Ceredigion.

    Yr oedd morwriaeth yn bwysig fel modd o gyflogi bechgyn fyddai wedi gorfod mynd i weini ffermwyr ond hefyd fel modd o greu a chadw gwaith yn y cymunedau ar y tir mawr.

    Diddorol oedd darllen am bwysigrwydd dinas Lerpwl i ffyniant trefi glannau'r Gogledd a'r sylw i'r Capten Thomas Williams o Landwrog ger Caernarfon.

    Ef oedd y cyntaf o'r Gogledd i fentro sefydlu ei hun yn berchennog llongau yn Lerpwl. Wedi i Williams wneud ei farc, penderfynodd eraill geisio'i ddilyn - pobol fel Robert Thomas o Gricieth; William Thomas o Lanrhuddlad ym M么n; Robert Hughes Jones, un arall o Ynys M么n.

    Buddsoddwyr a pherchenogion
    Mae dadansoddiad difyr o le canolog pobol oedd yn byw yn y cymunedau gogleddol, fel buddsoddwyr a pherchenogion llongau a deithiodd i bedwar ban byd.

    Clawr un o lyfrau Aled eamesPwy feiddiai ddweud, ar 么l darllen y ddarlith hon, fod y cymunedau arfordirol, Cymraeg eu hiaith ar y cyrion ac ymhell o bobman.

    Rhan ffres a hynod ddifyr o'r ddarlith yw honno sy'n cymharu'r traddodiad morwrol yng Nghymru gyda honno yng Ngwlad Groeg.

    Mae Dr Jenkins yn tynnu sylw i'r gwaith hynod ddifyr a wnaed gan ysgolheigion ym Mhrifysgol Piraeus, sy'n dangos fod tebygrwydd mawr rhwng yr arferion recriwtio yng Ngwlad Groeg a Chymru.

    Yn y ddwy wlad, roedd yn hen arferiad sefydlog i berchenogion llongau gyflogi criwiau a swyddogion o'r un lleoliadau a hynny o un cenhedlaeth i'r llall.

    Dim ond codi cwr y llen y mae'r adolygiad byr yma ond gallaf addo danteithion blasus i unrhyw un sydd am fentro.

    Mae modd cael pryd gwerth chweil hefyd wrth gwrs, trwy bori yn rhai o lyfrau swmpus Aled Eames ei hun.

    Cynnau fflam
    Mae'n amlwg o ddarllen darlith David Jenkins i Aled Eames gynnau fflam sy'n dal i losgi gan roi gobaith am ddyfodol llewyrchus ym maes hanes morwrol Cymru.

    Da iawn oedd gweld dau arall sy'n dal i gadw fflam Aled Eames ynghyn, yn bresennol i glywed y ddarlith, Robin Evans ac O T P Roberts.

    Robin Evans yn enedigol o bentref Moelfre ac yn awdur toreithiog ar hanes morwrol Ynys M么n. O T P Roberts yn flaengar ym maes archaeoleg morwrol.

    Hwy a David Jenkins yn dilyn 么l troed y pennaf a mwyaf blaengar o'n haneswyr m么r, y diweddar Aled Eames. Ac un gair i gloi; chafodd Aled Eames mo'r gydnabyddiaeth briodol cyn ei farw. Mae'n syndod ac yn rhyfeddod, er enghraifft, na chafodd ei anrhydeddu a doethuriaeth gan ei hen goleg na chan Brifysgol Cymru ei hun.

    Hon oedd y ddarlith gyntaf i'w thraddodi dan y teitl Darlith Goffa Aled Eames - gobeithio'n fawr nad hi yw'r olaf.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy