大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Siwrne Lawn
Cerddi mab y crydd - ac atgofion ffraeth a difyr
  • Adolygiad o Siwrne Lawn - Straeon a Cherddi Gwilym Herber. Golygydd: Euros Jones Evans. Carreg Gwalch. 拢6.95.


  • Go brin y byddai dau Brifardd Eisteddfod 2006 yn gwarafun i rywun ddweud mai prif fardd Prifwyl 2006 oedd Gwilym Herber Williams o Graig-cefn-parc.

    Clawr y llyfr Yn sicr, ef oedd gwir fardd lleol y Eisteddfod hon yn byw o fewn tafliad carreg i'r maes yn Felindre ac yn 87 oed yn cyhoeddi ei lyfr cyntaf - casgliad o gerddi ac atgofion - i gyd-fynd ag ymweliad y Brifwyl a'i fro.

    Yn gyn l枚wr a adawodd yr ysgol yn 14 oed meistrolodd Gwilym Herber y gynghanedd gan ddod yn englynwr y mae cryn barch iddo.

    "Wrth ddarllen ei gerddi fe welwch mai englynwr penigamp yw Gwilym, ond mae yr un mor gartrefol wrth greu ar fesurau caeth eraill megis y cywydd a'r hir-a-thoddaid," meddai Euros Jones Evans wrth gyflwyno'r gyfrol.

    Nodwedd bwysig arall yw ei fod, oherwydd ei fagwraeth, yn fardd sydd "yn pontio'r byd amaethyddol a'r byd diwydiannol".

    "Fe ddyrchafodd w欧r a gwragedd ei ardal; rhoes fri ar eu llwyddiannau. Yr wyf yn sicr y bydd teuluoedd y rhain yn gwerthfawrogi yr hyn a wnaeth ar gynghanedd ac mewn penillion rhydd," meddai Euros Jones Evans.

    Bydd ei enw yn gyfarwydd eisoes i'r rhai hynny sy'n dilyn y Talwrn yn aelod o d卯m Morgannwg.

    Teulu darllengar
    Fel y dengys ei dusw o atgofion mewn rhyddiaith ar gychwyn y gyfrol ni ddylai neb synnu i'r crwt a adawodd ysgol yn 14 oed ragori mewn barddoniaeth. Roedd ei fagwraeth, os rhywbeth, yn mynnu hynny.

    "Yr wyf yn ffodus fy mod wedi perthyn i deulu darllengar erioed oherwydd ar yr aelwyd gartref yr oedd digonedd o lyfrau gwybodaeth, nofelau a llyfrau barddoniaeth.

    "Dysgais delynegion ac englynion yn ifanc a thrwy hynny treiddiodd y diddordeb mewn barddoni i'r gwaed. Bu'r Beibl Mawr, sef Beibl Peter Williams, yn ddylanwad mawr arnaf," meddai.

    Un o'i ewyrthod oedd Crwys - prifardd, archdderwydd ac awdur telynegion adnabyddus fel Melin Trefin, Dysgub y Dail a'r Border Bach - a'r border hwnnw, gyda llaw, ger yr union d欧 lle magwyd Gwilym Herber.

    Ond doedd hyd yn oed Crwys ddim yn adnabyddus i bawb fel y dengys hanesyn yn y llyfr:
    "Ceir stori amdano wedyn wedi'i daro'n wael. Cludwyd ef i ward yn Ysbyty Mount Pleasant, Abertawe. Dyma un o'r cleifion yn ei adnabod. Troes hwnnw at glaf arall a dweud:
    'Ti'n nabod hwnna?'
    'Nagw.'
    'Crwys yw hwnna. Ma fe wedi ennill y National dair gwaith.'
    'Beth oedd enw'i geffyl e' te?'"

    Mab y crydd
    Mab i dyddynwr a chrydd yw Gwilym Herber ac yn cofio'r "siop waith" oedd yn un 芒'r t欧 fel canolfan pentref Craig-cefn-parc.

    "Crydd oedd fy nhad, Noah, a chrydd oedd ei dad yntau, John Crydd neu John Bore Fory fel y'i gelwid . . .am nad oedd yr esgidiau y byddai trigolion y dod i'w n么l bron byth yn barod. Ei ymateb serchus yn ddieithriad fyddai, 'Byddan nhw'n barod bore fory'."

    Fel Crwys ei hun, bu Gwilym Herber, yntau, yn brentis crydd ond mae'n cyfaddef nad etifeddodd ddoniau ei gyndadau yn y cyfeiriad hwnnw ac wedi dim ond blwyddyn yr oedd wedi cefnu ar grydda ac yn brentis peiriannydd yng ngwaith glo yr Hendy, yn ennill 17s6c yr wythnos.
    "Rhoddwn y cyfan i'm mam a byddai hithau wedyn yn rhoi hanner coron yn 么l i mi," meddai.

    Cymdeithas ddiwylliedig
    Dro ar 么l tro yn y gyfrol mae rhywun yn cael ei atgoffa o'r gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg - "Cymdeithas uniaith Gymraeg ydoedd y gymdeithas hon hyd at y chwedegau. Ychydig iawn o Saesneg oedd gan fy rhieni a'u cenhedlaeth" - ac elwodd Gwilym Herber yn fawr o gymysgu a gwerinwyr a phregethwyr llengar.

    ". . . pan alwai'r gweinidog neu 诺r llengar ar dro [heibio siop y crydd], cawn aros yno a gwrando arnynt yn ymddiddan. Gallaf erbyn hyn gofio llawer o straeon a dywediadau gwych a gafodd eu hargraffu'n ddwfn ar fy meddwl. Diau iddynt yn y pen draw blannu'r awydd ynof i ysgrifennu," meddai.

    I'r cwrcyn
    Mae'n cofio Alfa Richards awdur yr emyn Rwy'n canu fel cana'r aderyn - ac awdur hefyd englyn coffa i gwrcyn g诺r o'r enw John y Telynor:
    Wyla gwlad uwch niwl y glyn - ac wyla
    Calon crwth a thelyn;
    Mae colofn falch o galch gwyn
    Yn carco bedd y cwrcyn.

    Pytiau o atgofion a straeon difyr fel hyn yw rhan gyntaf y gyfrol gyda'r ail ran wedi ei neilltuo ar gyfer detholiad o dros gant a chwarter o gerddi yn delynegion, cywyddau englynion ac yn y blaen gan gynnwys yr englyn Y Cam Nesaf a enillodd iddo wobr yn Eisteddfod y Glowyr.

    "Bu fy ngwraig annwyl, Lenna, yn dioddef o salwch am flynyddoedd ac fe'i galwyd i'w hir gartref flwyddyn yn 么l. Eto, er ei dioddefaint yr oedd y cwlwm cariad yn parhau trwy'r cyfan ac yn rhoi nerth i fynd ymlaen," eglura:
    Y mae'n nosi a'r cam nesaf - yw troi
    At yr un a garaf;
    Er yn welw'r anwylaf
    Haedda'r hawl pa ffordd yr af.

    Hon meddai, ydoedd y wobr a roddodd iddo'r wefr fwyaf.

    Cyfrol sy'n gymysgedd ddifyr o'r hiraethus, y dwys, y ffraeth a'r doniol ac yn cynnwys nifer o luniau o'r bardd a'r ardal yn y canol. Ac, wrth gwrs, mae yna eglurhad o'r teitl, Siwene Lawn - nid y bydd ei angen ar y rhai hynny sy'n sy'n gyfarwydd a'r meysydd glo.
    Glyn Evans
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Eisteddfod Abertawe 2006
    Abertawe - Lleol i Mi


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy