Aaaaaaaaaa Corryn! Gan Lydia Monks a Sioned Lleinau. Cyhoeddwyd gan Gomer, 拢4.99
Corryn druan! 'Da chi ofn pry copyn yn eich ty chi? Mae'r pry copyn sydd yn y stori hyfryd hon am wneud ffrindiau newydd ond does neb yn y teulu am iddo fod ar eu cyfyl gan eu bod i gyd ofn y creadur bach du!
Dyma'r eglurhad pam fod Corryn yn dawnsio ar y nenfwd neu'n ymolchi yn y bath - mae'n ceisio profi ei fod yn gwmni hwyliog, ac yn l芒n - nid fel anifeiliaid anwes eraill!
Ac mae hefyd yn un hawdd edrych ar ei 么l - yn gallu dal ei fwyd ei hun mewn gwe.
Ond does ddim lwc iddo gael, ac mae'n canfod ei hun allan yn yr ardd dro ar 么l tro, lle mae'r teulu yn rhyfeddu at ei ddawn yn creu gwe a bob math a maint.
Maen nhw'n gwneud ffrindiau ag o o'r diwedd, ac mae'r Corryn yn penderfynu trefnu syrpreis iddyn nhw....... Ond a fydd hyn at eu dant?