|
Dawnsio Gwirion a Duw Rhyw Trafferthion merch ifanc
Adolygiad Lowri Rees o Dawnsio Gwirion a Duw Rhyw gan Sian Summers.
Nofel gyffrous ar ffurf dyddiadur ydi Dawnsio Gwirion a Duw Rhyw gan Sian Summers ac wedi ei sgrifennu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.
Bob blwyddyn yn dilyn cyfnod y Nadolig bydd pentwr o lyfrau ar bwys y gwely ac eleni dyma benderfynu cychwyn gyda Dawnsio Gwirion a Duw Rhyw gan benderfynu pori'n fras er mwyn cael yr adolygiad o'r ffordd ar fyrder!
Ond ymhen ychydig ddalennau yr oeddwn wedi ymgolli yn y dyddiadur ac yn awchu i ddarganfod mwy am awdur ifanc y pytiau bachog, dyddiadurol.
Wyneba'r ferch bob math o broblemau cyfoes. Nid yn unig mae ei theulu lloerig yn ei gyrru'n benwan ond hefyd mae ei chariad tuag at y Duw Rhyw sydd wedi symud i'r ardal o Gaerdydd yn achosi iddi ffraeo a'i ffrind gorau.
Ydi, mae bywyd Sadie Wyn Jones yn llanast llwyr.
Gobeithion a gofidiau Drwy'r dyddiadur down i wybod am obeithion Sadie, ei gofidiau, ei chrysh ar y boi newydd a'i pherthynas rewllyd a'i rhieni.
Ymhlith ei ffrindiau mae Jo sy'n dyheu am fod yn seren bop, Gafyn sy'n cadw'r ddesgil yn wastad, Fflur y ferch a gafodd ei bwlio mewn ysgol yng Nghaerdydd ac, wrth gwrs, y Duw Rhyw ei hun, Caron.
Mae Sadie yn ennill ein cydymdeimlad o'r cychwyn cyntaf. Yn gorwedd yn ei gwely mae'n disgrifio ei llofft fel platfform Stesion Bangor gan fod ei theulu i mewn ac allan o'i hystafell gymaint.
Yn syth sylweddolwn fod y teulu yn dibynnu ar y ferch ifanc dair ar ddeg i warchod ei chwaer fach, Hayley, ac i lanhau'r t欧 ac i olchi dillad.
"Sadie, dwi isio i chdi roi golch gwyn i mewn erbyn deg, i dynnu o allan erbyn 11.15, a lliwie'n sdret i mewn wedyn. Gwyns ar y lein gynta, erbyn 11.20 man hwyra a lliwia'r munud ma nhw di sychu. Paid 芒 disgwyl iddyn nhw grasu. Ma isio gneud y gora o'r haul' ma tra bydd o, chop, chop....."
Iaith gufoes Tra'n darllen bu'n rhaid imi atgoffa fy hun mai dyddiadur ar gyfer pobl ifanc yw Dawnsio Gwirion a'r Duw Rhyw.
Mae'r iaith yn gyfoes iawn ac, efallai, ychydig allan o gyrraedd rhai o'm hoed i ar adegau.
Mae cymeriad Sadie yn datblygu yn ystod y nofel a chawn ein hunain yn edmygu ei haeddfedrwydd wrth ymdrin 芒 phynciau sensitif iawn.
Bu imi chwerthin yn uchel sawl tro wrth ddarllen a bu'n hawdd iawn uniaethu 芒 nifer o'r sefyllfaoedd. Embaras mawr ar brydiau.
"Daeth na gnoc siarp ar y drws wedyn a glywish i Nain yn deud. "Dim misdimanars i mewn yn fan'na. Ar y landing bydda i yn clywed bob dim."
Mae'r arddull yn ysgafn ac yn ffasiynol ac yn cadw diddordeb y darllenydd - hyd yn oed ddiddordeb darllenydd yn ei thridegau (cynnar!).
Nofel wych ar gyfer pobl ifanc sydd yn cyffwrdd 芒 nifer eang o bynciau cyfoes a hynny gydag aeddfedrwydd.
Gall y dyddiadur hwn fod yn fwynhad pur sydd yn cyffwrdd ar fod yn gysur i nifer o bobl ifanc sydd yn yr un cwch a Sadie.
Bydded yn oedolyn neu'n blentyn, mae'n llyfr gwerth ei ddarllen.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|