|
Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes Chwifio baner llong newydd
Sylwadau John Emyr ar Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes
a olygwyd gan Tony Bianchi, Cyhoeddiadau Barddas, 2005. 拢15.95.
Yn ei ragymadrodd i'r flodeugerdd hon, fe ddywed y golygydd mai bwriad y gyfrol yw casglu ynghyd rai o'r cerddi mwyaf nodedig a gyhoeddwyd rhwng 1987 a 2004.
Dewiswyd y dyddiad cychwynnol, meddai, am mai dyna oedd blwyddyn cyhoeddi Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif ac ni chafwyd blodeugerdd sylweddol, gynrychioliadol ers hynny.
"Dyma ymgais i ddewis, o blith y 7,000 a mwy o gerddi newydd a welodd olau dydd yn ystod y cyfnod hwn, ryw ddau gant o'r rhai mwyaf cofiadwy ... gan geisio arddel catholigiaeth eangfrydig a gochel rhag gormod o ragfarn bersonol ..."
Y mae'n briodol inni ddiolch i Tony Bianchi am ei lafur cydwybodol. Nid ar redeg y mae aredig, ac nid gwaith y gellid ei wneud ar frys oedd dethol, yn y dull a nodir, y cerddi a gynhwyswyd o blith cynifer.
Cyfrol yw hon, felly, a rydd lawer o foddhad i garedigion barddoniaeth Gymraeg.
Mae'r rhagymadrodd 11 tudalen, sy'n ffrwyth darllen eang, yn cynnig sylwadau a chanfyddiadau a fydd o gymorth i'r sawl a hoffai ddarllen ymhellach yn y maes.
Allwedd yn ein llaw Fel y dangosodd Alan Llwyd yn Barddoniaeth y Chwedegau, mae astudio cerddi cyfnod arbennig yn gallu rhoi allwedd yn ein llaw i agor drysau i ddeall rhai, o leiaf, o nodweddion y cyfnod dan sylw.
Felly yma. Llwyddodd Tony Bianchi yntau i roi ei fys ar rai o nodweddion barddoniaeth Cymru a thueddiadau'r Cymry yn y cyfnod a ddewiswyd.
"Gofyn roeddwn i," meddai, "a oedd yna ryw batrwm a lechai'n ddyfnach yng ngwead y testun, boed y testun hwnnw'n 'gyhoeddus' neu'n 'bersonol'."
Gan gyfeirio at gerddi a beirdd penodol yn y gyfrol, dengys rai o'r nodweddion arwyddocaol: "Cynigiaf, felly, mai un o nodweddion amlycaf y cyfnod hwn yw'r newid a fu yn yr ymwybod o barhad ac o ffiniau hunaniaeth ...
Gwerthoedd ac anesmwythyd Dengys y rhagymadrodd fod y gyfrol, fel y disgwyliem, yn cynnwys cerddi sy'n ymgorffori gwerthoedd traddodiadol, er enghraifft, gwladgarwch, yn ogystal 芒 rhai sy'n mynegi anesmwythyd ac ansicrwydd y byd sydd ohoni.
Wrth fyfyrio am y deunydd, cyfeiria'r golygydd ein sylw at rai o dueddiadau moderniaeth ac 么l-foderniaeth mewn llenyddiaeth a'r tyndra ffrwythlon a all fodoli rhyngddyn nhw a'r gwerthoedd mwy traddodiadol.
Mae cerddi'r beirdd sy'n mynegi'r profiadau mwyaf cyfoes yn eu cysylltu 芒 phrofiad pobloedd a gwledydd y byd. "Dyma feirdd sydd eu hunain yn byw yn y cyflwr symudol, cyfnewidiol, deuol rhwng pethau, ond sydd hefyd yn gweld y cyflwr hwnnw fel dolen yn clymu pobloedd a ddaliwyd mewn tiroedd neb ar draws y byd."
Ennyn gw锚n a chodi chwerthin Er bod "archwilio arallrwydd" a'r cyffelyb yn nodweddion gwerth sylwi arnynt, rhyddhad yw canfod bod barddoniaeth gyfoes yn gallu hefyd ennyn gw锚n a chodi chwerthin.
Diolchwn, felly, am gywydd Emyr Lewis, Malu, sy'n cynnig sylwadaeth effeithiol ar y math o drafod uchelgeisiol y ceir peth o'i naws yn rhagymadrodd y gyfrol hon.
Yn y cywydd hwnnw, llwydda'r bardd i greu stori yn y person unigol, ac mae'r stori honno ar gynghanedd yn diddanu a dychanu yr un pryd - gan ddwyn i gof gywydd Dafydd ap Gwilym, Trafferth mewn Tafarn.
Diau bod dipyn o hwyl a dychan o'r fath yn gymorth i gadw'r awen gyfoes rhag tyfu'n rhy hunangyfeiriadol a phwysig.
Mae elfen ddiddanus debyg i'w gweld yng ngherddi rhai fel Grahame Davies, Ifor ap Glyn, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd. Efallai fod y cyfle i ailafael yn yr arfer o ddatgan a pherfformio'u llinellau wedi bod o gymorth i nifer o'n beirdd cyfoes ailddarganfod effeithiolrwydd yr elfen hwyliog hon yn neuadd fawr y traddodiad barddol.
Ymhlith y mathau eraill o gerddi a gynrychiolir yn y flodeugerdd y mae'r cerddi myfyrdodus, tyn eu gwead, a ddatblygwyd gan Bobi Jones, Dewi Stephen Jones, Menna Elfyn, Einir Jones ac eraill.
Amrywiaeth cyfoethog Wrth ddarllen y gyfrol o glawr i glawr, cawn ein synnu gan amrediad eang ac amrywiaeth cyfoethog ein canu cyfoes. Ac fel y gellid disgwyl, mae nifer o'r cerddi mwyaf meistrolgar eu gwead yn gynnyrch cynganeddwyr crefftus fel Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Ieuan Wyn a Tudur Dylan Jones.
Eto, mae'r cerddi mwy rhydd ac arbrofol eu strwythur a'u cywair - er enghraifft, myfyrdodau darganfyddus Gwyn Thomas, Gwyneth Lewis a Gerwyn Williams - hwythau yn hawlio'u lle 芒 hyder diwarafun creadigaethau artistiaid sydd 芒 llygad sicr i adnabod maes a thref eu priod ddawn.
Ambell fwlch Yn anochel mewn detholiad personol fel hwn, ceir ambell fwlch. Er enghraifft, byddwn wedi disgwyl gweld cerddi yma o eiddo Derec Llwyd Morgan a Cen Williams.
Byddwn wedi disgwyl hefyd i flodeugerdd o farddoniaeth gyfoes ein cyfeirio at ddatblygiadau posibl yn y dyfodol drwy gynnwys, er enghraifft, gerddi gan Tudur Rhys Hallam.
O ran nifer y cerddi sy'n cynrychioli pob bardd, caiff rhai beirdd gynifer 芒 naw neu ddeg o gerddi wrth eu henwau, ac eraill un neu ddwy yn unig.
Hawdd deall bod y golygydd wedi gorfod brwydro yn erbyn prinder gofod, ond nid yw'r un gerdd Gair dros Ianws yn achos Si么n Aled, er enghraifft, er cystal y gerdd honno, yn ddigon i gynrychioli amrediad a dyfnder diddordeb y bardd hwnnw.
Llong newydd Bid a fo am hynny, chwifiwn yma faner diolch i Tony Bianchi am lywio'r llong newydd hon o harbwr Barddas.
Un o gryfderau'r gyfrol yw nodiadau'r golygydd sy'n gymorth i ddeall cyfeiriadaeth nifer o'r cerddi.
Mae nodiadau o'r fath yn cynnwys perlau o wybodaeth i'r sawl a ymhoffodd mewn cerdd benodol ac sy'n awyddus i'w gwerthfawrogi ymhellach.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|