| |
|
|
|
|
|
|
|
Y Triawd Amser a M么r Ladron y Carib卯 Anturiaethau a hiwmor
Adolygiad Anna-Marie Robinson o Y Triawd Amser a M么r Ladron y Carib卯. Addasiad Cymraeg gan Alun Ceri Jones.
Cyhoeddwyd gan Dalen. 64 tudalen, 拢9.99, i ddarllenwyr 8-15 oed.
Does na'm byd fel stori am f么r-ladron i gydio yn nychymyg y rhai ifanc, ac mae'r maes wedi cael ei atgyfodi eto'n ddiweddar gan ffilmiau Disney - Pirates of the Carribean 1 a 2.
Y Triawd Amser - sef Gwydion, Gwion a Garmon - sydd yn mentro i fyd byrlymus a chyffrous m么r-ladron y ddeunawfed ganrif y tro hwn.
Bu anturiaethau'r Triawd yn diddanu plant yn yr Almaen ers blynyddoedd maith, ac fe ymddangosodd y llyfr hwn yn gyntaf yn 2002.
Mae yna hiwmor yn perthyn i hanes y tri wrth iddyn nhw fynd ar wahanol anturiaethau ar draws y byd mewn gwahanol gyfnodau o amser, ac mae'r straeon hefyd yn cynnwys elfennau addysgiadol a moesol cadarn.
Darganfod hen lestr Yn y llyfr yma mae'r bechgyn yn cael eu cludo i fyd y m么r-ladron ar 么l darganfod hen lestr aur yr ymerawdwr Monteswma tra ar daith drwy amgueddfa.
Ar eu taith maen nhw'n dod ar draws y f么r-ladrones Anne Bonny a'r gelyn pennaf, Blewgi Ddu, a buan daw'r triawd i sylweddoli fod gan y llestr aur rymoedd cyfrinachol all agor y drws i gyfoeth El Dorado.
A dyna pham mae bod a'r llestr yn eu meddiant yn achosi perygl iddyn nhw - mae pawb arall eisiau cael eu pawennau arno hefyd, a dydy diogelwch y bechgyn yn poeni dim arnyn nhw wrth i'r m么r-ladron ymladd dros y llestr.
Ond mae'r llestr yn bwysicach na'i gyfrinachau i'r Triawd gan mai dyma'r unig obaith sydd ganddyn nhw o ddychwelyd adref yn ddiogel i'w cyfnod nhw mewn amser.
Poblogaidd gyda'r ifanc Yn llawn anturiaethau cyffrous, mae'r llyfr ar ffurf stribed ac yn llawn lliw a symudiad.
Bydd yn si诺r o fod yn boblogaidd gyda'r ifanc - a'r rhai sydd ychydig yn h欧n! Edrychwn ymlaen at weld be fydd antur nesa y Triawd Amser.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Y Derwyddon
Llywelyn Fychan
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|