| |
|
|
|
|
|
|
|
Hen Garolau Cymru Casgliad o 60 o garolau plygain
Hen Garolau Cymru - 60 o Garolau Plygain. Golygwyd gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Cwmni Cyhoeddi Gwynn. 拢8.50.
Gellir gwrando Arfon Gwilym yn siarad am ei lyfr ar ddiwedd yr erthygl hon.
Un o lyfrau mwyaf amserol Nadolig 2006 yw casgliad Arfon Gwilym a Sioned Webb o hen garolau Cymraeg.
Cyhoeddir Hen Garolau Cymru - 60 o Garolau Plygain gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn ac y mae yr unig gasgliad o'r fath sydd ar gael.
Fe'i golygwyd gan Arfon a'i briod, Sioned Webb ond dywedodd Arfon iddo fod mewn cryn gyfyng gyngor cyn cymryd y cam o gyhoeddi'r llyfr.
"Roeddwn i'n gweld yr angen i gyhoeddi cyfrol eithaf cynhwysfawr - ac rwy'n credu bod 60 o garolau yn eithaf cynhwysfawr - ac hefyd gyfrol oedd yn hwylus," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg.
"Mae yna lawer iawn o garolau wedi cael eu cyhoeddi ar hyd y blynyddoedd ond maen nhw mewn gwahanol lyfrau - rhyw ddwsin fan hyn a rhyw bymtheg fan acw - a llyfrau allan o brint ac yn y blaen; felly roeddwn i'n gweld yr angen yna," meddai.
"Ond ar y llaw arall roeddwn i'n ymwybodol iawn fod yna deuluoedd a phart茂on plygain yn ardaloedd Sir Drefaldwyn lle mae'r traddodiad yn dal yn fyw a lle mae rhai o'r carolau yma yn cael eu gwarchod yn ofalus iawn, iawn.
"Ac roeddwn i'n gyndyn braidd - neu roeddwn i'n nerfus - o fynd i amharu ar y rhan yna o'r peth. Y busnes yma o agor y drysau yn llydan i'r byd i gyd.
"Ond yn y diwedd y penderfyniad oedd cyhoeddi am y rheswm fod y traddodiad canu plygain yn perthyn i Gymru gyfan nid ond i un rhan o Gymru - a honno oedd y ddadl wnaeth ennill yn y diwedd."
Traddodiad llafar Pwysleisiodd mai traddodiad llafar yw hwn ac un - fel canu gwerin - amhosib ei gofnodi'n llwyr ar bapur.
"Rwy'n mynegi yn y rhagair, Dyma'r geiriau, dyma'r nodau ichi ond os ydy ch chi eisiau gwybod sut mae eu canu nhw go iawn wel gwrandwch ar hen recordiadau fel yr un wnaeth Roy Saer o Sain Ffagan yn y Saithdegau. Hwnna ydi'r arweiniad gorau o ddigon," meddai.
"Wrth gwrs y gallwch chi roi nodau ar bapur ond allwch chi byth ddisgrifio yn union beth ydi'r y m芒n bwysleisiadau.
"Un peth a sylwais i pan ddechreuais i fynd i blygeiniau oedd bod y carolau yn cael eu canu yn yr un ysbryd a ch芒n werin efo'r rhyddid yna a'r dal ar ambell i nodyn, dal ar ambell i air. Y geiriau oedd yn bwysig wrth gwrs ond nid y nodau," meddai.
"Ond mae'n rhaid yn rhywle gofnodi beth ydi'r nodau a beth ydi'r geiriau er mwyn i bobl eraill eu dysgu nhw," ychwanegodd.
Gwasanaeth nid cyngerdd Pwysleisiodd hefyd mai rhan o addoliad a defosiwn yw'r carolau.
"Rydw i'n pwysleisio fwy nag unwaith yn y llyfr mai gwasanaeth ydi'r Plygain ac nid cyngerdd," meddai.
Yn ystod y drafodaeth gwahaniaethodd hefyd rhwng carolau ac emynau o ran eu natur.
"Mae emynau yn ffitio i rhyw batrwm mwy taclus rhywsut ond fe gewch chi rai carolau tua phymtheg llinell yr un a llawer iawn ohonyn nhw yn faledi - alawon baled wedi dod i mewn o Loegr - ac mae hanes y rheini yn hynod ddiddorol," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Bwrw Golwg
Cyhoeddi Cydymaith Caneuon Ffydd
Lleol i Mi - Canolbarth Cymru
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|