|
Miss Pringle a'r Tat诺 Doniolwch naturiol
Adolygiad Glyn Evans o Miss Pringle a'r Tat诺 gan Harri Parri. Gwasg y Bwthyn. 拢6.
Sawl llyfr?
Sawl stori, mae Harri Parri wedi'u sgrifennu erbyn hyn?
Sawl gw锚n mae o wedi'i chodi? Faint mae o wedi'u goglais?
Waeth ichi heb na chwilio yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru am yr ateb i'r un o'r cwestiynau yna.
Diffyg - annodweddiadol - o'r gyfrol werthfawr honno yw na chynhwysodd y golygydd, Meic Stephens, enw Harri Parri yn hyd yn oed yr ail argraffiad - er yr haeddai ei le yn argraffiad cyntaf 1986.
Trowch at Gwales ac fe gewch chi well argraff o hyd a lled cyfraniad y dyn a gododd bentref Carreg Boeth gan fod gwefan werthu Cyngor Llyfrau Cymru yn rhestru 18 o lyfrau'r awdur sydd ar gael i'w prynu.
A'r rheini yn amrywio o'r casgliadau o straeon byrion doniol a gysylltir yn bennaf ag ef i gyfrolau eraill fel Meddygon y Ddafad Wyllt ac Etholedig Arglwyddes - y naill yn olrhain hanes y teulu rhyfeddol o Ben Ll欧n a gynigiai feddyginiaeth allai wella'r tyfiant croen hwnnw a elwid yn ddafad wyllt a'r llall yn nofel wedi ei seilio ar fywyd un o 'wragedd y plas' o L欧n.
Ond heb os fel y W J Griffith Henllys Fawr cyfoes y mae Harri Parri fwyaf adnabyddus ond yn llawer mwy cynhyrchiol na chr毛wr yr Hen Siandri.
Radio a theledu A dim ond rhan o'r stori yw hynny gan i'r diweddar Charles Willimas ddod a straeon Hufen a Moch Bach ac ati yn fyw i'n clust ar y radio.
Bu cyfres deledu hefyd - er teg yw dweud mai dim ond lled lwyddiannus oedd honno gyda'r hiwmor a'r cymeriadu oedd mor fyw a doniol ar bapur yn styfnigo rhag cael eu troi'n deledu. Collwyd y cyfuniad anhepgor o arddull y dweud a dawn darllenydd i greu lluniau o eiriau.
Ers hynny, gyda'r adroddwr newydd, John Ogwen, yn cael yr un hwyl bob tamaid ag a gafodd Charles Williams, daeth straeon Harri Parri yn rhai sy'n llenwi'r Babell L锚n yn ddyddiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweinidog diniwed O'r cychwyn, mae'r straeon yn troi o amgylch gweinidog, Y Parchedig Eilir Thomas, a'i wraig, Ceinwen. Yn ei ofalaeth gyntaf yng Ngharreg Boeth i ddechrau ond erbyn hyn wedi symud o berfeddion gwlad i dref Porth yr Aur nad oes angen dychymyg mawr i weld ynddi ddarnau o Gaernarfon lle bu Harri Parri ei hun yn weinidog a lle mae'n dal i fyw.
Bu'r symudiad hwn yn fodd iddo ddod a chymeriadau newydd ond mae'r straeon yn dal i droi o gwmpas gweinidog diniwed sy'n cael ei dynnu ar ei waethaf i bob math o helyntion a thrafferthion.
Gyda hyn oll wedi bod yn mynd ymlaen ers y saithdegau y deyrnged uchaf y gall rhywun ei thalu i Harri Parri yw dweud fod y straeon yn parhau yn ffres a doniol ond ar yr un pryd yn cadw at eu naws gychwynnol.
Mae'n gyflwr od mewn gwirionedd gydag amser fel pe byddai wedi sefyll yn llonydd mewn rhyw gyfnod arall diniweitiach a symud yn ei flaen ar yr un pryd yn y straeon hyn. Yn gyfoes, mae iddyn nhw hefyd naws rhyw gyfnod diamser arall yn troi o gwmpas capel, blaenoriaid a gweinidog.
Mae llwyddo i wneud hyn heb fod hefyd yn hen ffasiwn yn gryn gamp.
Ai o ganlyniad i ymdrech ymwybodol y digwydd ynteu rhyw osmosis llenyddol sydd ar waith?
Diniwed a syml Yn aml iawn, diniwed a syml - ac anhebygol hefyd - yw y stori ei hun. Mae'r wefr yn y dweud ac yn y sylwgarwch a'r ffraethineb wrth ddarlunio pobl a'u nodweddion.
Ac yn arbennig yng ngafael sicr yr awdur ar Gymraeg go iawn, gyfoethog a grymus y mae sawl sgwennwr cyfoes yn prysur droi ei gefn arni a'i ffeirio am anystwythder sy'n adlais o gystrawennau ac ymadroddion Saesneg yn hytrach nag yn iaith sy'n codi ac yn brothio o'n ffynhonnau ein hunain.
Dim ond mewn Cymraeg y gall straeon Harri Parri weithio gyda'u deialogi cyfoethog.
Erbyn darllen dim ond tair o'r chwe stori sydd yn y casgliad diweddaraf hwn byddai gan rywun ddigon o ddyfyniadau ac enghreifftiau i fodloni unrhyw adolygydd
Tynnu coes Er bod yma dynnu coes a digrifo cymeriadau mae'r cyfan yn hanfodol ddifalais a thyner ond yn dangos adnabyddiaeth graff o'r natur ddynol yn ei gogoniant a'i gwendidau.
Bydd unrhyw un sydd yn gyfarwydd yn barod a Mulligan y Tarmaciwr, John Wyn, ysgrifennydd blin y capel, Cecil y cadi ffan o dorrwr gwallt, William Howarth yr Ymgymerwr, John James, y cyfreithiwr sebonllyd, or foneddigaidd a Jac Black yr hen longwr wrth eu boddau gyda'r casgliad diweddaraf hwn a welodd olau dydd gyntaf ym Mhabell L锚n Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau.
A fydd neb yn synnu gweld ailadrodd y wyrth yn Abertawe y flwyddyn nesaf.
Mae Harri Parri - a ninnau - yn ffodus iawn o'i ddawn.
Braf cael doniolwch mor naturiol a chwbl ddiymhonnus yn y Gymraeg.
Gwybodaeth ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Harri Parri
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|