| |
|
|
|
|
|
|
|
Rhyfedd o Fyd Yn y ras am Fedal Ryddiaith
Adolygiad Gwilym Owen o Rhyfedd o Fyd gan Gruff Roberts. Gomer. 拢6.99
Mae gen i barch mawr at y bobl hynny sydd bob blwyddyn yn penderfynu eu bod nhw yn rhoi pin ar bapur a pharatoi cynnyrch ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae gweithred o'r fath yn hawlio brwdfrydedd, disgyblaeth a dyfalbarhad - pethau yr ydw i'n sicr sy'n mynd yn brinnach o ddydd i ddydd.
A dyna pam, yn y lle cyntaf, yr ydw i yn codi fy nghap i Gruff Roberts am ei gyfrol, Rhyfedd o Fyd.
Ac yn 么l y blyrb ar gloriau'r gyfrol o Wasg Gomer roedd gan feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Eryri bethau digon caredig i'w dweud am y gwaith.
'Diddorol a dadlennol' Yn 么l un mae'r casgliad o ysgrifau yn "gofnod diddorol a dadlennol o flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif ar hugain yng Nghymru".
Cyhoedda arall fod gan yr awdur "drwyn newyddiadurwr am stori".
Digon teg, efallai, ond mae'n fater arall a ddylai casgliad o'r fath gael ei gyhoeddi. A oes yma ddigon o arbenigedd yn y dweud a'r dadansoddi i gyfiawnhau troi yr ymdrech eisteddfodol yn gyfrol gyhoeddedig.
Fe fyddwn i yn cael trafferth cyfiawnhau gweithred o'r fath.
Oes, mae yma amrywiaeth o bynciau diwylliannol, gwyddonol a gwleidyddol ond o'm safbwynt i yr hyn sydd ar goll ydi triniaeth wreiddiol o ran syniadaeth ac iaith.
Methu ysgogi Er bod y blyrb yn honni fod yna "gyfrol fyfyriol a th芒n yn ei bol" mae'n rhaid i mi gyfaddef na ddarllenais i ddim bron yn y cant a deg o dudalennau a'm hysgogodd.
Rhyw sgrifennu linc di lonc sydd yma - digon cywir a difelf - ond prin iawn yw'r gwres 芒'r teimlad sy'n gwneud i rywun deimlo ei fod yng nghwmni awdur sy'n llawn t芒n a brwdfrydedd.
Mae'n ddigon posib wrth gwrs mai arnaf i mae'r bai achos i fod yn gwbl onest alla i ddim gweld pynciau fel cynhesu byd eang, gorbysgota, sbwriel a globaleiddio yn fy ysgwyd hyd yn oed pe byddai'r awduron gorau posib yn mynd ati i geisio fy mherswadio i ddarllen amdanynt.
Llwyr anghytuno Ac fe fyddwn i'n llwyr anghytuno a beirniad yn yr Eisteddfod a fentrodd awgrymu fod gan yr awdur "drwyn newyddiadurwr".
Wn i ddim sut y byddai hi'n cyfiawnhau gosodiad o'r fath yng nghyswllt y gyfrol hon yn enwedig o gofio fod Medal Ryddiaith y Faenol wedi mynd yn gwbl haeddiannol i newyddiadurwr proffesiynol ym mherson Dylan Iorwerth.
Ac mae codi'r sgwarnog yna yn gwneud i mi godi cwestiwn pwysig yn fy marn i. Beth yw newyddiaduraeth safonol?
Mae'n ymddangos i mi nad oes gennym ni yn y Gymru Gymraeg y syniad lleiaf o beth yw'r ateb.
Mae pwysigion academaidd yn trafod y proffesiwn fel pe bydden nhw'n deall hanfodion y gwaith.
Ac yn waeth na hynny maen nhw'n credu fod ganddyn nhw'r hawl i ddoethinebu am safonau newyddiadurol.
Ond y gwir plaen amdani yw mai'r hyn a wn芒nt ydi pedlera eu syniadau unllygeidiog a rhagfarnllyd a chael eu derbyn fel newyddiadurwyr oherwydd nad oes neb yn ddigon dewr i ddadlau 芒 nhw.
Pobl felly, mae gen i ofn, sy'n stryffaglio i geisio cychwyn papur dyddiol Cymraeg a nhw a'u tebyg fydd yn paratoi cynnwys Y Byd os byth y gw锚l olau dydd - a'r papur hwn, yn anffodus, yw'r un y mae Gruff Roberts yn hiraethu amdano yn ei lyfr!
Cael blas Ond i ddod yn 么l at Rhyfedd o Fyd mae'n deg fy mod innau'n cyfaddef imi gael blas ar rai o'r ysgrifau; Ambell i Lesson yn Welsh Chwarae Teg, Requiem i John a Colli'r Cof Colli'r Cyfan.
Ond dim ond tair yw'r rhain allan o ddeunaw - sy'n brawf, efallai, o'r amheuaeth sydd gen i a ddylai'r gyfrol yma fod wedi gweld golau dydd.
Ac i ofyn; A pheri imi ofyn; a oes yma duedd i gyhoeddi gormod y dwthwn hwn?
Adolygiad ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi'r awdur
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|