Adolygiad Glyn Evans o M么n yr Ynys Hardd - Beautiful Island. Lluniau gan J C Davies a geiriau gan Margaret Hughes. Gwasg Carreg Gwalch. Maint A4 ar ei ochr. 拢14.50.
Dywed ei deitl y cyfan sydd angen ei ddweud am y llyfr hwn - casgliad o luniau trawiadol wedi eu tynnu ar Ynys M么n yn amlwg gan un sydd yn caru'r ynys a'i hynodion naturiol.
Fel y dywedir mewn cyflwyniad nid oes anhawster dod o hyd i olygfeydd hardd i dynnu eu lluniau ar yr ynys hon.
"Maent i'w cael yn frith ar gardiau post ac ar y llyfrynnau lliwgar sy'n adlewyrchu prif atyniadau'r ynys," meddir.
Ond prysurir i ddweud mai dangos M么n fel y mae'r diwydiant ymwelwyr am inni ei gweld y mae'r rheini.
Mynd ar 么l "gwir ysbryd" yr ynys y mae J C Davies sydd wedi byw ar yr ynys ers dros ddeugain mlynedd a hynny'n ddigon o gyfle iddo ddod i adnabod cilfachau cudd yr ynys hynod hon.
Dal ysbryd M么n "Mae'i gamera wedi dal ysbryd M么n ym mhob tymer ac ym mhob tymor. Nid y canolfannau gwyliau sy'n dal ei lygaid, na'r traeth dan haul poeth canol haf. Y m么r, a'r broydd distaw wedi'u trwytho mewn chwedl a hanes - dyna ei F么n ef," meddir.
A buan iawn y sylweddolwn mai mewn traethau unig, dan gymylau ac yn nannedd gwyntoedd y mae ei ddiddordeb ef - wedi i'r ymwelwyr gefnu.
Mae ganddo ddawn i ddal pererin unig ar draethell neu aderyn bregus yn hwylio hyd llafn o olau'n hollti cymylau.
Gan fod yna fwy nag un 'ysbryd' i le gallai dyn a chamera fod wedi dilyn sawl trywydd arall wrth gwrs gyda lluniau o bobl M么n er enghraifft a chredwch chi fi fe ellid llenwi llyfr a hagrwch 芒 stomp hefyd gan gyfleu ynys wahanol iawn.
Nid dyna'r dewis yma ac y mae yma gyfansoddiadau penigamp sy'n cyfleu'r hyn yw'r ynys i J C Davies; yn drawiadol ac wedi'u goleuo'n ddiddorol. Yn wir, mae'r goleuo yn rhywbeth i sylwi'n hir arno yn llawer o'r lluniau hyn.
Cychwyn ar Landdwyn Ar Ynys Llanddwyn y cychwyn ei daith gyda lluniau trawiadol o adfeilion ac o ewyn ar greigiau a chymylau bygythiol yn cau amdanom.
Gyda phob llun mae ychydig linellau o wybodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Weithiau mae rhywun yn teimlo yr hoffai fwy o ffeithiau difyr. Dro gellid hepgor geiriau pan nad ydynt ond yn disgrifio yr hyn a welir yn y llun beth bynnag. Ond, gan amlaf, mae llu o gregyn anghyffredin i'w pigo a'u pocedu:
"Moroedd garw yn taro Ynys y Cranc ac Ynys y Mochyn. Aeth y stori y tu 么l i Ynys y Cranc yn angof - ond tybed ai ei si芒p sy'n gyfrifol amdano. Yn ystod cyfnod y llongau hwylio, gadawodd y Monk Borth Dinllaen am Lerpwl gyda llwyth o foch. Fe'i drylliwyd mewn tywydd garw. Suddodd y llong a boddodd y moch i gyd yn ymyl yr ynys fechan hon . . ."
Bywyd gwyllt Nid golygfeydd yn unig sy'n dal llygaid y tynnwr lluniau ond bywyd gwyllt yn anifeiliaid ac yn blanhigion. Weithiau gellid fod wedi manteisio ar argraffu rhai o'r lluniau hyn yn fwy gan greu'r un argraff a'r llun trawiadol o wenynen wrth ei gwaith yn cynaeafu neithdar oddi ar rosyn Burnet neu'r llun o forwennol bigddu yn hedfan tua'i nyth gyda bwyd yn ei phig.
Llwyfan Byddai cyfaill yn tynnu arnaf trwy ddweud mai unig bwrpas Ynys M么n yw bod yn llwyfan i edmygu Arfon oddi arno a chefais fy atgoffa o'r cellwair hwnnw gan lun trawiadol iawn a dynnwyd o gopa Mynydd Bodafon yn edrych tuag at ysblander Eryri.
Ond y mae digonedd yn y gyfrol sy'n profi hefyd fod gan F么n ei thrysorau a'i hysblander ei hun - heb fod angen edrych tros y Fenai o gwbl.
Cyfrol heb ei hail i'r sawl sy'n mwynhau lluniau ac yn enwedig y rhai sy'n mwynhau craffu i'r cysgodion a rhwng y gwahanol haenau o oleuni.