|
Wir Yr! Atgofion plaen a phendant
Adolygiad Gwilym Owen o Wir Yr! gan Maldwyn Lewis. Gwasg Carreg gwalch. 拢6.90.
Mae hi wedi bod yn gyfnod da i Flaenau Ffestiniog. Nid o anghenraid yn nhrefn pwysigrwydd fe ddaeth Glyn Wise, y llanc 18 oed, yn ail ar Big Brother a'i goroni fel y Mab Darogan newydd sy'n mynd i arwain Cymreictod o'r anialwch.
Llwyddodd Eigra Lewis Roberts i ennill coron Prifwyl Abertawe ac ar yr un pryd roi tipyn o sioc i'r sefydliad barddol Cymreig.
Ac, wrth gwrs, cafodd Gwyn Stiniog - yr Athro Gwyn Thomas - ei ddewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru fach.
Ac yn awr, wele un arall o hogiau'r fro yn cyhoeddi cyfrol o atgofion diddorol, diddan a dadleuol.
Plaen a phendant Maldwyn Lewis, pedwar ugain oed, ydi awdur Wir Yr!. Ond peidiwch a gadael i'w oed eich pryderu. Nid cyfrol henaidd a thrymaidd mo hon ond 250 o dudalennau o ysgrifennu personol, plaen a phendant.
Darlun o gymeriad unigryw a dorrodd ei g诺ys bersonol heb ofni'r canlyniadau.
Mae'n stori sy'n mynd a ni o'i ddyddiau cynnar yn Stiniog i'r Coleg Normal a Choleg y Brifysgol ar y Bryn ym Mangor a Choleg y Bedyddwyr.
Troi wedyn i Lundain am gyfnod cyn ymdaflu i fyd busnes ac yswiriant yng Nghymru a Seland Newydd.
Ac mae Maldwyn Lewis wedi llwyddo i groniclo'r cyfan mewn dull hynod o ddarllenadwy.
Cyfoeth o brofiad Ac yn fwy na dim yr hyn sydd ganddo yw cyfoeth o brofiad sy'n dal ein sylw o'r dechrau i'r diwedd.
Troi cefn ar yrfa yn athro ysgol a gweinidog yr efengyl gyda'r Bedyddwyr wnaeth Maldwyn Lewis.
Mae darllen am ei brofiadau yn Y Coleg Normal a Choleg y Bedyddwyr yn agoriad llygaid.
A'r hyn a'm trawodd i oedd bod y byd addysg - ac yn sicr enwad y Bedyddwyr - wedi cael clamp o golled wrth iddo droi cefn ar y naill a'r llall.
Cenedlaetholwr ffyddlon Ond yr hyn sy'n roi gwir flas a gwerth yw'r darlun a gyflwynir ynddi o Maldwyn Lewis y cenedlaetholwr.
Ymunodd 芒 Phlaid Cymru cyn cyrraedd ei 18 oed a bu'n gwbl ffyddlon i'r genhadaeth honno dros y blynyddoedd.
Ac mae gen i barch i genedlaetholwyr fel Maldwyn Lewis - unigolion a safodd dros eu hegwyddorion yn ystod y cyfnod pan oedd gwneud hynny yn golygu bod yn destun dychan a gwawd.
Nid cenedlaetholwyr tywydd braf mo'r rhain a diolch amdanyn nhw.
Llywodraeth leol Y meysydd y dewisodd o ymlafnio ynddyn nhw sy'n cael sylw manwl yn y gyfrol a'r rheini wedi eu cyfyngu yn bennaf i wleidyddiaeth llywodraeth leol.
Mae'n ein tywys ar hyd llwybrau dirgel gweithredu ar Gyngor Tref Porthmadog, Cyngor Sir Caernarfon a Chyngor Sir Gwynedd yn y dyddiau pan oedd M么n, Arfon a Meirion dan yr un ambarel.
Mae yna gryn dipyn o fanylu - a hynny bob amser yn ddiddorol - ar sut y bu iddo ef a'i gyfeillion o gyffelyb anian gael eu maen i'r wal.
A dydi o ddim yn brin o awgrymu bod hynny weithiau wedi golygu peth dichell a cholli tymer - ond llwyddiant y genhadaeth oedd bwysicaf bob tro.
Er bod Maldwyn Lewis yn ymddangos weithiau braidd yn unllygeidiog y mae bob amser yn barod i roi parch dyladwy i'r cewri o gynghorwyr eraill y bu yn eu cwmni.
Mae'n rhestru pobl fel Alwyn Roberts, R H Owen, Llanberis, Tom Jones, Llanuwchllyn, Tom Jones, Penmachno, Tom Jones, Cemaes, Ifor Bowen Griffith, Cyril Parry ac Alex Robertson heb s么n am rai fel W R P George a Dafydd Orwig .Cewri go iawn sy'n gwneud i rai o'n cynghorwyr presennol - ac hyd yn oed aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol - ymddangos fel sbarblis.
Gallwn fynd ymlaen i s么n am bolis茂au Gwynedd yn arbennig - polisi iaith yr ysgolion a sut yr aed ati i ddewis athrawon.
Gallwn hefyd ddadansoddi y camau a gymerwyd i ddewis Dafydd Wigley yn ddarpar ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaernarfon yn 1974.
Gallwn drafod penderfyniad i brynu a gwerthu'r Cob ym Mhorthmadog - ond gadawaf hynny i'r darllenwyr.
Heb fod yn f锚l i gyd Ond mae'n deg fy mod, cyn cloi, yn dweud hefyd nad yw Maldwyn Lewis wedi canfod llwybr bywyd yn f锚l i gyd. Cariwyd croesau ac nid yw'n cuddio'r rheini dan garped y cyfrinachedd Cymreig arferol - a diolch iddo am hynny.
Ydi, wir yr, mae hon yn gyfrol gwerth ei darllen ac yn ddarlun cofiadwy o gyfnod a newidiodd y ffurfafen wleidyddol yn un rhan fechan o Gymru.
Ac fe gawn ninnau y fraint o ddarllen am gyfraniad un oedd yn un o benseiri y newid hwnnw.
A fu'r newid hwnnw o fantais neu beidio? Hanes fydd yn penderfynu hynny.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|