|
Apocalups Yfory Dal i enwi'r geiriau
Adolygiad Glyn Evans o Apocalups Yfory gan Gwyn Thomas. Barddas. 拢7.95.
Ai rhywbeth sydd ond dipyn bach yn fwy buddiol na loetran ar gorneli strydoedd ydi barddoni? Rhywbeth y gallai pobl fod yn dweud amdano ei fod yn well na mygio hen wragedd?
Yng ngherdd gyntaf ei unfed casgliad ar bymtheg o gerddi daw Gwyn Thomas i'r casgliad, ar 么l gofyn iddo'i hun "Be ydi Barddoni?:
"Wel, y mae o, welwch chi,/ Yn rhywbeth i'w wneud/ On'd ydi?"
Tybed a fyddwn yn gwybod ar 么l darllen y gyfrol hon bod mwy iddi na hynny.? Yn gwybod bod bodolaeth bardd yn rhywbeth llawer amgenach na
"Bod mewn cors hyd at eich gwddw/ Yno'n suddo, yno'n geirio,/ A neb o gwbwl yn gwrnado"?
Ar fws Nid ar fws Crosville rhwng Croesoswallt a'r Waun y byddai rhywun yn disgwyl gwneud rhyw ddarganfyddiad newydd o bwys mewn barddoniaeth. Ond dyna lle, ar bnawn heulog yn 1973, yr agorais i gyntaf erioed gyfrol gan Gwyn Thomas a chael fy ngwefreiddio a'm cyffroi gan gerddi Enw'r Gair oedd newydd ei chyhoeddi.
Y cyfuniad o sylwgarwch, hiwmor a'r gallu i ddadansoddi a dadberfeddu pethau mawr ein bod mewn iaith sgwrs a chyda darluniau ein pob dydd a'i gwnaeth hi.
Yr oedd nifer o'r cerddi yn ymwneud 芒 byd plant. Erbyn heddiw, y mae gan blant y cerddi hynny eu plant eu hunain a'r rheini nawr yn broc i awen tad sy'n daid.
Yn dra gwahanol Wrth gwrs, er bod yr hen werthoedd yn parhau y mae'r ffordd y mae'r taid - sy'n 70 oed eleni - yn ymateb i bethau yn dra gwahanol i'r ffordd yr oedd y tad ifanc yn gweld y byd.
Nid yn gymaint oherwydd bod y bardd wedi newid ond bod y byd y mae'n byw ynddo wedi newid. Wedi newid, wedi llwyr newid, i aralleirio bardd arall mewn cyd-destun gwahanol.
Yn yr amserau gynt a fu
Yr oedd ein neiniau ni -
Greaduriaid tlawd ag oeddynt -
Yn arfer ymlwybro'n llwydaidd
Mewn dilladau llaes i'r cwrdd
Yn cario dan eu ceseiliau
Lyfrau hums.
Ond heddiw, meddai yn y gerdd, Genod Ni:
Y mae ein genod ni -
Ffeministiaid y Rhyddhad -
Yn siglo mewn nicyrs tecnicylyr
Yn ddifraw a di-fra
Gan gario mewn hambagiau Gucci
Dabledi ecstasi.
Ydi mae Gwyn Thomas Apocalups Yfory yn rhan o fyd sydd wedi newid cymaint y mae rhai o'n cenhedlaeth ni ddigon agos a theimlo'n ddieithriaid ynddo wrth weld hen werthoedd dan warchae a bwystfilod wrth y drws.
Ei rinwedd ef yw ei fod ef yn gallu darlunio bygythiad a dyfodiad dinistr mewn ffordd mor ddarllenadwy sy'n cydio. Mae gwreiddioldeb a hiwmor chwithig Enw'r Gair yn parhau ar waith yn ein procio a'n sobreiddio. Y ffordd wreiddiol, wahanol o weld a delweddu:
Mae 'Appy Days er enghraifft yn adlais o'i ddiddordeb mewn ffilmiau - fel ag yw teitl y gyfrol ei hun - gyda'i darlun o arswyd ystrydebol ffilmiau: Oddi allan i waliau ein tai
Yr ochr arall i'n ffenestr ni,
Reit wrth ein drysau ni,
Yno, yn y nos,
Y mae yna, fe wyddom ni, fwystfil tywyll
A glywn ni, weithiau, yn s'nwyro,
Yn crafu ac yn ysgyrnygu'n isel.
A gwyddom, yng nghysur goleuni ein trydan,
Y bydd o, rywbryd, yn malu ei ffordd i mewn
Yma atom ni, i'n llarpio.
Mae cerddi eraill yn darlunio'n gliriach natur y bwystfil hwnnw - bwystfil sydd yn fygythiad i wareiddiad yn gyffredinol ac i'n diwylliant a'n hiaith fach ninnau yn arbennig; a hwythau gymaint dan warchae ac wedi eu clwyfo wrth i safonau a gwerthoedd gael eu cleisio.
Mae'r delweddau o'r argyfwng yn arswydo rhywun megis yn Y Stafell Hon
Yma, yn y stafell hon, y mae
Silffeidiau ar silffeidiau o lyfrau,
A'r cyfan yn llyfrau Cymraeg.
Ond y mae mudandod,
Fel d诺r budur,
Yn graddol godi ynddi.
A chyn bo hir fe fydd
Y cwbwl wedi boddi.
Ac yn Unwaith mae'n cofio y bu gennym unwaith iaith gyda ". . . geiriau a dreiglasai/ Trwy brofiadau ein pobl/ Am oesoedd, am ganrifoedd maith.".
Ond bod hynny " cyn i'r byd newid"
Cyn i fydoedd eraill lifo
Fel lafa coch drwy ein profiadau
Ac i'w geiriau losgi'n hyngyniadau
Yn gols yn ein geneuau.
Rhybuddia: Mudion ydym, megis meirwon ydym,
A Chymru wedi llifo allan ohonom,
O bosib, am byth.
Ac yn y gerdd y mae ei theitl yn deitl i'r gyfrol hefyd darlunio ei gynefin darfodedig ym Mlaenau Ffestiniog y mae - cynefin "nad ydyw heddiw'n bod" ei werthoedd a'i arferion gw芒r.
A sut yr oeddwn i, yr adeg hynny, I wybod y byddai hi, O ddisbyddu'r fath ddaioni, I mi Yn apocalups yfory.
O gael ei ysgwyd i wynebu y fath argyfwng unfed awr ar ddeg y mae dyn yn dyheu hefyd am lygedyn o oleuni. Am wreichionen o obaith lle mae anobaith yn rhemp ac y mae Gwyn Thomas yn effro i hynny hefyd gan ofyn:
Ond beth am y goleuadau pell
Nad yw ffynhonnell eu gloywder ddim yn pylu,
Beth am y disgleirdeb hwnnw
Sy'n peri ein bod ni'n gallu amgyffred
Rhywbeth y tu draw i dywyllwch?
Ac i'r sawl sy'n chwilio am obaith diau mai'r gerdd ddeg llinell, Mawrth fydd un fwyaf arwyddocaol y gyfrol:
Yr adeg hon o'r flwyddyn
Y mae y coedydd hyn
Yn fyw o ffiwsys,
Ac y mae eu brigau
Wedi'u pacio'n dynn
脗 deinameit.
Ac, yn y man,
Bydd y cyfan
Yn ffrwydro'n flagur,
Yn wyrdd godidog a gwanwyn.
Mewn byd lle mae mwy o arwyddion anobaith nac o arwyddion gobaith yn yr elfennau hynny sy'n ein cydio wrth hen werthoedd y mae ein hachubiaeth bosibl a'n diogelwch:
Yn "Y goleuni rhyfedd hwnnw Sydd y tu hwnt i gnawd A'r tu hwnt i fater ein bydysawd
pe baem ni, chwedl yntau, ond wedi gweld.
O ludw oer bodolaeth/ Daw ffenics, o farwolaeth,/ Dros gyfwng oerllyd hiraeth," meddai mewn cerdd i gofio yr Athro J E Caerwyn Williams y mae'r cof amdano yn ymrithio "trwy len mudandod".
Ac mewn cerdd i'r Gloddfa Ganol meddai: Tra byddaf fi 芒'r pethau yma yn fy nghof
Nid amgueddfa, ond rhyw fath o bresennol
O hyd fydd y Gloddfa Ganol.
Ond efallai mai'r gerdd Mari - am fam y gorfu iddi "wylio, yn ddiymadferth,/ Ei merch yn darfod" - sy'n cyfleu y syniad hwn o afael y gorffennol orau. Yn un o gerddi grymunsaf a mwyaf teimladwy y gyfrol mae hon yn delyneg ysgytwol y bydd sawl un yn uniaethu 芒'r profiad personol ysig sydd ynddi.
Dewis ffefrynnau Ac o fynd ati i ddewis ffefrynnau - fel mae rhywun yn mynnu gwneud - byddai'n anodd iawn dod o hyd i gerdd mor ysol ei chlo nag Arglwyddes y mae ei thair llinell olaf yn gadael pang o ddychryn oer.
Yn y gyfrol i gyd mae 96 o gerddi - y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu cyfyngu i un ddalen.
Efallai bod hynny'n dweud mwy am y darllenydd hwn nac am y bardd ond y cerddi byrion hynny sy'n apelio fwyaf yn hytrach na rhai hirach. Yn y canol y mae rhyw ffair sborion o gerddi byrion iawn - crafog, gogleisiol a llawn hiwmor lletchwith.
Yn ysgytwol, yn wefreiddiol, yn ogleisiol ac yn ddyrchafedig ar wahanol adegau mae Apocalups Yfory yn brawf o rym a cherddoriaeth iaith.
Hefyd yn brawf, os mai dim ond "rhywbeth i'w wneud" ydi barddoni ei fod yn rhywbeth gwerth chweil i'w wneud - o gael ei wneud yn iawn.
Adolygiad Iwan Llwyd ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|