|
Hi oedd fy Ffrind Dilyniant y bu disgwyl mawr amdano
Adolygiad Lowri Rees o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Lolfa.
Unwaith yn unig y cefais i'r cyfle i aros yn Neuadd Pantycelyn a hynny ar benwythnos eisteddfod rhyng-golegol.
Ond rwy'n adnabod nifer sydd yn taeru mai dyma'r coleg gorau yng Nghymru am hwyl ac iddynt fwynhau tair blynedd wyllt yno - a chael ychydig addysg yn y fargen.
Dyma gefndir nofel newydd Bethan Gwanas, Hi oedd fy Ffrind. Hanes Nia yn y coleg yn Aberystwyth, sy'n cyffwrdd ychydig ar fyd addysg gan ganolbwyntio ar ei dosbarthiadau drama ond yn fwy na hynny cawn hanes ei phenwythnosau gwyllt, ei hantics rhywiol a'i bywyd yn gyffredinol ymhlith stiwdants eraill ym Mhantycelyn.
Ym mhennod olaf Hi yw fy Ffrind, mae Non yn cerdded i ystafell ym Mhantycelyn ac yn dal ei ffrind gorau, Nia, yn y gwely gyda'i chariad hi, Adrian, a bu cryn gnoi ewinedd ymhlith darllenwyr am y dilyniant hir ddisgwyliedig hwn.
Awdur y bobl Disgrifiwyd Bethan Gwanas fel 'awdur y bobl' ar sail ei hysgrifennu naturiol, poblogaidd, ac am iddi sicrhau bod darllen ei nofelau yn bleser yn hytrach nag yn ddyletswydd.
Mae Hi Oedd fy Ffrind yn yr olyniaeth honno.
Heb os, mae gan ferch fferm y Gwanas yn Nolgellau y ddawn i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa eang ac i gadw diddordeb pob math o wahanol ddarllenwyr gyda nofelau sydd yn llenyddiaeth boblogaidd Gymraeg ar ei gorau.
Rwy'n dal i gofio'r mwynhad o ddarllen Hi yw fy Ffrind - gan ei disgrifio fel nofel bwerus iawn y mae rhai o'i phenodau yn parhau yn fyw iawn yn y cof.
Mae'r ddawn gan Bethan i wneud i'w darllenwyr chwerthin a chrio bob yn ail - a chymysgedd o'r ddau gyda'i gilydd. Dawn arbennig iawn.
Dywedodd Alun Jones, golygydd gyda'r Lolfa, yn y lansiad bod pwysau ar unrhyw awdur sydd yn ysgrifennu dilyniant yn enwedig pan fu'r llyfr cyntaf yn gymaint o lwyddiant.
Dywedodd Bethan, hithau, iddi deimlo dan gryn bwysau wrth ysgrifennu'r ail lyfr. Dywedodd mai ei hadnod gyson oedd: "Er mwyn i Hi oedd fy Ffrind sefyll ar ei phen ei hun roedd yn rhaid ail adrodd darnau o'r llyfr cyntaf. Cymrodd y gwaith dipyn mwy o amser ac amynedd," meddai.
Trwy lygaid Nia Yn Hi yw fy Ffrind cyfl毛wyd popeth o safbwynt Non, y ferch hyfryd oedd yn addoli ei ffrind. Y tro hwn mae'r darllenwyr yn gweld popeth drwy lygaid Nia, merch ychydig yn wahanol sydd wedi arfer cael ei ffordd ei hun.
Hawdd cytuno ag Alun Jones pan ddywedodd: "Mae hi'n nofel sydd yn gafael, nofel sydd 芒 them芒u cyfoes a nofel sydd yn anodd iawn gollwng gafael arni."
Gyda phob un o nofelau Bethan Gwanas neilltuais ddiwrnod neu ddau er mwyn canolbwyntio ar eu darllen gan fy mod gymaint ar binnau unwaith imi ddechrau.
Bywyd coleg dwy ffrind yw cefndir y nofel newydd a bywyd coleg yn Aberystwyth a Neuadd Pantycelyn yn benodol gyda'r darllenwyr yn gweld y bywyd hwnnw drwy lygaid Nia, y ferch a dwyllodd ei ffrind gorau ond sy'n credu ers yn blentyn nad yw hi'n gwneud fawr ddim o'i le.
Mae'r llyfr yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol gymeriadau; y math o bobl wahanol mae rhywun yn eu cyfarfod yn y coleg. Rhai yn ddigon od ac yn mynd ar nerfau'i gilydd:
".... Be di'r busnes Goth ma?"
"Wel, dan ni'n bobol chydig bach yn wahanol, Dan ni'n canolbwyntio ar agweddau tywyll, trist bywyd, fel marwolaeth, dan ni'n sensitif, braidd yn rhamantus, yn licio darllen Dante, Byron a Tolstoy a llyfrau horror a romance o'r 19eg ganrif - Edgar Allen Poe yn enwedig ac yn licio treulio'n hamser mewn mynwentydd, llyfrgelloedd a chaffis bach tywyll. A dan ni'n licio gwisgo du."
"'Be gymi di Leah,' gofynnodd Alwenna o'r bar.
'Snakebite a black, plis.' Wel, roedd hi'n gyson chwarae teg."
Llwyddiant pellach Mewn adolygiad, gorau cyn leied a ddywedir am gynnwys y nofel rhag ei difetha i eraill. Digon yw dweud, fod Non yn parhau i fod yn flin gyda'i ffrind ran helaethaf o'r nofel ond a ddaw profedigaeth lem a'r ddwy yn 么l at ei gilydd, yn ffrindiau pennaf eto? Yn bloodsisters y nofel gyntaf.
Llwyddiant pellach i Bethan Gwanas gyda chlincer o nofel - ond i mi nid oedd gystal 芒'r nofel gyntaf, Hi yw fy Ffrind. Barn bersonol iawn, cofiwch, a bydd digon yn anghytuno 芒 hynny debyg!!! Does ond un ffordd i wybod pwy sy'n iawn.
Adolygiad Carys Mair Davies
Adolygiad Dylan Davies
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Ffrindiau coleg yn dathlu
Holi Bethan Gwanas
Adolygiad o Hi yw fy Ffrind
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|