| |
|
|
|
|
|
|
|
Rhywun yn Rhywle Cyffro a ffantasi cerddi plant
Adolygiad Lowri Rees o Rhywun yn Rhywle gan Tudur Dylan Jones. Gwasg Gomer. 拢4.99.
"Sgwennwch am y pethau rydych yn gyfarwydd 芒 nhw. Sgwennwch am y pethau rydych chi'n eu gweld bob dydd ac am eich profiadau chi. Rhowch eich calon yn y gwaith."
Dyma gyngor awdur y gyfrol o gerddi. Rhywun yn Rhywle, y Prifardd Tudur Dylan Jones, wrth iddo geisio annog blant i greu cerddi.
Dywed cyn Fardd Plant Cymru ac enillydd Cadir yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith iddo ef gael ei syniadau i ysgrifennu cerddi i blant o fywyd pob dydd:
"Mae rhai pethau mae pobol yn ei ddweud yn aml yn taro ar syniad yn fy mhen. Weithiau bydda i'n clywed dim ond gair ac mae hynny'n gwneud i'r meddwl ddechrau troi."
Gwefr a mwynhad Mae'n cydnabod iddo gael gwefr a mwynhad yn ysgrifennu'r gyfrol Rhywun yn Rhywle ac yn y rhagair mae'n annog darllenwyr i fod yn greadigol gan eu gwahodd i dynnu lluniau neu ymuno ym myd hwyliog y cerddi.
Yn bendant mae'n gasgliad gwych a fydd yn sbardun i blant i chwarae 芒 geiriau ac arbrofi 芒 barddoni.
Ar dudalen pump mae pennill sy'n caniat谩u i blant ddyfalu a llenwi'r bylchau adawyd gan yr awdur a hynny'n sicr yn fodd i roi hyder iddynt.
Gan nad yw Tudur Dylan, yn 么l ei gyfaddefiad ei hun, yn arbenigwr ar wneud lluniau cafwyd yr arlunwraig Hannah Matthews i greu lluniau atyniadol ar gyfer pob dalen.
"Dydw i ddim yn gallu tynnu lluniau, ond dwi'n lwcus fod arlunydd wedi mynd ati i wneud cerddi yma'n hardd i'r llygad," meddai Tudur Dulan.
"Gallwch chi fynd at i dynnu lluniau eich hunain i fynd efo'ch cerddi chi."
Hawdd cofio Mae'r cerddi yn fyr, yn fachog ac yn rhai hawdd i'w cofio.
Mae elfen gref o ffantasi yn perthyn i lawer o'r cerddi gan eu gwneud yn gyffrous ac yn apelgar i blant.
Gall plant, hefyd, uniaethu gyda'r hiwmor syml mewn cerddi fel Tan Gwyllt.
Dwi'n teimlo i Tudur Dylan gael hwyl hefyd ar y gerdd Jac y Do lle mae'n rhoi tro newydd i hen hwiangerdd.
Mae'r gyfrol yn gyfle hefyd i oedolyn ddianc unwaith eto i fyd plentyn.
Casgliad cyffrous, felly, o gerddi sydd yn llawn direidi a chyffro, sydd a'u rhythmau a'u hodlau'n tasgu oddi ar y tudalennau gan greu byd arbennig y dychymyg sydd yn llawn direidi a chyffro.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|