|
Gwynfor: Rhag Pob Brad Adolygiad 'Clamp o lyfr am gawr o ddyn'. Gwynfor: Rhag Pob Brad gan Rhys Evans. Lolfa . 拢24.95. Tud. 544. Lluniau a mynegai.
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2006
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Adolygiad Arwel Ellis Owen:
Mae Gwynfor: Rhag Pob Brad gan Rhys Evans, yn glamp o lyfr am gawr o ddyn.
Cofiant am Gwynfor Evans, gwleidydd sy'n cael ei ystyried gan yr awdur yn un o "benseiri gwleidyddol y genedl".
Does fawr neb yn debygol o anghytuno 芒 hynny.
Llyfr Bwrdd Coffi geir yma - mae'n pwyso cymaint 芒 chopi Hen Nodiant o Caneuon Ffydd! Rhwng ei gloriau lliwgar, am 458 tudalen mae yna st么r o wybodaeth werthfawr, dehongli craff ac ysgrifennu coeth.
Nod y llyfr yn 么l yr awdur ydi esbonio pam fod Gwynfor Evans mor ddylanwadol yn hanes diweddar Cymru a'r Gymraeg.
Mae'n llwyddo i gyflawni hynny.
Hynod anffodus B没m yn ffodus i nabod Gwynfor Evans am ddeugain mlynedd a mwy. Roedd y cyfarfyddiad cyntaf rhyngom yn hynod anffodus, ac yn y 'Quad' yn Hen Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth y digwyddodd hynny.
Roedd yr Athro David Williams wedi fy annog i ystyried gwneud fy ymchwil 么l-radd ar hanes Plaid Cymru. Fe fu'n Athro yn dysgu hanes i Gwynfor Evans yn Barry County School fel yr oedd bryd hynny.
Awgrymodd yr Athro fy mod yn trefnu cyfarfod i sicrhau caniat芒d Llywydd Plaid Cymru, i mi ddarllen papurau preifat a chyfrinachol y Blaid.
Yng nghysgod cofgolofn Prifathro cynta'r Coleg fe ddywedodd Gwynfor Evans "Na".
Ni chafwyd math ar esboniad a chyda'r cwrteisi fu'n gymaint yn rhan o'i bersonoliaeth dymunodd y gorau i mi mewn maes ymchwil arall.
Yn ffodus i mi roedd criw uned Heddiw 大象传媒 Cymru wedi datgan diddordeb mewn fy nghyflogi'n ohebydd i'r rhaglen ddyddiol ac o fewn ychydig wythnosau i'r cyfarfod rhyngom yn yr Hen Goleg roedd y ddau ohonom yn wynebu ein gilydd mewn stiwdio deledu.
Ac felly y bu hi am ugain mlynedd a mwy yn trafod llawer ar amgylchiadau sy'n sail i'r cofiant.
Mantais cofiadur! Fe fyddwn wedi bod yn well newyddiadurwr petawn i'n gwybod bryd hynny yr hyn a ddatgela Rhys Evans yn awr.
Ond dyna'r fantais sydd gan gofiadur tros newyddiadurwr. Mae cofiadur yn gwybod diweddglo'r stori cyn dechrau ei ymchwil.
Gweithio tua'n 么l mae cofiadur gan geisio sicrhau nad ydy o'n dewis gorliwio neu gam-ddehongli ei ymchwil i siwtio'r diweddglo hwnnw.
Nid yw Rhys Evans yn disgyn i'r trap hwn gan ei fod yn deall fod gwleidyddion, fel pawb arall, yn newid eu meddwl, yn dilyn sawl cwys wahanol cyn dod i benderfyniad terfynol.
Petai'r cyfle gan Gwynfor Evans i edrych yn 么l, dwi'n si诺r y byddai o wedi dewis gwneud pethau'n wahanol - yn Nhryweryn, yn ei gysylltiadau gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn yr Arwisgo - a hyd yn oed yn ei gyfathrach gyda George Thomas ac, o bosib, Saunders Lewis.
Darlun cyflawn Mae nifer o wleidyddion Plaid Cymru - Dafydd Wigley, Cynog Dafis - a hyd yn oed Gwynfor Evans ei hun, wedi sgwennu hunangofiannau, ond yr hyn sy'n arbennig am Gwynfor: Rhag Pob Brad ydy bod yr awdur yn cynnig darlun cyflawn - 'warts and all' fel tae - o Gwynfor Evans a'r sefyllfa a wynebai ar y pryd.
Mae llawer o'r manylion am Gwynfor, ei lwyddiannau a'i fethiannau, eisoes yn hysbys. Yr hyn mae'r cofiant hwn yn ei gynnig ydy gwell dealltwriaeth o'r cefndir, o'r awyrgylch oedd yn bodoli ar y pryd a r么l a chyfraniad yr unigolion hynny oedd yn y cysgodion ond a oedd eto'n ddylanwadol oherwydd bod ganddynt glust Gwynfor Evans, ac am fod arweinydd Plaid Cymru - am wahanol resymau - yn ddibynnol arnynt.
Unigolion oedd y rhain, a oedd ar y cyrion, unigolion na fyddai fyth yn mynd i sefyll mewn etholiad, ond unigolion a oedd yn hanfodol i Gwynfor Evans a Phlaid Cymru.
Mae'r Barnwr Watkin Powell yn 么l y cofiant, yn datblygu yn un o'r pwysicaf o'r rhain.
Yr Heldrin Fawr Oherwydd bod hynt a helynt Plaid Cymru ers llwyddiant is etholiad Caerfyrddin yn 1966 yn weddol hysbys, cryfder arbennig Gwynfor: Rhag Pob Brad i mi ydy'r drydedd bennod.
Yn 'Yr Heldrin Fawr 1939-45' mae'r awdur wedi llwyddo i fynd i f锚r esgyrn ei wrthrych mewn modd rhyfeddol o effeithiol.
Os ydy'r darllenydd angen gwybod beth wnaeth Gwynfor Evans yn gawr o wleidydd, yna ceir yr ateb yn y fan hon.
Mae'n anodd i'r genhedlaeth newydd lawn ddirnad gwir gost yr Ail Ryfel Byd. Fe gollwyd cymaint.
Er nad aeth Gwynfor Evans i ryfel, roedd ganddo frwydr a oedd yr un mor ffiaidd - o fewn y teulu ac yn ei fro fabwysiedig.
Yn y bennod hon fe geir uchafbwynt y cofiant wrth i Gwynfor Evans amddiffyn ei heddychiaeth wrth ymdrechu i weithredu fel cenedlaetholwr.
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, pan gollwyd Epynt a phan foddwyd Cymreictod llawer i ardal dan don o faciw卯s, fe ymbalfalodd Gwynfor Evans am ffordd i "achub Cymru".
Gorfod dewis Yn ddiweddarach yn ei yrfa fe fu rhaid i Gwynfor Evans ddewis rhwng llwybr unig hunan lywodraeth un bartneriaeth amlbleidiol datganoli. I ddeall y poen meddwl a'r gwewyr oedd yn rhan o'r broses yma mae gofyn i ni ddeall y dyn.
Dyma beth yw cyfraniad mwyaf Gwynfor: Rhag Pob Brad.
Gwybodaeth ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|