|
Blodau Gwyllt Cyfoeth lliwgar blodau'r maes
Adolygiad o Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain gan John Akeroyd (Addasiad Bethan Wyn Jones). Lluniau gan Bob Gibbons. Gwasg Carreg Gwalch. 拢12.50.
Flwyddyn yn 么l gwnaeth Gwasg Carreg Gwalch gymwynas 芒 ni trwy gyhoeddi Llyfr Adar Iolo Williams - y llyfr poced cyntaf o'i fath yn y Gymraeg ac un o werth mawr i bawb sy'n cael trafferth adnabod ambell i aderyn.
Addasiad oedd o lyfr Saesneg uchel ei barch a gyhoeddwyd yn y Saithdegau gan gwmni Mitchell Beazley.
Eleni daeth cymar i'r gyfrol honno, Blodau Gwyllt Cymru a Gwledydd Prydain - eto yn addasiad o gyfrol Saesneg sydd wedi hen ennill ei phlwyf.
Yr 'awdur' Cymraeg y tro hwn yw Bethan Wyn Jones, un o gyfranwyr cyson y rhaglen radio, Galwad Cynnar, a cholofnydd wythnosol yn Yr Herald Cymraeg ac un sy'n denu llythyrau lu gan ddarllenwyr yn sgil ei herthyglau difyr ar fyd natur ac yn arbennig blanhigion y maes.
Yn y Chwedegau Mae hwn yn faes prinnach ei gyhoeddiadau nag un yr adar.
Yn wir, go brin i restr gyffelyb gael ei chyhoeddi ers Enwau Blodau Llysiau a Choed Meirion Parry gan Wasg Prifysgol Cymru yn Ionawr 1969.
Rhestr ddiaddurn o enwau yw'r gyfrol honno gydag ond pump o luniau ynddi.
Ond os ymddangosai yn ddiaddurn a llwyd yr oedd yr amrywiaeth o enwau y tu hwnt o liwgar - yn ffrwyth y fath ddychymyg ar ran ein cyndeidiau ag i ymylu ar fod yn farddonol weithiau.
Rhan o'r cyfoeth oedd yr amrywiaeth o enwau a fodolai weithiau ar gyfer yr un blodyn neu blanhigyn:>br>Mesuriad a Mintys y Creigiau ymhlith yr enwau Cymraeg ar Marjoram neu Heddig, Rhuddygl, Rhodri a Redyns ymhlith yr enwau ar Raddish a Llysiau'r Gingroen, Penfelen, Llysiau Iago a'r Creulys yn enwau ar Ragwort.
Dydy Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain ddim yn cynnwys yr holl amrywiaethau hyn i'r un graddau 芒 chasgliad Meirion Parry.
Mae'n gyfrol rhywfaint tlotach oherwydd hynny.
Cyfeirlyfr o'r Saesneg i'r Gymraeg oedd un Mr Parry ac er mwyn sicrhau adnabyddiaeth bendant yn cynnwys y ffurf fotanegol Ladin, Linneaidd.
Nid felly cyfrol newydd Bethan Wyn Jones .
Drwy'r Gymraeg y cyflwynir y blodau gydag enw Lladin a Saesneg yn dilyn.
Rhestrir a darlunnir - mewn lliw llawn - 240 o flodau gwyllt mwyaf cyffredin Ynysoedd Prydain - dalen i bob blodyn - gyda'r dewis wedi ei wneud gan arbenigwr yn y maes, John Akeroyd.
Wrth eu teuluoedd Mae'r blodau yn ymddangos wrth eu teuluoedd sy'n mynd i beri rhywfaint o anhawster i'r anghyfarwydd - ac fe fydd hwn yn llyfr a ddefnyddir gan lawer o'r rheini.
Eu hachubiaeth yw mynegai yn nhrefn yr wyddor yn y cefn - ond does yna ddim help ar gyfer y sawl sydd ond yn gwybod Saesneg planhigyn ac yn chwilio am un Cymraeg.
Fel y llyfr adar y llynedd, mae hwn hefyd o ran gwneuthuriad yn hwylus ar gyfer poced anarac neu logell ac wedi ei rwymo'n gadarn ac iddo glawr plastig i'w gludo gyda chi pan ar dramp.
Cadwraeth Mewn cyflwyniad i'r gyfrol mae disgrifiad o strwythur blodau, sut i chwilio amdanynt a'u hadnabod hwy a'u cynefinoedd.
A'r dyddiau hyn, wrth gwrs, ni fyddai unrhyw gyfrol o'r fath yn gyflawn heb gymal am gadwraeth, gwaetha'r modd.
"Gobaith diffuant llawer o fotanegwyr yw gweld y dydd pan welwn ni flodau'n dychwelyd yn ddigon niferus i gefn gwlad fel y gallwn eu pigo, yn ddarbodus ac yn synhwyrol, heb bryderon o gwbl am eu parhad," meddir.
Anodd meddwl nad yw peth felly, a oedd mor gyffredin a naturiol ar un adeg, yn gymeradwy heddiw.
Glyn Evans
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor o Enwau Adar
Llyfr Adar Iolo Williams
Galwad Cynnar
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|