| |
|
|
|
|
|
|
|
Nicyrs Chwerthin beiddgar
Adolygiad Lowri Rees o Nicyrs gan Dafydd Meirion. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.95.
Mae'r awdur dychanol Dafydd Meirion - sydd yn gwneud hwyl am ben bron bawb a phopeth - yn ei 么l gyda dilyniant naturiol i'w nofel 罢谤么苍蝉, sef Nicyrs.
Pan ofynnwyd imi adolygu'r nofel daeth rhyw swildod rhyfedd a bu imi wrido! Meddyliwch mewn difrif, adolygu nofel yn s么n am nicyrs.
Ond wedi imi gychwyn darllen ni fu'n hir cyn imi anghofio teitl y llyfr.
Mae'r Sarjant Dic Bonc Huws yn 么l i ddatrys diflaniad Samantha Plaything Jones, a'r unig dystiolaeth i'w helpu yw p芒r o nicyrs piws!
Merch Wil Plethe, adeiladwr llwyddiannus yw Samantha ac mae Sarjant Huws o'r farn mai un o elynion ei thad sydd wedi ei chipio er mwyn talu'n 么l iddo.
Treulia Huws ran helaeth o'i amser yn yfed mewn tafarndai yn ceisio cael gwybodaeth gan gymeriadau lleol, neu'n caru, a chawn ambell i stori am ei anturiaethau yn ceisio denu merched hefyd.
Mae'n nofel seml hawdd ei ddarllen ond yn bendant ar gyfer darllenydd sydd a meddwl agored.
Gall yr hiwmor fod yn ffiaidd iawn ar adegau a phan fu iddo bibo ar y soffa bu bron imi chwerthin gymaint nes cyfogi.
Dibynna'r cyfan sut hiwmor ydych yn ei fwynhau ac os ydych yn hoffi hiwmor coch sydd yn tynnu ar unigolion a'u ffaeleddau, mae'r nofel hon jyst y peth.
Mae'n llawn chwdfeydd - o'r ddau ben - gyda Dafydd Meirion wedi eu plethu i ddigwyddiadau sydd yn llawn hiwmor ac yn rhoi mwynhad a digon o chwerthin i'r darllenydd.
Mae Dic Bonc yn treulio llawer o'i amser yn ceisio denu'r merched a chawn ei hanes gyda Delila o Ffostrasol, Tricsi'r Transfestait, Hanna Banana a Mandi.
Ond bob tro y mae ar fin cael profiad rhywiol mae rhywbeth yn mynd o'i le.
"Llaciodd y belt a'r botwm, ac agorodd y balog a llithrodd y dilledyn i draed Huws. Cydiodd yn y trynshyn. Dechreuodd Huws anadlu'n ddwfn. Thrafferthodd o ddim mynd am fronnau Tricsi ond rhoddodd ei law yn ei blwmar. Blydi Hel! Trynshyn oedd yn fan'no hefyd."
Wna'i ddim datgelu os yw Samantha Plaything Jones yn cael ei darganfod cyn diwedd y nofel, dim ond dweud bod 'na ddiweddglo eithaf swta.
Gyda 131 o dudalennau o ymchwilio i'r dirgelwch rhoddir yr ateb o fewn dwy ddalen siomedig yn unig.
Byddai'n well pe byddai'r awdur wedi treulio ychydig mwy o amser ar y diweddglo.
Ar wah芒n i hynny mae'r nofel yn wych o'i bath gyda chyffyrddiadau digri dros ben.
Llyfrau i'w gadw ar silff gyfleus ac o fewn cyrraedd i'n goglais ar ddiwrnod gwlyb.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|