|
Ar lwyfan Amser Drama bywyd ifaciwi
Adolygiad Glyn Evans o Ar Lwyfan Amser, hunangofiant J O Roberts. Cyfres y Cewri 29. Gwasg Gwynedd. 拢6.95.
Ac yntau'n actor o fri, byddai ambell un yn dweud wrthych chi rhwng difrif a chwarae mai un o'r cynyrchiadau mwyaf y cymerodd J O Roberts ran ynddo oedd yr un a lwyfannwyd gan Wasg Gwynedd i gyhoeddi yr hunangofiant hwn!
Ymhlith y gynulleidfa sylweddol a ddaeth ynghyd yr oedd C么r y Traeth, Anette Bryn Parry, Hogia'r Wyddfa, Trebor Evans, Gwanas, Hywel Gwynfryn, John Ogwen, Gwilym Owen, Vaughan Hughes, Sonia Edwards ac, yn eistedd yn y cefn o olwg pawb, Bryn Terfel.
Yr oedd hi'n noson i'w chofio yn 么l yr hyn a glywais i gyda Gwilym Owen, a gyhoeddodd ei gofiant yntau yn yr un gyfres ddwy flynedd yn 么l, yn dipyn o star turn wrth dynnu coes ei hen gyfaill.
Diau, fod actor a wnaeth ddiwrnod mor dda o waith ar lwyfan ac ar sgr卯n yng Nghymru yn haeddu cynhyrchiad o'r fath ar gyfer cyhoeddi ei lyfr.
Yr hyn na sylweddola'r gynulleidfa gyfoes yw i gymaint o'i gyfraniad i'r theatr fod cyn iddo ddod yn actor fel petai.
Fel y dywed yma, ym myd addysg y bu'n gweithio am ddeng mlynedd ar hugain cyn ymddeol yn gynnar o fod yn ddarlithydd yn Y Coleg Normal a dod yn actor amser llawn.
Cynt, actor rhan amser fu o ar lwyfan, radio a theledu.
Cymeriadau o bob math Rhy cyfres o luniau yng nghanol y gyfrol hon amcan o'r amrywiaeth o gymeriadau a chwaraewyd ganddo - o'r pennaf o'n harwyr cenedlaethol, Owain Glynd诺r i un o drigolion Carreg Boeth straeon Harri Parri i laddwr proffesiynol yng ngwasanaeth y Llywodraeth.
Yn wir, prin y gellid adnabod JO o ran pryd a gwedd yn y rhan honno yng Nghysgodion Gdansk .
Ac meddai ef ei hun: "Bu i lawer o'm cydnabod naill ai fethu f'adnabod . . . neu'm hanwybyddu'n fwriadol gan feddwl fy mod yn dechrau gwirioni neu'n mynd trwy'r 'male menopause'!" meddai.
Cofiaf innau fod mewn cynhadledd i'r wasg a alwyd gan banel artistig Theatr Gwynedd Bangor yr adeg honno heb sylweddoli pwy oedd y g诺r ar ben y bwrdd o'n blaenau nes iddo ddechrau siarad! Trodd newyddiadurwraig ataf i holi mewn syndod, "Be goblyn sydd wedi digwydd i J O Roberts?"
Yn anffodus, yn fy meddwl i, claear fu'r croeso i Gdansk a saern茂wyd mor gelfydd a mentrus gan Dafydd Huw Williams ac Ifor Wyn Williams ac er i un gyfres arall debyg ddilyn,Barbarossa, nid oedd yn arbrawf y bwriodd S4C ymlaen ag ef.
"Roedd y gyfres ar lawer cyfrif yn newydd ac o flaen ei hamser," meddai J O Roberts yn ei hunangofiant ond yr oedd yn gyfres a blesiodd lawer ohonom a thrueni i S4C wangalonni.
Ychydig o le Dim ond ychydig o amser 芒 dreulia J O Roberts yn yn Ar Lwyfan Amser i s么n am y cyfnod hwn yn ei yrfa - ond y mae'r bennod Trwy Dd诺r a Th芒n a Phethau Eraill, lle mae'n s么n am ei wahanol brofiadau yn gwneud ei 'stynts' ei hun mewn ffilmiau, yn un ddigon difyr.
Mi fyddwn i wedi hoffi cael mwy am y cyfnod hwn sy'n cael ei wasgu i ddalennau olaf yr hunangofiant.
Heb amheuaeth byddai ganddo sylwadau adeiladol a gwerthfawr i'w gwneud am ddatblygiad a chyflwr theatr a theledu Cymraeg ac mae'n drueni iddo ymatal rhag gwneud hynny yn y gyfrol hon. Troeon gyrfa Fel gyda chymaint o hunangofiannau mae perygl i'r hanes droi'n gatalogaidd ar adegau wrth i droeon gyrfa gael eu rhestru ac mae'n si诺r gen i y gall ceisio osgoi hynny fod yn boen i awdur.
Mae'r rhan helaethaf o'r hunangofiant wedi ei neilltuo i fachgendod a llencyndod ac mi fydd yn syndod i sawl un ddarganfod mai 'ifaciwi' o Lerpwl ydi'r actor o F么n y mae ei Gymraeg llafar mor wefreiddiol o gyfoethog a'i ymwybyddiaeth o deithi'r iaith mor sicr.
Ond ym mherfeddion M么n yr oedd y cyff teuluol ac yno yr anfonwyd yr ifaciwi bach i ddiogelwch rhag bomiau Hitler.
Mae'n cyfaddef nad oedd y dianc yn wynfyd - yr hiraeth o fod ar wah芒n i'w rieni a arhosodd yn Lerpwl lle'r oedd ei fam yn nyrs a'i dad yn weithiwr yn y dociau; cael ei gam-drin fel hogyn diarth yn yr ysgol a'r holl anhawster o ddygymod ag arferion gwlad yn dilyn bywyd tref.
Ond gall Cymru fod yn ddiolchgar i John Lerpwl ddod yn John Corsyreira, John Haulfre a John Ty'n Llan dros y blynyddoedd a manteisio ar y cyfle a roddodd hynny iddo ymddiddori, ymhyfrydu a llwyddo ym myd drama gan ddod gyda'r coethaf o lefarwyr y Gymraeg.
Wrth eu lleisiau Ni ddylai synnu neb mai trwy eu nodweddion llais a gair y mae'r actor J O Roberts yn darlunio yn y llyfr gymeriadau lliwgar cymdeithas wledig ei fagwraeth. Cymdeithas w芒r o ddiwylliant naturiol ond un nad oedd yn brin o ddigrifwch a thynnu coes hefyd.
Go brin bod stori well yn y gyfrol nag un beirniadaeth cystadleuaeth gwneud tyllau botymau a roddwyd i'w darllen i ysgrifennydd eisteddfod leol, na allai ddweud R:
"Twll Maftha," darllena. "Fhy hifgfwn o lawef iawn, Maftha, a fawf o si芒p afno fo."
Gallwch ddychmygu i ba gyfeiriad mae'r stori yn mynd wrth iddo dafoli tyllau merched eraill y gystadleuaeth!
J O Roberts fyddai'r cyntaf i gydnabod pa mor ffodus y bu i fod yn rhan o gymdeithas wledig, ddiwylliedig - a hynny ar adeg pan oedd cwmn茂au drama lleol ar eu hanterth yn perfformio nid yn unig ar hyd a lled ynys M么n ond drwy Gymru ac yn Lloegr.
"Hwn oedd y cyfnod pan ddaeth y ddrama'n rhan o batrwm bywyd a rhoi pleser oedd i fod yn ddylanwad drwy'r blynyddoedd," meddai.
Yn yr ysgol Bu'n ffodus wedyn o gael yr athrylith hwnnw ym myd y ddrama amatur, George Fisher, yn athro arno yn yr ysgol uwchradd ac mae ei deyrnged iddo yn un hael a chynnes.
"Fydda fo byth yn derbyn 'ba' gan neb ac roedd hi'n amhosibl gwrthod dyn oedd yn berwi o frwdfrydedd," meddai amdano, gan ychwanegu:
"Perffeithydd fel cyfarwyddwr, dyn o flaen ei oes - ac un a fyddai wedi bod yn impressario penigamp!."
Tua'r diwedd mae pennod ddwys - ysgytwol, yn wir - am farwolaeth ei wraig a'r hunllef o geisio ailafael mewn bywyd wedi'r fath rwyg.
Mae Ar Lwyfan Amser yn gyfrol deilwng gan actor teilwng mewn cyfres deilwng.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|