|
Rhys Jones - Caryl Parry Jones Bwrlwm dwy genhedlaeth
Sylwadau Glyn Evans ar Rhys Jones - Caryl Parry Jones. Cyfres Dwy Genhedlaeth. Golygydd Si芒n Thomas. Gomer. 拢4.99.
Dro'n 么l ar 大象传媒 Radio Cymru yr oedd Rhys Jones yn un o dri a fu'n rhannu ei feddyliau wedi cael y newydd ei fod wedi ei daro gan ganser.
Yr oedd yn sgwrs a wnaeth gryn argraff arnaf gyda'i agwedd tuag at ei gyflwr yn un y byddai rhywun yn dymuno ei hefelychu o gael ei hun yn yr un cyflwr.
Ni allai rhywun ond teimlo fod hon yn un o'r sgyrsiau hynny, am salwch, a allai fod yn ysbrydoliaeth ac yn gynhaliaeth.
Yr oedd hefyd yn amddifad o'r ystrydebau hynny sydd, yn rhy aml, yn britho sgyrsiau o'r fath.
Pan gyrhaeddodd y gyfrol ddiweddaraf hon yng nghyfres ddifyr Sian Thomas, Dwy Genhedlaeth, yr oeddwn yn gobeithio y byddai'r sgwrs honno, yn gyflawn neu yn rhannol, wedi ei chynnwys imi gael ei threulio wrth fy mhwysau.
A chan mai cyfres am ymateb dwy genhedlaeth i'w gilydd yw hon ymateb ei ferch hefyd i gyflwr y mae llawer gormod o deuluoedd yn gorfod ei wynebu.
Siom, wedi darllen, oedd canfod nad oes s么n o gwbl am y digwyddiad yn y gyfrol.
Oherwydd natur gyfryngol y gyfres - Cefin Roberts a Mirain Haf; Gwenyth Petty a Sara Edwards ac Owen Edwards a Mari Emlyn a holwyd cyn hyn - efallai y tybiwyd nad dyma'r lle i sgwrs o'r fath ac rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw.
Brwd a chyfoethog Er mai cyfrol fer - gryn dipyn llai na chan tudalen yw hon - mae'n adlewyrchiad o ddau fywyd, byrlymus, brwd a chyfoethog iawn ac o gyfraniad hynod gan ddwy genhedlaeth i adloniant Cymraeg.
Cymerir yn ganiataol fod y darllenydd yn gyfarwydd 芒'r gynhysgaeth o dalent a'r pwrpas yn awr yw darlunio beth sydd wrth ei wraidd ac fe wneir hynny ar ffurf atebion gan y ddau i gwestiynau gan Si芒n - ac y mae hon yn ffordd ddifai o ddod a chynnwys y ciarpad bag diwylliannol hwn i'r amlwg.
Mae'r whilmentan a'r hel atgofion yn ddifyr ddigon gydag ambell i ddarlun geiriol trawiadol.
"Roedd Mam," meddai Rhys ar y ddalen gyntaf un, "yn globan o ddynes pymtheg st么n, ond yn dal i fynd ar ei push-bike, yn helpu i ddod 芒 babis y fro i'r byd."
Peth cyntaf erioed Mae Caryl wedyn yn cofio'r peth cyntaf erioed a ddywedodd hi'n gyhoeddus: "Dyw cariad Huw" a hynny ym mhulpud y capel a fynychai.
Mae hi'n cofio hefyd cychwyn ar ei 'gyrfa' yn mynd o gwmpas eisteddfodau bychain Pandy Tudur, Llangernyw, Pwllglas ac ati yn ennill pum sylltau a rosetiau.
"Yna mi brynodd Mam a Dad git芒r fach i mi, a dw i'n cofio cloi fy hun yn y t欧^ bach efo llyfr o'r enw Hold down a chord . . .," meddai.
Y ferch ar y bws Hanesyn difyr gan Rhys yw'r un am gyfarfod y ferch a fyddai'n wraig iddo:
Yn byw yng Nghaerwys ac yn dysgu yn Ffynnongroyw "rhaid cael lifft bob bore o Gaerwys i Brestatyn, a bws o Brestatyn i Ffynnongroyw, i gyrraedd yno erbyn chwarter i naw.
"Ar ddiwedd y dydd wedyn, bws o Ffynnongroyw i Dreffynnon, ac wedyn bws o Dreffynnon i Gaerwys - roedd hi'n cymryd rua dwy awr i wneud taith sy'n para ugain munud heddiw!
"Ond. ro'n i'n aros am y bws bob prynhawn am ddeng munud i bedwar, a phan oedd y bws yn cyrraedd, mi roedd na ferch ifanc ddeniadol, hyfryd, yn dod oddi ar y bws, ac yn hytrach nag Our eyes met across a crowded room; Our eyes met across the deck of a double decker bus!" meddai.
Cyfrol ddiddan, hawdd ei darllen am ddau y mae eu cyfraniad yn fawr i fyd adloniant Cymraeg. Ychwanegiad teilwng i gyfres ysgafn sy'n plesio.
Gwybodaeth ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|