Adolygiad Hafina Clwyd o lliwiau liw nos gan Fflur Dafydd. Lolfa 拢6.95
Mae yna ambell flwyddyn gofiadwy yn hanes pawb ohonom. Ambell dro am resymau trist, dro arall ceir dyddiau llythyren goch.
Credaf mai blwyddyn llythyren goch a gafodd Fflur Dafydd eleni. Am y tro cyntaf anfonodd ymgais i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a dod yn agos i'r brig.
Mwy na hynny cafodd eiriau canmoliaethus oddi wrth feirniaid sydd yn gwybod be di be.
"Trwy ddychymyg ffrwythlon yr awdur llwyddir i roi inni olwg newydd sbon ar them芒u megis cariad, anffyddlondeb ac eiddigedd..."
Ac yng ngeiriau Meinir Pierce Jones "nofel gyfoes a soffistigedig..... ysgrifennu sensitif...caiff y darllenydd bleser rhyfeddol...."
Dawn gerddorol Anlwc fawr Fflur oedd bod Dylan Iorwerth wedi anfon Darnau i mewn.
Mi wyddem am ei dawn gerddorol ac eleni hefyd y lansiodd ei halbwm cyntaf, Coch am weddill fy Oes.
Heb glywed yr albwm ni allaf ddirnad beth yw ystyr y 'coch' yn y teitl.
Mae un peth yn wir: nid yw ei llenyddiaeth yn goch - yn ystyr ogleddol y gair. Mae hon yn nofel feistrolgar os anodd ei darllen ar brydiau.
Bloc o fflatiau Y cefndir yw bloc o fflatiau ac o fewn tair fflat ceir trigolion llawn cyfrinachau.
Mae yna unigedd a thwyll ac eiddigedd a ffetish.
Mae enwau'r trigolion yn dweud rhywbeth wrthym amdanynt.
Dyna Gwydion y g诺r priod sydd yn cario 'mlaen hefo'r ferch yn y fflat uchaf. Mae'r enw Gwydion yn awgrymu Cymro dosbarth canol gyda phwerau arbennig - y gallu i ddenu merched efallai. Ffotograffydd ydyw a gw锚l bopeth yn ddu a gwyn.
Lena yw ei wraig - enw cyffredin yn creu darlun o lygoden fach. Mae Gwydion yn medru bod yn ddigon difeddwl a miniog ei dafod hefo Lena. "Beth wyt ti'n ei weld wrth edrych arna i?" hola Lena. "Wal" meddai a cherdded allan o'r ystafell. Nid wyf yn hoffi Gwydion o gwbl.
Ni cheir enw'r ddynes ffansi ac y mae hynny hefyd yn arwyddocaol; cyfrinach, wyneb mewn edrych, y tu 么l i'r llenni. Ond llawn cyfrwystra a hi a chwaraeodd y tric mwyaf annynol ar Lena druan.
Yn y fflat ganol y mae Cain.
Y mae ef fel y Cain gwreiddiol yn ddyn trist a chymhleth; mae ganddo berthynas od a'i fam. Perthynas odiach a Julie (enw arall ddewiswyd yn ofalus) y ferch adawodd wrth yr allor ond sydd yn disgwyl ei blentyn. Mae gan hwn obsesiynau afiach ac yr ydym i gyd yn adnabod dynion digon tebyg.
Mae'r ddeialog rhyngddo ef a Julie uwch y pryd bwyd yn y gwesty yn orchestol ac yn rhoi inni ddarlun llawn o'i bersonoliaeth.
Gweledigaeth a dyfnder Mae yma stori afaelgar a chymhleth. Mae yma weledigaeth a dyfnder.
Ac eto yr wyf yn teimlo bod yr holl angst yn peri bod y darllen yn llafurus ar brydiau.
Teimlwn hefyd nad yw pobl gyffredin yn meddwl ac yn pensynnu fel y cymeriadau yn y nofel hon.
Anodd hefyd yw cymryd at yr un ohonyn nhw ac erbyn y diwedd yr oeddwn yn teimlo eu bod i gyd yn cael yr hyn a haeddent.
Heblaw am fab Gwydion efallai.
Mae un peth yn sicr. Mae Fflur yn sicr o fynd o nerth i nerth ac fe gawn fwy o waith disglair ganddi yn y dyfodol.