大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Gaer Fechan Olaf
Dilyn hanes g诺yl fawr y Cymry
  • Adolygiad Dafydd Whittall o Y Gaer Fechan Olaf. Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950 gan Alan Llwyd. Cyhoeddiadau Barddas. 拢9.95


  • Mae Alan Llwyd wedi llafurio ers bron i ddeng mlynedd i ymchwilio a chasglu defnydd am hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

    Bwriadodd yn wreiddiol gyhoeddi un gyfrol ond buan y sylweddolodd fod y defnydd yn drech na'r hyn y gellid ei osod rhwng dau glawr ac fe drodd y gyfrol yn gyfrolau:
  • 1900-1918 Cyfnod y Rhyfel Mawr
  • 1919-1936 Cyfnod Y Dirwasgiad
  • 1937-1950 Cyfnod Sefydlu'r Rheol Iaith-Yr Ail Ryfel Byd -a'r Eisteddfod yn Ymladd am ei Bodolaeth.

    Clawr y llyfr Y Gyfro1 1937-1950 a gyhoeddir eleni, dan y teitl Y Gaer Fechan Olaf a bydd y gweddill yn ymddangos yn flynyddol yn eisteddfodau 2007 ac 2008.

    Mae hyn yn atgoffa dyn o'r anrhegion Nadoligaidd a ddoi o law T Rowland Hughes yn flynyddol wrth iddo gyhoeddi ei nofelau a oedd yn disgrifio brwydrau yn erbyn grymoedd cymdeithasol, dycnwch mewn cyfnod anodd, pwysigrwydd diwylliant ,hiwmor fel modd i gynnal pobl ac ymwybyddiaeth o arwahanrwydd y Cymry.

    Dyma hefyd y them芒u a gawn yn y gyfrol hon gan Alan Llwyd ond ei fod yn dod atynt o safbwynt yr hanesydd sy'n gwau beirniadaeth lenyddol, dadansoddiad gwleidyddol ac astudiaeth gymdeithasol yn grefftus gyda'i gilydd.

    Sefydlu'r rheol Gymraeg
    Mae cyfnod y gyfrol hon yn arbennig o ddiddorol.
    Dyma pryd y sefydlwyd y rheol Gymraeg. Cymerodd y trafodaethau o 1937 hyd 1950 pan welwyd gweithredu'r rheol yn llawn am y tro cyntaf yn Eisteddfod Caerffli.

    Mae'r awdur yn olrhain yr hanes yn fanwl ddiddorol.

    Dyma hefyd gyfnod y rhyfel.
    Os edrychwch yn unig ar gloriau Cyfansoddiadau 1940 a 1946 gallech daeru bod dwy Eisteddfod wedi eu cynnal yn Aberpennar - ond Eisteddfod Radio oedd y cyntaf pan enillodd T Rowland Hughes ar ei awdl Pererinion ac ym '46 cafwyd awdl fawr Geraint Bowen i'r Amaethwr.

    Cafwyd dwy eisteddfod arall mewn trefi cyfagos sef Hen Golwyn '41 (steddfod radio arall i bob pwrpas) a Bae Colwyn '47.

    Yn '39 aeth y steddfod i Ddinbych heb na chadeirio na choroni - er bod un o enwogion tref Dinbych, Gwilym R Jones, wedi cipio cadair Caerdydd '38 gyda'i awdl Rwy'n edrych dros y bryniau pell.

    Soniwyd eisoes am Hen Golwyn ac yno yr enillodd J.M. Edwards gyda'i bryddest Peiriannau y gellid ei disgrifio fel un o'r pryddestau modern cyntaf.

    Cyfnod cyffrous
    Yn llenyddol bu'n gyfnod cyffrous ac amrywiol gan orffen yng Nghaerffili gydag awdl Y Glowr, Gwilym R. Tilsley a phryddest Difodiant, Euros Bowen.

    Mae Alan Llwyd yn delio'n fanwl mewn dwy bennod dreiddgar a'r awdl a'r bryddest yn y cyfnod hwn.

    Teg, serch hynny, yw nodi mai barn un person sydd yma ac rwy'n sicr y bydd nifer yn anghytuno a'i farn ar rai o'r cerddi.

    Darllenwch, er enghraifft, ei safbwynt am werth yr awdl foliant i'r Glowr sy'n croesddweud poblogrwydd y gerdd ymhlith cynifer ar hyd y blynyddoedd.

    Un o gymwynasau mawr y gyfrol yw ei bod yn ein harwain yn 么l at gerddi arobryn a oedd, efallai, wedi mynd dros gof.

    Ceir yn y gyfrol hefyd ymdriniaeth 芒 chystadlaethau llenyddol eraill yn farddoniaeth a rhyddiaith.

    Dau hanesydd
    Dyma gyfrol felly sy'n cwmpasu hanes llenyddol a gwleidyddol Yr Eisteddfod - ac er mor fanwl ydyw, mae llawer mwy y gellid ei ddweud gan fod Yr Eisteddfod yn sefydliad mor amlweddog a chymhleth.

    Dau wir hanesydd sydd gan yr Eisteddfod, Hywel Teifi Edwards ac Alan Llwyd. Mae'r ddau yn gweithio ar gyfnodau gwahanol, a gobeithio rhyw ddydd y gwelwn eu cyfrolau yn cyfarfod o safbwynt llinyn amser.

    Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen at y ddwy gyfrol arall yn y gyfres hon gan Alan gan obeithio y bydd yn ymroi i gwblhau hanes yr Eisteddfod yn ail hanner y ganrif ddiwethaf.
  • Dafydd Whittal yw cadeirydd presennol Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Gwefan Canrif o Brifwyl


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy