| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwlad fy Nhadau Hen hanes ein hanthem
Adolygiad Cyril Jones o Gwlad fy Nhadau gan Gwyn Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.99.
Ganrif a hanner yn 么l cyfansoddodd y tad a'r mab o Bontypridd eiriau ac alaw ein hanthem genedlaethol.
Dyna'r ffeithiau moel a fu'n hysbys i'r rhan fwyaf ohonom ac mae'n rhyfedd ar un olwg na wyddom ni fawr ddim am hanes y ddau, na hanes cyfansoddi'r anthem, na'r modd y datblygodd hi'n un o anthemau cenedlaethol mwyaf cynhyrfus y byd.
Ond rhwng hydref y llynedd a'r haf eleni ailadroddwyd hanes - mewn ffordd wahanol - pan barat么dd deuddyn arall at dathlu'i phen-blwydd mewn modd teilwng.
Cafodd y naill, y diweddar Dafydd Meirion y weledigaeth o gomisiynu cyfrol yn olrhain yr hanes a chafodd y llall, Gwyn Griffiths o Bontypridd, yr egni i gwblhau'r gyfrol mewn cwta chwe mis.
Ac yn dilyn marwolaeth trist Dafydd Meirion rai wythnosau cyn cyhoeddi'i weledigaeth camodd deuddyn arall i'r adwy - Alan Jones, Stiwdio 23 a Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch a dygwyd dwy gyfrol - yn nwy iaith Cymru - i olau dydd mewn pryd ar gyfer y dathliad.
Yn rhyfeddod Ar un olwg mae'n rhyfeddod bod yr awdur wedi corlannu cymaint o hanes cefndir yr anthem mewn cyfnod mor fyr.
Bu'n casglu a lloffa ymhob man: atgofion disgynyddion y tad a'r mab - pobl fel Mrs Barbara Jenkins, Mynydd Cynffyg a Dr David Williams (brawd y gwleidydd, y diweddar Ddr Phil Williams).
Cofnododd ddarnau o farddoniaeth y tad oddi ar hen lyfrau cownt y bardd-wehydd.
Cafodd gopi o driban o'i waith gan berchennog presennol tafarn y Llanofer. Tafarn a gedwid ar un adeg gan frawd Evan James.
Wyddoch chi? Ydych chi'n gwybod p'un ai'r alaw ynteu'r geiriau ddaeth gynta? Wyddoch chi rywbeth o gwbl am yr alaw Glan Rhondda? Roedd beirdd llawer enwocach nag Evan James - fel Ceiriog, er enghraifft, 芒'u bryd ar ysgrifennu anthem. Sut yn y byd y cipiodd geiriau ac alaw dau werinwr o Bontypridd galonnau cenedl gyfan?
Mae'r atebion - a llawer rhagor o atebion rhwng deuglawr y gyfrol.
Dyfnach na'r geiriau Ond treiddiodd Gwyn yn ddyfnach na'r geiriau a'r alaw.
Portreadodd deulu'r Jamesaiaid - hanner y teulu yn hanu o gefndir gwerinol a'r hanner arall o gefndir uchelwrol.
Symudodd y teulu i Bontypridd yn 1847 a chawn bortread byw iawn o'r dref gymharol fechan, Gymraeg ei hiaith hon, yn y cyfnod hwnnw yn un o benodau'r gyfrol.
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd 芒 chofeb enwog y ddau ym mharc Ynysangharad - ac mae pennod ar honno yn y gyfrol hefyd - ond wyddoch chi ble mae'r Maen Chw欧f ac am ei gysylltiad 芒 chymeriadau lliwgar fel Iolo Morgannwg a Dr Price, Llantrisant.
Pwy oedd 'clic y bont' a beth oedd cysylltiad y tad a'r mab 芒'r rhain i gyd?
Casgliad o weithiau Ar ddiwedd y gyfrol ceir casgliad o weithiau barddol Evan - pennod ddifyr dros ben sy'n profi ei fod yn fardd gwlad blaengar a oedd yn cofleidio'r newydd yn ogystal 芒 pharchu 'hen wlad' ei dadau.
Ar ei orau roedd yn dribannwr ac englynwr medrus. Ysgrifennodd ar them芒u ysgafnach na'r gerdd wladgarol a'i gwnaeth yn enwog.
Cyfeiriais at un triban yn barod - dyma fe:
Lle 'nafus yw Llanofer
I 诺r fo'n yfed llawer,
Fe syrthiodd Wiliam Morgan Fawr,
糯r salw, i lawr i'r seler!
Sylwch ar ei ddefnydd crefftus o'r gynghanedd yn y triban hwn.
Canmol nid difr茂o Roedd hi'n duedd gan lawer o feirdd gwlad i ddifr茂o'r cynnydd mewn diwydiant a oedd ar droed ar y pryd. Nid felly Evan James - mae ganddo gerdd yn clodfori'r rheilffordd newydd a agorwyd yng nghyffiniau'r Bontnewydd (Pontypridd?) a Mynwent y Crynwyr.
Mae e'n gweld 'dirfawr les芒d' y dod yn ei sgil.
Waeth i mi gyfaddef fy mod i a Gwyn yr awdur yn dipyn o f锚ts - yn ddau Gardi sy'n byw ym Mhontypridd ond mae'n bleser gen i ddweud nad oherwydd hynny rwy'n eich cymell i brynu'r gyfrol hon ond oherwydd ei bod hi'n gyfrol wirioneddol ddifyr ac yn goleuo hanes a fu'n dywyll i lawer ohonom hyd yma.
Mae hen dafarn y Llanofer, cyrchfan y tad a'r mab mae'n debyg - a lle bydda i a Gwyn yn cael peint yn aml, yn un o'r ychydig dafarnau hen ffasiwn go iawn sydd ar 么l yn Mhontypridd.
Goroesodd yng nghysgod yr A470 a rhuthr yr unfed ganrif ar hugain - rhywbeth yn debyg i hanes ein hanthem. Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|