|
Tregaron - Delweddau o Dref Wledig 'Gwyn eu byd y Tregaroniaid . . .'
Adolygiad Gwyn Griffiths o Tregaron - Delweddau o Dref Wledig gan Landmark Collectors Library a Chymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch. Pris 拢19.99.
Mae ap锚l arbennig i gyfrolau o luniau lleol. Buont yn ffenomen gyhoeddi lwyddiannus, fel y cyfrolau niferus Old Cardiff in Pictures Stewart Williams a chyfrolau tebyg o Gymru, Lloegr a thu hwnt gan gwmni Sutton.
Fis Tachwedd 2006 cawsom gyfrol ddifyr o ddarluniau o ardal Tregaron.
Nid cyfrol i'w hadolygu mo hon ond un i'w mwynhau a rhoi rhyddid i'r atgofion a'r dychymyg. Cael syllu ar ambell lun a chofio stori neu hanesyn ynghudd ynddo.
I mi yr oedd yn braf gweld fy hen fro, ardal Y Berth, yn cael sylw hael. Capel a fferm T欧 Hen gyferbyn iddo yw calon ardal Y Berth, calon ardal o ffermydd a thyddynnod.
A chornel arall yr ardal, o lawn cymaint o bwys i mi 芒 Chapel Y Berth oedd Ysgol Castell Flemish. Enw rhyfedd a fu'n benbleth i rai llawer mwy gwybodus na mi.
Pum disgybl Mae yn y gyfrol lun o holl ddisgyblion yr ysgol - pump ohonynt - ar ddydd ei chau am byth ddiwedd tymor yr haf, 1966. Yn eu plith mae fy nai.
Os yw fy nghof yn iawn yr oedd pedwar yn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Tregaron gan adael un ar 么l i dreulio blwyddyn yn un o ysgolion cynradd eraill y cylch.
Aeth tri ohonynt ymlaen i fod yn athrawon a'r ddau arall i fyd newydd (bryd hynny) y cyfrifiaduron.
Un o'r rheini oedd fy nai a aeth i swydd yn un o adrannau'r Llywodraeth yn Llundain. Er mor fychan, yr oedd yr ysgolion hyn yn gwneud gwaith ardderchog.
Yn y Rhyfel Mawr Profiad ysgytwol oedd gweld lluniau'r bechgyn o ardal Y Berth fu yn y Rhyfel Mawr (1914 - 1918) - 23 ohonynt. Collodd dau eu bywydau.
Un yn unig rwy'n ei gofio, Daniel Rees, Tynant. Deuai atom tua mis Ionawr bob blwyddyn i blygu perthi.
Bu fy nhad, hefyd, yn filwr yn y Rhyfel Mawr - un o Swyddffynnon oedd e, felly 'dyw ei lun e ddim yma - a threuliodd ef a Daniel Rees rai blynyddoedd yn yr Aifft.
Gof oedd Daniel Rees yn y fyddin a'i waith oedd pedoli'r ceffylau. Byddai ef a nhad yn treulio oriau yn hel atgofion am eu profiadau yn y Dwyrain Canol.
Dweud stori Roeddwn i wrth fy modd pan ddeuai Daniel Rees atom oherwydd yr oedd yn un da am stori ac yn rhoi llathen dda ar gynffon pob un.
Clywais stori gan Willie Davies, Pontargamddwr, fel y bu iddo gyfarfod Daniel un noson ar y ffordd adref wedi bod yn priddo (gorchuddio) tatw.
"Pryd ddechreues di?" holodd Daniel. "Pump," atebodd Willie. "A phryd bennest di?" "Hanner awr wedi wyth."
"Fe weithest yn dda," meddai Daniel, "ond pan own i yn Llwyngefus fe briddes i Cae Mowr gyda'r ddwy gaseg - dechreues i am bump, a bennu'r cwbl erbyn naw."
Aeth Willie - un o frodyr Nan Davies y 大象传媒 gyda llaw - adre ac o ran diddordeb aeth i chwilio am un o'r mapiau lleol. Wedi cael manylion maint y cae, hyd y rhychau ac ati aeth ati i wneud syms gan ddod i'r casgliad fod Daniel Rees, y mowlder a'r ddwy gaseg, wedi mynd ar gyfartaledd o ddeunaw milltir yr awr os oedd yr hyn a honnodd yn wir!
Llun cyngor Gyferbyn 芒'r llun o'r milwyr yn y llyfr mae llun o Gyngor Dosbarth Gwledig Tregaron.
Nid oes dyddiad i'r llun, sy'n drueni ond yr hyn a dynnodd fy sylw yw fod Mr Parry y Welsh Gazette a Miss Lloyd Jones y Cambrian News ymysg boneddigion a boneddigesau'r llun.
Clywais droeon gan Hywel Morris, un o ddisgyblion Tregaron a fu'n ohebydd gyda'r Gazette ac wedi hynny gyda'r 大象传媒, fel y byddai aelodau'r Cyngor pen elai pethau'n dwym yn ceisio barn Mr Parry'r Gazette a Pharry'n sythu, codi ar ei draed ac atgoffa'r aelodau'n huawdl o ryw benderfyniad a wnaed flwyddyn neu ddwy yn 么l, ac argymell ffordd allan o'r dryswch.
Sy'n egluro pam fod Mr Parry a Miss Lloyd Jones yn y llun.
Dilyn y c诺n Sonia John B Lewis yn ei Ragair am gyfraniad nifer o athrawon Hanes Ysgol Sir Tregaron a wnaeth gymaint i ennyn diddordeb cynifer o ddisgyblion yn hanes eu bro.
Cofiaf glywed am S. M. Powell, a fu wedyn yn brifathro'r ysgol, yn dweud wrth y rhai oedd yn astudio Cymraeg yn y chweched dosbarth: "Mae'r c诺n hela'n cwrdd mhen hanner awr ar Bont Einon. Ewch yno nawr, dilynwch nhw drwy'r dydd a dewch 芒'r hanes mewn traethawd i fi bore 'fory."
Tua 1920 oedd hynny!
Ni ddylid anghofio'r athrawon cynradd, 'chwaith. Roedd Mrs Dinah Jones, prifathrawes Ysgol Castell Flemish pan oeddwn i yno, wedi priodi Evan Jones, aelod o deulu mawr a diwylliedig o ardal Y Berth.
Evan Jones oedd awdur sawl cyfrol o hanes lleol, yn eu plith Ar Gyrion Cors Caron a Cerdded Hen Ffeiriau.
Fe gawsom ein trwytho'n dda gan Mrs Jones - o bosib gyda chymorth ei g诺r - yn hanes Y Berth yn arbennig. Mawr yw fy niolch iddi.
Gwyn eu byd Daeth y llun o Syr John Rowland, Penybont Fach, a fu'n Ysgrifennydd Personol David Lloyd-George rhwng 1905 a 1912 a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Cymru o 1930 hyd 1940 芒 stori fach arall i gof.
Yn 么l yr hanes hoffai Syr John roi swyddi i bobol o Dregaron.
"Bryd 'ny," meddai D. J. Williams, Abergwaun, wrthyf un tro, "y bathwyd y dywediad, Gwyn eu byd y Tregaroniaid."
Gwyn ein byd yn wir yn cael cofnod mor annwyl a difyr o'r dref a'i chymdeithasau.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Cyhoeddi'r llyfr - a chyfle i'w ennill
Gwefan Tregaron Lleol i Mi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|