Adolygiad Lowri Rees o Adar Brith gan Lyn Ebenezer. Gwasg y Dref Wen.
Does dim yn waeth na rhywun yn cipio llyfr yr ydych ar ganol ei ddarllen ac yn ei fwynhau.
Dyna'n union fu fy hanes i gydag Adar Brith sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Dref Wen yn y gyfres Anfarwol.
Dim ond ychydig benodau oeddwn i wedi'u darllen cyn i'r llyfr ddiflannu dim ond i ail ymddangos ar bwys y toiled, yn y t欧 bach, ar gwpwrdd yn y sied ac ar bwys gwely'r dyn acw!
O'r diwedd daeth cyfle i'w fachu'n 么l a gweld ar unwaith pam y diflannodd!
Dyma lyfr gwerth chweil sydd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am adar brith Cymru.
Ymhlith yr Adar Brith mae cymysgedd o Gymry enwog ac eraill nad ydyn nhw mor adnabyddus i lawer ohonom - neu o leiaf na wyddem gymaint ag y dylem amdanynt.
Er enghraifft, fel un sy'n enedigol o'r Bala gwyddwn am fodolaeth Betsi Cadwaladr a Choch Bach y Bala ond ni wyddwn yr hanes i gyd.
Wrth gwrs, gwyddwn mai nyrs oedd Betsi a bod drwgdeimlad rhyngddi hi a Florence Nightingale.
Dysgu mwy Gwyddwn hefyd mai lleidr oedd Coch Bach Y Bala ond yr oedd cyfoeth o wybodaeth newydd i mi yn y llyfr hwn a'm galluogodd i ddysgu mwy am y Cymry hyn ac eraill.
Penodau o rhyw dair tudalen sydd i bob deryn gan gynnwys rhai mor amrywiol ac anhebyg i'w gilydd 芒 Catrin o Ferain, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Dafydd ap Siencyn, Twm Sion Cati a Cayo Evans.
Mae'n gasgliad gwiw o amrywiaeth o unigolion sydd wedi cydio yn nychymyg y genedl dros y blynyddoedd.
Gwir fod amryw ohonynt yn 'ddefaid duon' ond mae'n bwysig ein bod yn ymwybodol o'u hanes hwythau hefyd.
Llyfn ac yn syml Mae arddull Lyn Ebenezer yn llyfn, di-lol ac yn syml ac yn cyfleu'r cyffro sydd yngl欧n a'r hanesion megis ym mrawddeg gyntaf hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy:
"Wrth deithio yng nghyffiniau Mawddwy yn y cyfnos llwyd olau hawdd dychmygu herwyr yn cuddio tu 么l i bob llwyn a choeden a chlawdd yn disgwyl am ysbail. A dyna sut oedd pethe yn yr ardal yn dilyn gwrthryfel Owain Glynd诺r."
Bu'n addysg ac yn bleser darllen Adar Brith sy'n drysorfa o wybodaeth yn ogystal 芒 bod yn gyfle heb ei ail i gael cipolwg ar fywydau Cymry sy'n fwy brith na'r enwogion arferol!