|
Yr Archesgob Rowan Williams Portread o ddyn arwrol, diofn, addfwyn a dyngar
Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Yr Archesgob Rowan Williams: ei dylwyth, ei athrylith a'i drafferthion gan Cynwil Williams. (Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 2006), 311tt, 拢14.95
Mewn gwyleidd-dra gofidus yr ysgrifennaf yr adolygiad hwn. Mewn gwyleidd-dra am fy mod yn ymwybodol taw amatur ydwyf ym maes diwinyddiaeth (a diwinyddiaeth yw deuparth yr astudiaeth hon); mewn gwyleidd-dra gofidus am fy mod wedi dod i ben 芒 darllen y gyfrol gyda mwy o gwestiynau am yr Eglwys a'i Ffydd nag oedd gennyf cyn ei dechrau.
Dichon y dywedai rhai - ac awdur y gyfrol yn eu plith, efallai, - nad drwg hynny, oblegid honnir yma droeon mai wrth holi a stilio y deuir o hyd i atebion am yr Anchwiliadwy, yn enwedig yn yr oes hon.
Honnir hynny, er enghraifft,ym Mhennod 4, lle dilynir rhybudd Bonhoeffer i ddistewi, ac eto ym Mhennod 6, lle pwysleisir ymhellach werth y dull negyddol o geisio'r gwirionedd am Dduw, y via negativa y canodd R. S. Thomas gryn dipyn amdani.
Mesur o ffugesgus I mi, y mae mesur o ffugesgus yn yr honiad hwn. Er dyfynnu'r bardd yn fuddugoliaethus, ni sylwa Cynwil Williams wrth drafod y pwnc hwn nad gyda gobaith o gyrraedd na darganfod y cerdda R. S. y ffordd negyddol.
"God," ebr ef, yw'r "great absence,... the empty silence /Within, the place we go /Seeking, not in hope to /Arrive or find."
Purion i fardd ysgrifennu fel hyn, ac ymddwyn fel hyn; ond gwaith yr offeiriad, boed hwnnw'n R. S. neu Gynwil neu Rowan Williams, yw datgan natur Duw wrth ei bobl. Onid yw'r offeiriad yn gwybod sut Dduw y mae'n ei addoli a'i bregethu, sut ellir credu ynddo? At hynny, beth yw pwynt credu ynddo?
Diwinydd traddodiadol Er dweud o Gynwil Williams fod Rowan Williams yn cymeradwyo'r ymchwil negyddol hon, y mae hefyd yn dweud bod yr Archesgob yn ddiwinydd traddodiadol.
"Etifeddiaeth gyfoethog i'w diogelu," meddir, yw'r athrawiaethau traddodiadol a gafwyd gan y Tadau Eglwysig yn y canrifoedd cynnar yn Oed Crist, ac o'r Oesoedd Canol ymlaen -- athrawiaethau i'w "diogelu a'u cyfoesi".
Dau gwestiwn arall yma, os caf. Yn gyntaf, (i) sut all ymchwilydd ysbrydol gerdded y ffordd negyddol yn onest-noeth os yw wedi'i arfogi ag athrawiaethau, sef y syniadau set a dderbyniodd yr Eglwys drwy'r canrifoedd?
Yn ail, (ii) sut mae cyfoesi rhai o'r rheini? (cymeraf yn ganiataol mai ystyr 'cyfoesi' yma yw eu gwneud yn berthnasol i'r oes sydd ohoni). Dyry'r Archesgob bwys mawr ar y Drindod o Bersonau, ebe'i gyflwynydd. A yw'n ormod gofyn sut y gellir cyfoesi athrawiaeth y Drindod, sef undod y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Gl芒n?
Gweld sut Yr hyn yr wyf yn ei geisio wrth ofyn y cwestiynau hyn yw gweld sut yn y byd y gall y diwinydd da (a 'does dim dwywaith am swmp nag ansawdd ysgrifeniadau a phregethau ac anerchiadau Rowan Williams) drwy'r pethau hyn wella'r byd, diben pob pregethwr, a diben a nodir fel diben bywyd Rowan Williams sawl tro yn y gyfrol hon.
Ond, onid yw dyn yn byw ac yn bod y tu fewn i amlen ffydd eisoes, a chan hynny'n derbyn dysgedigaethau'r Eglwys, y mae'n anodd gennyf weld neb yn nes谩u at y Bywyd Da drwy dderbyn set o athrawiaethau dychrynllyd o anodd, amhosibl yn wir, i'w dirnad, nac ar hyd y ffordd negyddol drwy beidio 芒 system o athrawiaethau.
Heblaw, wrth gwrs, ei fod yn cael ei gyffroi gan rywbeth arall seicolegol neu ysbrydol sy'n ei hoelio wrth Waredwr.
Mynd ar brofiad fy astudiaethau ym maes y Diwygiad Methodistaidd yr wyf wrth honni hyn, Diwygiad yr oedd Williams Pantycelyn ynghlwm wrtho.
Y mae Cynwil yn cyfeirio at Bantycelyn yn aml yn ei astudiaeth o Rowan, ac unwaith neu ddwy yn tynnu cymhariaeth dynn rhyngddynt.
Gwneud gwaith diwygiadol mewn cornelyn o'r byd yr oedd Pantycelyn (gan fod yn ymwybodol ar yr un pryd o'i stiwardiaeth ddaearol fyd-eang); plwyf Rowan yw'r byd i gyd, y taleithiau Anglicanaidd oll, o Durham hyd y Dardanelles hyd at Ddarwin.
Gweadau'r brethyn Yn y byd hwnnw, y mae gweadau tra gwahanol i'r brethyn a elwir Anglicaniaeth Lloegr (heb s么n am y brethynnau sy'n gwau'r crefyddau mawr eraill).
Dyna, ar ben problemau dysgeidiaeth, broblemau eraill sy'n wynebu'r Archesgob beunydd, problemau diwylliannau a dirnadaethau eraill.
Pwy all uno'r cenhedloedd Cristionogol heb s么n am uno'r credoau oll? Neb, debyg. Ond fe geisia'r Archesgob eu cael i ddeall ei gilydd.
Heb os, y mae'r portread ohono a geir yn y llyfr hwn yn bortread o ddyn arwrol, diofn, addfwyn a dyngar a ymdrecha'r ymdrech anferth honno.
Hwn, yr awdurdod ar Nicea, a droes y canrifoedd ar eu pennau ac a ordeiniodd ferched yn offeiriaid. Hwn, bennaeth ll锚n Eglwys Loegr (ond nid ei phennaeth lleyg), a wrthwynebodd yn gryf Ryfel Irac er bod Mr Blair a'r Arlywydd Bush, ill dau yn Gristnogion cyhoeddus, yn gryf o'i blaid.
Ni ellir llai na'i edmygu.
Cofiant cliriach
Wrth ddweud hynny, rhaid imi ddweud hefyd y byddai'n dda gennyf pe na bai'r gyfrol hon yn cynnwys cynifer o elfennau hagiograffig.
Byddai'n dda gennyf hefyd petai'r awdur wedi llunio cofiant cliriach - hynny yw, wedi rhoi inni hanes gyrfa Rowan yn y brifysgol ac yna wrth ei waith fel darlithydd ac esgob, -- ac wedi trafod ei fyrdd syniadau diwinyddol a pholiticaidd-gymdeithasol wrth fynd rhagddo.
Fel y mae, y mae'r llyfr yn gadael Rowan yn yr ysgol uwchradd, ac yna'n mynd ati i draethu ar ei ddaliadau ar nifer mawr o bynciau, heb drefn amlwg i'r traethu hwnnw.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Cynwil Williams
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|