| |
|
|
|
|
|
|
|
W J Gruffydd - Elerydd Llenor a bardd amryddawn
O ran 'poblogrwydd' mae rhai o'r farn i'r bryddest a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli i W J Gruffydd ddod yn fwy poblogaidd nag hyd yn oed pryddest enwog Cynan, Mab y Bwthyn.
Y bryddest hon, Y Ffenestri, yn 1955 oedd y gyntaf o ddwy i ennill coron genedlaethol i'r bardd o Ffair-rhos.
Ef a goronwyd hefyd yng Nghaerdydd yn 1960.
Troi ei law Mae W J Gruffydd yn fardd ac yn llenor amryddawn yn gallu troi ei law at y dwys a'r doniol.
Ef yw 'tad' y cymeriadau gwledig hynod hynny Tomos a Marged a fu'n diddanu darllenwyr y Tivyside Advertiser am flynyddoedd yn ystod ei gyfnod yn weinidog yn Y Glog ac y casglwyd eu hanesion mewn saith cyfrol dros y blynyddoedd.
Ymddangosodd y casgliad cyntaf yn 1965 a daeth dwy gyfrol arall yn yr wyth mlynedd wedyn ac wedyn saib o bron i ugain mlynedd nes i'r cyfrolau hwyliog ailgychwyn eto ddechrau'r Nawdegau.
Cadarnhaodd straeon Tomos a Marged le W J Gruffydd ymhlith ysgrifenwyr prin straeon digri Cymraeg.
Yn weinidog Ganwyd William John Gruffydd yn Ffair-rhos yn 1916 ond yr oedd yn 1946 cyn iddo gael ei ordeinio yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yntau heb fod erioed mewn coleg diwinyddol.
Ar un adeg bu'n gweithio mewn ffatri ordnans a chafodd gynnig swydd yn Somerset House ond iddo ei gwrthod a dychwelyd i fro ei febyd.
Ei ofalaeth gyntaf oedd Cwm Meidrin ac Ainon, Gelli Wen, Sir Gaerfyrddin. Bu wedyn yn Nhal-y-bont, Ceredigion a Hermon a'r Star, Sir Benfro, ddwywaith, ac mewn sawl eglwys yn ardal Llambed.
Bu'n gweinidogaethu am saith mlynedd hefyd ym Methlehem Llanddewi Brefi ac Ebeneser Llangybi gyda'r Annibynwyr.
Daethpwyd i'w adnabod fel W J Gruffydd Y Glog.
Dewi Emrys yn ysbrydoli Ar wah芒n i straeon Tomos a Marged bu'n ddiwyd fel bardd a llenor mewn cyfeiriadau eraill hefyd gyda Dewi Emrys yn ysbrydoliaeth fawr iddo fel bardd.
Gwnaeth argraff fel bardd yn ifanc - pan oedd WJ yn 16 cyhoeddodd Dewi Emrys delyneg o'i eiddo, Y Gwaddotwr ym Mhabell Awen papur newydd Y Cymro ac fe fu hynny'n sbardun iddo ddal ati i gyfansoddi cerddi gan gyrraedd y copaon gyda'r ddwy goron Genedlaethol a enillodd.
Ei enw yn yr Orsedd yw Elerydd. Fe'i dyrchafwyd yn Archdderwydd yn 1984.
Ar ei benodiad addawodd ddod ag elfen o hiwmor i'r seremon茂au a daeth yn ffefryn oherwydd ei sylwadau ffraeth oddi ar y llwyfan.
Rhwng 1967 a 1971 cyhoeddodd dair nofel a oedd yn nodedig am eu harddull, Hers a Cheffyl, Cyffwrdd 芒'i Esgyrn ac Angel Heb Adenydd
Yn 1986 cyhoeddodd gyfrol gyntaf ei hunangofiant, Meddylu: Hunangofiant Archdderwydd a thair blynedd yn 么l cyhoeddodd yr ail ran O Ffair Rhos i'r Maen Llog sydd yn dal ar gael.
Cysylltiadau Perthnasol
Cerddi parti pen-blwydd W J Gruffydd yn 90 oed
O Ffair Rhos i'r Maen Llog - adolygiad
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|