|
Stori Sydyn Dwy nofel i berswadio pobl i ddarllen
Mae dwy nofel Gymraeg a gyhoeddir Ddiwrnod y Llyfr yn rhan o ymgyrch genedlaethol i ddenu pobl nad ydyn fel rheol yn darllen i droi at lyfrau.
Mae'r holl lyfrau yn y gyfres newydd Stori Sydyn yn fwriadol fyr - dim un yn hwy na 128 o dalennau o hyd.
Ond os yw'r straeon yn fyr mae'r awduron ymhlith rhai mwyaf adnabyddus Cymru a Lloegr.
Awduron y ddau lyfr Cymraeg ydi Meleri Wyn James a Geraint Vaughan Jones a chyhoeddir eu nofelau ar yr un pryd 芒 12 o lyfrau Saesneg gan Ruth Rendell, Maeve Binchy, Joanna Trollope ac awduron eraill.
Parti Ann Haf a nofel dditectif, Jake, ydi'r ddau lyfr Cymraeg newydd - y naill gan Meleri Wyn James a'r llall gan Geraint Vaughan Jones sydd yn enillydd cyson gyda'i nofelau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
'Mae darllen yn hwyl ac yn bleser y gall pob un ohonom ei rannu. Mae cymryd rhan yn Stori Sydyn yn gyfle gwych i gyrraedd darllenwyr newydd," meddai Meleri wyn James.
Bydd y llyfrau eraill, a dau wedi'u hysgrifennu yn Saesneg gan awduron o Gymru, yn cael eu cyhoeddi fis Mai 2006.
Pris pob llyfr Stori Sydyn ydi 拢2.99 ond mae yna hefyd filoedd o docynnau sy'n cynnig gostyngiad o 拢1 y gellir eu defnyddio am flwyddyn i brynu unrhyw un o'r teitlau yn cael eu dosbarthu ar hyd a lled Cymru er mwyn annog pobl i godi llyfr, ei ddarllen a'i fwynhau.
Bydd y tocynnau hyn yn cael eu dosbarthu drwy golegau Addysg Bellach a chanolfannau dysgu i oedolion, drwy'r Gyngres Undebau Llafur a chan gyflogwyr.
Hefyd, gellir eu dadlwytho o nifer o wefannau gan gynnwys gwefan
gan glicio wedyn ar Stori Sydyn.
"Nod Stori Sydyn yw agor drysau newydd i bobl, i wneud darllen nid yn unig yn sgil ond yn arfer," meddai llefarydd.
Yn 么l yr ymgyrch mae cymaint a thua 750,000 o oedolion yng Nghymru a'r nod yw defnyddio awduron llwyddiannus i berswadio 'r bobl hyn i ddarllen heb eu trethu'n ormodol o ran amser.
Mae'n ymgyrch sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru .
Meddai Jane Davidson , y Gweinidog Addysg: "Er bod angen inni argyhoeddi oedolion sy'n ddysgwyr y bydd sgiliau darllen gwell yn gwella'u cyfleoedd bywyd, rhaid inni hefyd ddangos iddynt y gall darllen fod yn fwynhad ynddo'i hun. "Pan fyddwn yn llwyddo i gyfleu'r ddwy neges byddwn wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran cyflawni ein nodau."
Ychwanegodd: "Mae'n bleser gennyf hefyd weld bod teitlau Cymraeg wedi'u cynnwys yn y rhestr o lyfrau a fydd yn helpu'r fenter i gyrraedd cynulleidfa hyd yn oed ehangach."
Gwasg Gomer sy'n cyhoeddi'r ddau lyfr Cymraeg ac meddai Mairwen Prys Jones o'r wasg:
"Mae'r ddau awdur, Geraint Vaughan Jones a Meleri Wyn James, yn gwir wybod beth yw cyfrinachau creu stori afaelgar."
Parti Ann Haf gan Meleri Wyn James:
Doedd bywyd ddim i fod fel hyn i Ann Haf. Mae hi'n fam i ddau o blant. Mae ganddyn nhw ddau dad gwahanol. Dim ond 28 oed ydy hi. Un noson, mae hi'n mynd i barti dillad secsi sy'n newid ei bywyd am byth!
Jake gan Geraint Vaughan Jones: Mae merch ifanc wedi cael ei threisio yn Pencraig. Rhaid i DCI Mat Francis ddod o hyd i'r dyn drwg cyn iddo dreisio a lladd merch ifanc arall. Mae ei yrfa yn dibynnu ar hynny. Ond mae Jake, brawd Mat, hefyd ar y trywydd. Gohebydd ydy Jake, ac mae ganddo drwyn am stori fawr. A oes un ohonyn nhw'n mynd i ddal y Treisiwr?
Parti Ann Haf ar Gwales
Jake ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Meleri Wyn James
Holi Geraint Vaughan Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|