|
Ffordd y Pererinion 'Celfyddyd nad yw'n dyddio . . .'
Adolygiad Cyril Jones o Ffordd y Pererinion gan James Nicholas. Gwasg Gomer. 拢8.50.
Y gyfrol Olwynion oedd fy nghyflwyniad cyntaf i waith y bardd o Dyddewi. Ond y gerdd a'i gwnaeth yn enwog fel bardd cynganeddol oedd ei awdl Yr Alwad a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969.
Gan nad yw James Nicholas wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi ers ennill y gadair honno, roedd darllen yr awdl ar 么l cynifer o flynyddoedd yn y gyfrol hon yn brofiad a oedd yn ddiddorol ar sawl cyfrif, ac yn tanlinellu rhai pwyntiau sy'n ei nodweddu fel bardd.
Heb ddyddio Pe baech chi'n darllen y rhan fwyaf o awdlau'r Eisteddfod Genedlaethol a ysgrifennwyd dros chwarter canrif yn 么l, fe fyddai yn eich taro ar unwaith eu bod wedi dyddio.
Mae'r Alwad yn eithriad ac mae nifer o resymau am hyn fel y ceisiaf nodi wrth drafod ei waith.
Fel celfyddyd y cerflunydd Henry Moore, sy'n sail iddi, mae hi'n awdl hynod ddarllenadwy a'r modd y mae'r bardd wedi cyfuno geiriau elfennol a dealladwy mewn cynghanedd sy'n ymddangosiadol syml sy'n dal i roi'r un pleser i'r darllenydd heddiw wrth ei hailddarllen.
A 'dyw darllen gwaith J.N ddim yn ddigon, yn anad yr un bardd arall mae'n rhaid ei adrodd yn uchel.
Llinellau gwfreiddiol - ond syml - fel 'y mae yno fel mynydd'/'Mae anadl yn y meini'/'Cerfio llun crefu llonydd -y wraig hon,
A'i hymylon fel brig y moelydd.'
'Dyw gwir gelfyddyd, pa gyfrwng bynnag a ddefnyddir, boed hwnnw'n air neu garreg, ddim yn dyddio.
Y gerdd a rydd deitl i'r gyfrol yw'r englynion agoriadol gwych Ffordd y Pererinion a ysgrifennwyd yn 2002 - ac maen nhw'n profi nad yw'r bardd wedi colli'i ddawn fel un o'n tri neu bedwar bardd cynganeddol gorau a feddwn yng Nghymru.
Mae gofynion caeth y gynghanedd yn tueddu i ladd y 'llais' a ddylai nodweddu pob bardd gwerth ei halen.
Dim ond y goreuon a lwyddodd i fynegi'r 'llais' hwn fel ei bod yn bosib i ni eu hadnabod yn syth ar 么l cychwyn darllen eu gwaith.
Daw beirdd fel Dic Jones a Twm Morys i'r cof ar unwaith yn y cyswllt hwn ac mae J芒ms Nicholas yn perthyn i'r un cwmni dethol yn fy marn i.
Mae'r englynion hyn yn enghraifft o 'lais' y bardd hwn ar ei orau.
Yr unoliaeth o safbwynt them芒u i ddechrau. Pa fardd cyfoes arall a allai arddangos yr un adnabyddiaeth drylwyr o hen lwybr y pererinion yn Sir Benfro a'r llefydd sydd ar hyd-ddo?
'Haulfan yw llawer cilfach -yn agor
Rhwng Niwgwl a Solfach;
Y glannau heb eu glanach,
Br枚ydd byw aberoedd bach.'
A pha fardd cyfoes arall a allai ganu mor ddidwyll am arwyddoc芒d Cristnogol y llwybr hwn? Wele englyn arall o'r gyfres i brofi hynny:
'Mae rhyw gryndod yn codi - o'r galon
Awr gweled Tyddewi;
A rhoddaf air o weddi
Nawr i Dduw o'i chyrraedd hi.'
Cynildeb Waldoaidd Mae rhyw ddidwylledd a chynildeb Waldoaidd yn perthyn i'w waith ac oherwydd hynny mae'n argyhoeddi bob tro. Efallai mai dyma fantais bardd nad yw'n ysgrifennu a chyhoeddi gormod.
Mae 'na bethau ychwanegol yn cyfrannu at 'lais' bardd wrth gwrs.
Cyfeiriais at symlder ei linellau eisoes. Ond ceir elfen arall a berthyn i'r symlder hwn; ni chollodd ei gynildeb clasurol. Mae'r gerdd benrydd gynganeddol isod y arddangos hyn hefyd. Ac mae'n ddigon byr i'w chynnwys i gyd:
Y GAIR A'R GERDD
Y gair
y gerdd
Anadl y gair
hoedl y gerdd
Had y gair
bywyd y gerdd
Gwraidd y gair
a greodd y gerdd
Gwraidd y gair yw'r gerdd i gyd.
O safbwynt ei chynildeb mae'r gerdd hon fel englyn penrhydd. Ac yn tanlinellu hefyd un o'r them芒u eraill sy'n llinyn yn ei waith - sef y weithred o greu.
Cristnogol Ceir llawer o gywyddau ac englynion i bobl ynddi, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig 芒 chrefydd mewn rhyw fodd neu'i gilydd.
Gresyn na ddatblygodd J芒ms Nicholas y them芒u cynnar y cyfeiriwyd atynt yn fwy trwyadl. Dyna'i gryfder fel bardd a dydw i ddim yn teimlo bod yr holl gerddi teyrnged a geir yn y gyfrol, er eu bod yn ddidwyll iawn, wedi ymestyn a dyfnhau'i weledigaeth fel bardd cynganeddol, Cristnogol.
Gwyddom, wrth gwrs, am ei ymroddiad ymarferol mewn sawl cyfeiriad eisteddfodol a chrefyddol arall yn ystod ei fywyd.
Gwahanol i'r lleill Un gerdd deyrnged sy'n wahanol i'r gweddill yw'r gerdd i'r cymeriad lliwgar arall hwnnw o Sir Benfro, T. E Nicholas.
Ysgrifennwyd hon ar ffurf penillion odledig digynghanedd ac mae'n fwy Gwenalltaidd ei naws. Dyma'r pennill agoriadol:
'Aderyn dieithr a fuost ti yng Nghymru'r ugeinfed ganrif,
Canrif cenedlaetholdeb ein cenhedlaeth ni:
Sosialydd, Comiwnydd, gwerinwr o Gymro, Cristion,
Anodd rhoi un label arnat ti.'
Ni chyfeiriais at y cyfieithiadau na'r emynau, yr englynion unigol gwych na'r cerddi mwy gweddigar eu byrdwn, ond profiad gwirioneddol bleserus oedd dychwelyd at waith J.N yn y gyfrol hon y mae delweddau hyfryd ei chlawr o waith Sarah Young yn gweddu i'r dim i'r gyfrol a'i chynnwys. Gweler Gwales
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|