| |
|
|
|
|
|
|
|
Pobol a Phethe Dimbech Difyrrwch tref a'i phobl
Adolygiad Hafina Clwyd o Pobol a Phethe Dimbech gan
R M (Bobi) Owen .
Llyfrau Llafar Gwlad rhif 68.
Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.
Ym mha dref yng ngogledd Cymru y buasech chi'n disgwyl cael pobl yn arddel y glasenwau: Dei Cockney (am nad oedd erioed wedi bod yn Llundain) Glyn Cysgod Angau (yr ymgymerwr angladdau) Ned y Cyfiawn (yn cofio'r Diwygiad) Ernie Ding Dong (y clochydd) Robert y Cruelty (yn gweithio i'r NSPCC) Joe Wisgi ( nid am ei fod yn hoff o'r ddiod honno ond talfyriad o Joe Wisg ei Din am un 芒 gormod o ddeunydd yn nhin ei drowsus) a Charabanc Liz (dynes fawr).
Ai yn Rhosllannerchrugog enwog am ei lysenwau yr oedd y rhain yn byw?
Nage wir. Yr enw Romani ar y lle oedd Tref y Cwn. Yn swyddogol: Dinbych. Ar lafar: Dimbech. Tref hanesyddol llawn cymeriad fu'n gartref i nifer o'n henwogion - Thomas Gee a Gwilym R; Dr Kate a T Gwynn Jones, Frank Price Jones ac Emlyn Hooson a nifer o rai eraill.
Ysfa i chwilota Ceir cyflawnder o ffeithiau difyr am y dref yng nghyfrol 68 o Llyfrau Llafar Gwlad sef Pobol a Phethe Dimbech gan R M (Bobi) Owen.
Yr oedd yna Bob Owen arall ar un adeg ac fel hwnnw y mae Bobi Owen, y cyn brifathro, hefyd wedi'i eni 芒'r ysfa chwilota ac 芒 diddordeb mewn hanes lleol.
Os ydych eisiau gwybod rhywbeth am Ddinbych, gofynnwch i Bobi ac mi gewch yr ateb.
Mae ei wreiddiau'n ddwfn yn y dref er ei fod hefyd yn arddel Elis Owen yr hynafiaethydd o Gefn y Meysydd fel un o'i hynafiaid.
Bu Bobi Owen yn cyfrannu colofnau misol i'r Bigwn - papur bro Dinbych - ers blynyddoedd a chasgliad o'r rheiny yw crynswth y gyfrol ddifyr hon.
Mae'n s么n am ei blentyndod yng nghesail y teulu a thaid a nain yn rhan bwysig o'i fagwraeth.
Cofio dyddiau ysgol hapus wedyn cyn mynd ati i drafod y gwahanol strydoedd a'r siopau oedd arnynt ers talwm.
Gan gynnwys cryn ddwsin o siopau cigydd - un ohonyn nhw yn dad yng nghyfraith i T Gwynn Jones a fu'n gweithio yn y dref ar staff Y Faner wrth gwrs.
Hen arferiad digon iasoer Mae o hefyd yn cofio ambell i hen arferiad digon iasoer megis hwnnw pan aeth gyda'i fam "i weld corff yr hen Mrs Cotton yn ei harch oedd wedi'i gosod ar gownter y siop.
" Yn 么l yr arfer bryd hynny bu rhaid i mi gyffwrdd 芒 thalcen yr ymadawedig 芒'm llaw a hefyd roi pisyn chwe cheiniog yn y fowlen gyfagos fel cyfraniad tuag at dreuliau'r claddu."
Adran ddifyr arall yw honno am rai o gymeriadau'r dref: pobl fel Solly Hyman (stwcyn bach boliog); Geraint Vaughan Jones (y nofelydd oedd bob amser yn meddwl mai ef ac nid neb arall oedd yn iawn) Dr Thomas (y bardd feddyg) a Jac y Big a'i filgi brith. A'r annwyl Fathonwy wrth gwrs.
Mrs Hughes Ysbrydion Cafodd Bobi Owen oriau o bleser yn ymweld 芒 Mathonwy a Mair yng Ngallt y Coed lle'r arferai Mrs Hughes Ysbrydion fyw ers talwm.
Llyfrau a llythyrau a chylchgronau ym mhob man, tanllwyth o d芒n yn poeri i bob cyfeiriad a'r croeso'n wresog.
Byddai wedi bod yn braf bod yn bry ar y wal yn gwrando ar y clecs!
Adran ddiddorol arall yw honno am sgandalau lleol megis y cam a gafodd Caradog Prichard yn Eisteddfod 1939 a beth ar y ddaear ddigwyddodd i lyfrgell oludog William Lloyd Davies.
Sydd yn ein hatgoffa o hanes Llyfrgell Coleg y Bala a achosodd gymaint o ing i D Tecwyn Lloyd.
Yr eironi mawr yw y medrwn ninnau heddiw ofyn beth ar y ddaear ddigwyddodd i lyfrgell oludog Tecwyn?
Tafodiaith y dref Rhaid oedd cael pennod am dafodiaith y dref wrth gwrs.
Nifer fawr o'r geiriau hefyd yn gyffredin i bobl Dyffryn Clwyd a thref y Cathod (Rhuthun) ond llwyddodd Bobi i synnu Bedwyr Lewis Jones un tro gyda'r defnydd o'r gair d'warthu sef yr hen arferiad pan oedd un o wragedd y stryd yn cymryd y cyfrifoldeb am baratoi corff at y claddu (diweddu yw'r gair arferol).
Egurhad Bedwyr oedd di a gwarth - y di yn negyddu - rhyddhau oddi wrth warth, tynnu ymaith warth.
Bob Owen arall Trysor o gyfrol yw hon a thrueni na fyddai gan bob tref a phentref yng Nghymru ei Bobi Owen er mwyn gwarchod yr holl straeon ac atgofion sydd yn rhan mor bwysig o hanes cymdeithas.
Ie, chwilotwr praff a chraff ydyw - o'r un anian 芒'r Bob Owen arall hwnnw o Groesor.
Galwodd i'w weld un tro ar sbec ond nid oedd gan y "brenin yn ei gastell" amser i siarad wir nac amynedd chwaith gyda dyn dieithr wrth y drws.
Pan glywodd fod ei ymwelydd o Ddinbych ffrydiodd rhibidires o enwau a dyddiadau allan ond yn dal heb amser i siarad.
Ond pan glywodd mai Bob Owen oedd enw'r ymwelydd medde fo: "Wel tyd 芒 fo i mewn Nel, paid 芒'i adael yn sefyll yn y fan na."
Addas felly yw'r englyn o waith Euryn Ogwen:
Fo oedd Bob, ti yw Bobi, dau Owen
Diwyd yn didoli
Nes daw aur ambell stori
I dynnu hud o'n doe ni.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|