|
Dau Fywyd Cyfan Atgofion milfeddyg a chynghorydd
Adolygiad Gwyn Griffiths o Dau Fywyd Cyfan - Hunangofiant Defi Fet gan DGE Davies. Gomer. 拢7.99.
Fe gafodd D G E Davies fywyd rhyfedd o lawn ac fel y mae'n dweud 'dyw e ddim wedi bennu eto!
Bu'n filfeddyg ac yna, toc wedi troi'r hanner cant, cychwynnodd ei ail yrfa yn gynghorydd yn yr hen Gyngor Sir Dyfed.
Bu'r ddwy yrfa yn rhai llwyddiannus iawn.
Yr oeddwn yn disgwyl mai yr adran am ei gyfnod fel milfeddyg fuasai'r mwyaf diddorol o'r ddwy ran gydag atgofion am Tom Herbert, Aberaeron, ac yn fwy diweddar, Richard Thomas (Dic y Fet) o Aberteifi yn dod i'r meddwl.
Roedd straeon carlamus Dic y Fet yn arbennig o fyw yn y cof a minnau'n rhyw hanner disgwyl rhywbeth tebyg gan D G E Davies, o ardal Llandysul.
Ond dyn syber, ddwedwn i ar sail y gyfrol hon, yw Mr Davies. Dyn a chanddo gof rhyfeddol, a'r cof hwnnw sy'n rhoi sail gadarn i'w gyfrol Dau Fywyd Cyfan.
Cof a atgyfnerthwyd gan ddyddiaduron a gadawodd ar hyd ei oes.
Diddorol tu hwnt oedd darllen am brisiau ffermydd - gwerth Faerdre Fach, fferm oedd yn eiddo i aelodau'r teulu, wedi aros heb newid am yn agos i ganrif a hanner.
Datrys dirgelwch Mae'n taflu rhywfaint o oleuni ar rywbeth a fu'n ddirgelwch i mi, sef pam fod ar y ffermydd gynifer o hen lanciau a hen ferched - brodyr a chwiorydd - yn cydfyw heb briodi.
Yr oeddwn wedi tybio mai y rheswm oedd na fedrent ddod o hyd i ferched oedd yn barod i glymu'u hunain i'r math o fywyd sy'n rhan annatod o ffermio ond yn 么l Mr Davies y mae'r broblem o rannu'r etifeddiaeth yn elfen bwysig, hefyd.
Cawn ei farn ar afiechydon anifeiliaid fel y TB, clwy'r traed a'r genau a chlefyd y gwartheg gwallgof (BSE) ynghyd ag ambell gofnod am ddulliau 'slawer dydd o ladd moch ac ysbaddu anifeiliaid - rhywbeth na wneid yn fy nghof i gan filfeddyg.
Hynny mewn dulliau tra barbaraidd, fel y cofiaf yn dda o gyfnod fy mhlentyndod.
Yn gynghorydd Ond y fwy diddorol i mi, yn annisgwyl, oedd y penodau hynny am ei brofiadau yn gynghorydd ac yn arweinydd llywodraeth leol yn Nyfed.
Mae'n amlwg nad yw'n cytuno 芒'r ad-drefnu yn 么l i nifer fawr o gynghorau llai.
Mae profiadau'r awdur o geisio denu a sefydlu - heb s么n am gadw - gwaith yng nghefn gwlad yn ddiddorol a gwerthfawr.
Wyddwn i ddim cyn hyn o hanes sefydlu'r cwmni d诺r potel Brecon Carreg na Th欧 Nant ychwaith.
Cawn ei farn ar ymyrraeth llywodraeth ganolog ar lywodraeth leol a'r trafferthion a achoswyd yng nghefn gwlad gan y cwot芒u llaeth annisgwyl wedi i ffermwyr gael eu hannog i fenthyca'n drwm er mwyn cynhyrchu mwy o laeth.
Ysgol Gymraeg Bu'n amlwg yn yr ymgyrch i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn Nghastell Newydd Emlyn, a diddorol darllen am ei ddyled a'i gefnogaeth i fudiad y Ffermwyr Ieuanc. A'i ymlyniad at Gapel Undodaidd Pantydefaid.
Mae'r gyfrol wedi ei hysgrifennu fwy neu lai mewn tafodiaith - gwaith anodd ac nid yw bob amser yn argyhoeddi.
Wedi ei recordio y mae'r hanes a'r tapiau wedi eu rhoi ar ddu a gwyn gan ferch yr awdur a'u tacluso'n gyfrol gan ei fab-yng-nghyfraith, Dylan Iorwerth.
Geiriau Saesneg Hwyrach y gwnaed pob ymdrech i gadw mor agos at y gwreiddiol a phosib er 'does dim angen defnyddio geiriau Saesneg wedi'u Cymreigio -testo, accredito, seis ac ati pan fod geiriau Cymraeg tafodieithol yn bod ac yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd hyn.
M芒n lwch y cloriannau yw pethau fel'na, ond prawf nad gwaith hawdd yw llunio cyfrol fel hon mewn tafodiaith.
Mae ganddo aml ddisgrifiad pur fachog, fel "llond hewl o fenyw" a "sgrafell o fenyw" er rwy'n meddwl mai "daw bola'n gefen" yw'r dywediad nid "bod bola'n gefen".
Cyfrol werthfawr a difyr y bydd croeso mawr iddi yn nghartrefi Dyffryn Teifi. Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan Llandysul - Lleol i Mi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|