| |
|
|
|
|
|
|
|
Y Ferch ym Myd y Faled
Sylwadau Rhodri Ll. Evans ar Y Ferch ym Myd y Faled:
Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif gan Siwan M. Rosser. Gwasg Prifysgol Cymru. 拢35.
Mae cyfrol newydd Siwan M. Rosser, darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn ymdrin 芒 delweddau o'r ferch ym maledi'r ddeunawfed ganrif.
Mae'n galonogol gweld cyfrol yn archwilio maes sy'n amddifad o astudiaethau manwl a threiddgar, sef maes astudiaethau menywod.
Mae cyfuno'r maes hwn 芒 hanes y faled yn creu cyfrol hynod wreiddiol a hynod ddifyr.
Egyr y gyfrol gyda rhagymadrodd manwl ac ynddo fraslun o'r faled yn y ddeunawfed ganrif.
Mae'r penodau a ddilynir yn elwa'n fawr o'r rhagymadrodd hwn - trwy ganiat谩u'r trylwyredd angenrheidiol heb ddieithrio'r darllenydd.
Yng nghanol y gyfrol, mae cop茂au o bamffledi a lluniau gwreiddiol o'r cyfnod ac maent yn fodd o ddod a'r hanes yn fyw i ni'r gynulleidfa fodern.
Dan ffugenwau Rhwng ei chloriau, ceir penodau swmpus ar wahanol ddelweddau o'r ferch - delweddau traddodiadol 'fenywaidd' megis y forwyn a'r fam ond yn ogystal, cawn hanes rhai merched a fu'n brwydro dan ffugenwau dynion yn y llynges Brydeinig!
Dyma agweddau sy'n mynd yn groes i'r delweddau 'clasurol' o'r ferch ac mae eu cynnwys yn y gyfrol yn tanlinellu nid yn unig ymchwil arloesol yr awdur ond yn tanlinellu hefyd pa mor anadnabyddus yw'r maes hwn mewn gwirionedd a chyn lleied a wyddom amdano.
Testun gwawd Bu'r faled yn destun gwawd am amser maith a llawer yn amau ei gwerth llenyddol ond mae Siwan M. Rosser yn cynnig safbwyntiau newydd ar yr hen ragdybiaeth hon.
Mae'r gyfrol hon yn llwyddo ar sawl lefel, ond yn bennaf, mae'n llwyddo yn sgil manylder y gwaith ymchwil ar faes sy'n parhau i fod yn un cymharol dywyll a thrwy hynny, gyflwyno hanes cymdeithasol menywod yn y ddeunawfed ganrif.
Mae'n cynnig safbwynt newydd ar hanes y faled ac, yn bennaf oll efallai, mae'n llwydo am iddi gynnig herio'r delweddau 'clasurol' o'r ferch ac ateb y delweddau hynny 芒 phenodau trylwyr ar agweddau a fu, hyd yn hyn, yn dir nas troediwyd gan lawer.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|