| |
|
|
|
|
|
|
|
Pybcrol Llenyddol Caernarfon Meddwi ar ddiwylliant
Adolygiad o Pybcrol Llenyddol Caernarfon. Golygydd, Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50.
Er y gall yr ymadrodd "pybcrol llenyddol" ymddangos fel enghraifft benigamp o wrtheirio mae'r ocsimoron ymddangosiadol hwn yn rhywbeth y mae bri mawr arno ym mhrifddinas Iwerddon.
Yno, am rhyw ddecpunt y tro gallwch gael eich tywys o dafarn i dafarn gydag arweinydd ac actorion yn s么n am gysylltiadau llenyddol y gwahanol rai.
A chyda chymaint o lenorion y wlad honno heb fod yn swil o godi'r bys bach mae digon i s么n amdano.
Does dim rheswm, wrth gwrs, pam na ddylai'r un peth fod yn wir am drefi yng Nghymru. Wedi'r cyfan, nid Dylan Thomas yw'r unig un o'n llenorion a fu mewn tafarn!
Mae Myrddin ap Dafydd i'w ganmol am gyflwyno pybcrol diwylliannol neu feddwad i'r diwylliedig fel rhan o 诺yl lyfrau newydd yng Nghaernarfon dros 诺yl Mai 2006.
Gyda'i holl gysylltiadau hanesyddol, llenyddol a diwylliannol a'i "lleng o feirdd a llenorion" anodd meddwl am le gwell na Chaernarfon i roi cychwyn ar y fath gymowta ac mae'r arweinlyfr a gyhoeddwyd i gydfynd a'r achlysur yn cadarnhau hynny.
"Mae'r Gwyddel yn hen law ar droi ei dreftadaeth yn ddifyrrwch ac yn ffon fara . . .pam na fedrwn ninnau wneud yr un peth?" meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyflwyno'r gyfrol.
Er na fyddai unrhyw amheuon yngl欧n 芒 chyhoeddi'r gyfrol gallwn dychmygu rhywfaint o gyfyng gyngor yngl欧n 芒'i diwyg. Ar y naill law byddai temtasiwn i gyhoeddi un y gellid ei chludo'n hwylus yn eich llogell tra'n teithio ond, ar y llaw arall, byddai digon o ddeunydd at alw i lunio llyfr eithaf swmpus i'w ddarllen yn y t欧.
Y dewis cyntaf a orfu; er dydw i ddim yn si诺r faint o draul oddefir gan y llyfr.
Dull y gyfrol yw rhestru fesul un bedair tafarn ar bymtheg a chynnwys dyfyniadau perthnasol i bob un - yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth.
Hyd yn oed heb fentro rhoi un troed o flaen y llall mae'r gyfrol yn ddifyr. Ychwanegir at y difyrrwch hwnnw o fod yn y fan a'r lle a chyda hynny mewn golwg byddai map wedi bod yn fuddiol.
Does yna, ychwaith, ddim mynegai i'r gyfrol; rhywbeth arall a fyddai wedi bod yn fuddiol.
Mae yma bob math o wybodaeth ddifyr:
Yr Uxbridge Hotel oedd enw gwreiddiol Gwesty'r Celt pan godwyd y lle gan Iarll Uxbridge, Ardalydd M么n yn 1794. Newidiwyd yr enw yn Royal Hotel yn dilyn ymweliad y Frenhines Victoria a'i mam yn 1932.
I'r Marcwis hwnnw y cannodd y Bardd Cocos: Mae'r Marcwis of Anglesey Wedi colli'i glun Tasa fo'n colli'r llall Fasa ganddo fo 'run.
Gellid ateb hwnnw gyda phennill arall gan yr un bardd i gerflun o'r un Marcwis ar ben ei d诺r oedd:
Y Marcwis of Anglesey A'i gledd yn ei law. Fedar o ddim newid llaw Pan mae hi'n bwrw glaw. Yn ystod y daith gallwch fentro y bydd penillion eraill i'w hychwanegu!
Arferai tafarn Yr Harp fod yn dafarn goets fawr gyda stablau helaeth yn y cefn.
Tafarn bysgota oedd y Black Boy yn Stryd Pedwar a Chwech gydag enw'r stryd yn atgof o bris aros yno ar un adeg!
Mae hen, hen, hanes i'r rhan fwyaf o'r tafarnau ond sefydliad eithaf newydd ydi Cofi Roc - ond dyw hi ddim yn gywir dweud iddo gael ei godi ar hen safle argraffu a chyhoeddi Papurau'r Herald. Yr ochr arall i'r grisiau yr oedd hwnnw lle mae siop fwyd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg erbyn heddiw mewn adeilad a godwyd yn dilyn t芒n mawr yn 1983.
Ddrws neu ddau i ffwrdd mae'r Castle lle byddai John Eilian, un o olygyddion enwocaf yr Herald, yn mynd am lymaid canol bore ond hyd y gwelaf does dim son am y brenhinwr lliwgar a boneddigaidd hwn yn y gyfrol.
Ond y mae golygydd arall - R J Rowlands sy'n fwy adnabyddus fel Meuryn sy'n awdur y geiriau bythgofiadwy: Bendithwyd, doniwyd y dyn 脗 gwybodaeth gwybedyn. Glyn Evans. Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|