|
Un Bywyd o Blith Nifer 'Hyd, lled a dyfnder cenedlaetholdeb . . .'
Adolygiad Gareth Miles o Un Bywyd o Blith Nifer, Cofiant Saunders Lewis gan T. Robin Chapman. Gomer. 拢19.99.
Daeth nifer o nofelau ardderchog o'r wasg Gymraeg yn ddiweddar ond nid un gystal, yn fy marn i, 芒'r gyfrol hon a chofiant Gwynfor Evans gan Rhys Evans.
Nid wyf am awgrymu mai ffuglenni ydynt. Deilliant o ymchwil helaeth a thrylwyr ac mae gwrthrychedd eu hawduron yn ddilychwin.
Dyma ddau lyfr anhepgor i'r sawl a fyn ddirnad hyd, lled a dyfnder cenedlaetholdeb Cymreig yn yr ugeinfed ganrif.
Eithr fel pob cofiant darllenadwy, meddant nodweddion nofelau llwyddiannus: cymeriad canolog atyniadol, llu o is-gymeriadau diddorol, digwyddiadau cyffrous ac iddynt arwyddoc芒d hanesyddol a stori sy'n cydio.
Gwynfor a Saunders Adlewyrcha arddulliau'r ddau lyfr gefndiroedd proffesiynol gwahanol eu hawduron. Traetha'r newyddiadurwr, Rhys Evans yn loyw-eglur ac uniongyrchol a'r ysgolhaig, Robin Chapman yn drofaus a myfyriol.
Cydwedda ieithwedd y ddau 芒 chymeriadau'r ddau wrthrych.
G诺r syml, unplyg oedd Gwynfor Evans - i'r graddau y gellir dweud hynny am wleidydd. Nid oedd yn feddyliwr praff na gwreiddiol - dibynnai ar eraill am syniadau a pholis茂au - ond meddai alwyni o garisma.
Dichon mai S.L. oedd meddyliwr grymusaf a disgleiriaf Cymru'r ugeinfed ganrif; athrylith a wastrodai groestyniadau athronyddol a seicolegol chwyrn 芒 grym ei ewyllys; bardd, llenor ac ysgolhaig wrth reddf a gwleidydd er ei waethaf; petai wedi cael lle i amau fod ei genadwri'n boblogaidd, buasai'n tybio fod rhyw nam pechadurus arni.
Hogi'r deall Rhinweddau pennaf llyfr Chapman, fel popeth sgrifennodd Saunders Lewis ei hun, yw maethu'r ymennydd a hogi'r deall.
Cafwyd prawf o hyn yn adolygiadau gwerthfawrogol Bruce Griffiths a Simon Brooks.
Cytunaf 芒 theyrnged Brooks i SL fel meddyliwr, newyddiadurwr, bardd a beirniad ond nid wyf o'r farn fod ei ddram芒u na'i nofelau'n teilyngu'r un clod.
Nid wyf yn meddwl, chwaith, fod iddo le yn yr un ffurfafen 芒 ffigurau rhyngwladol, oesol eu harwyddoc芒d, fel Voltaire a Goethe.
Waeth pa mor athrylithgar y bo awdur, cyfyng fydd ei ap锚l oni bai fod cerrynt Hanes yn llifo trwyddo ef a'i weithiau; merddwr mewn nant fechan ddinod yw Cymru, gwaetha'r modd.
Petai SL wedi ei eni'n Sais diledryw, yn Ffrancwyr, neu'n aelod o unrhyw genedl go iawn, diau y byddai iddo fri ryngwladol.
Carchar am weddill ei oes Ar 么l darllen y cofiant, mae yn fy meddwl ddarlun o SL fel g诺r ifanc delfrydgar yn dedfrydu ei hun, yn 1918, i garchar o'i wneuthuriad ei hun am weddill ei oes.
Meini'r muriau a gododd o'i amgylch oedd y gynysgaeth grefyddol, ddiwylliannol ac ieithyddol a amsugnodd yn Lerpwl fwrgeisaidd, Gymraeg a Saesneg ei faboed.
Dogm芒u'r Eglwys Gatholig oedd y sment.
Yr offer a'u hadeiladodd oedd deallusrwydd, dychymyg ac ewyllys mor rymus 芒'i gilydd.
Dodrefnwyd ei gaer ideolegol 芒 champweithiau llenyddol Cymru, Gwlad Groeg a Rhufain glasurol a'r Ewrop Ladinaidd. Caniat谩i y carcharor-wrth-ei-ewyllys i rai cyfeillion dethol ymweld ag ef o bryd i'w gilydd ond rhwystrai rhagfuriau ei ragfarnau cain gyfathrach waraidd rhyngddo ef a'r rhelyw o'i gyd-ddynion, gan gynnwys trwch y genedl y dymunai "newid holl gwrs ei hanes....a gwneud Cymru Gymraeg yn rhywbeth byw, cryf, nerthol, yn perthyn i'r byd modern".
Dyma sut y disgrifia Chapman effeithiau negyddol magwraeth SL:
"Yr oedd yn burydd - ceidwadol a chul, yn sicr, ie, a snobyddlyd hefyd - ond ni allai feddwl y tu hwnt i feddylfryd dosbarthol, paradigmatig ei oes."
Dirmyg at gydwladwyr Y cyflyru hwnnw, yn gymysg 芒'i Gatholigiaeth, oedd yn gyfrifol am ddirmyg SL at ei gydwladwyr yn y De diwydiannol, ei gefnogaeth i'r unben Franco yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, amwysedd ei agwedd at Hitler, ei barch at y Frenhiniaeth a 'gwaed yr uchelwyr' a'i elyniaeth at y wladwriaeth les. A geiriau ffiaidd fel y rhain:
"Really there was nothing wrong with Dachau and Auschwitz. They were a little before their time. "(Mewn llythyr at ei gyfaill, y bardd Catholig, David Jones)
"I mi achos gobaith i wareiddiad a darfod diwydiannaeth yw'r bom hydrogen, a mawr fy nghroeso iddo."
Bywiol a chadarnhaol Deilliodd pethau bywiol a chadarnhaol o'r un ffynonellau cymdeithasol a diwylliannol. Hyder, eofndra, gwroldeb a dyfal-barhad. Beirniadaeth a oleuodd ein meddyliau ac a gyfoethogodd ein gwerthfawrogiad o gampweithiau ll锚n Cymru a gwledydd eraill. Dilysrwydd ei gyngor strategol i'r blaid wleidyddol y bu iddo ran allweddol yn ei sefydlu:
"Ni ddwg dim ond chwyldro o ryw fath neu'i gilydd hunan-lywodraeth i Gymru. Anonestrwydd celwyddog neu dwpdra niweidol yw meddwl yn amgen. Nid wyf yn dweud bod yn rhaid i chwyldro olygu tywallt gwaed. Ond yr wyf yn dweud y bydd yn rhaid i bobl Cymru, arweinwyr Cymru gyntaf, gymryd mesurau o anghydweithredu 芒 Llywodraeth Loegr mor eithafol a chostus ag a gymerth y Mahatma Gandihi a'i ddilynwyr yn yr India cyn yr ystyria unrhyw lywodraeth Seisnig ganiat谩u hawliau a statws cenedl i Gymru."
Bydd y sawl a w锚l Senedd Bae Caerdydd fel ernes fod gan ein Cymru ni 'hawliau a statws cenedl' yn wfftio at y fath 'eithafiaeth'.
Nid felly wlatgarwyr sy'n ystyried Cynulliad Cenedlaethol, a dderbyniodd s锚l bendith brenhines Lloegr yng ng诺ydd ei lluoedd arfog, ynghyd 芒 sefydliadau 'cenedlaethol' fel S4C, 大象传媒 Cymru, Prifysgol Cymru, Cyngor y Celfyddydau, WRU etc, fel asiantaethau'r Wladwriaeth Brydeinig . . . Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Saunders Lewis yn darlledu
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|