| |
|
|
|
|
|
|
|
Y Cymro Cryfa Gogleddwr ddaeth i'r de i ddangos sut i chwarae rygbi
Adolygiad Ion Thomas o Y Cymro Cryfaf gan Robin McBryde.
Pan fo chwaraewr profiadol ein g锚m genedlaethol yn sgwennu hunangofiant, y mae'r cefnogwr rygbi a'i gwestiynau'n barod.
Yn achos Robin McBryde, sut y daeth bachgen a fagwyd yn Llanfechell Sir F么n yn gapten ar Lanelli, yn gonglfaen yn nh卯m Cymru ac yn Llew?
Sut y cafodd y bachwr cydnerth hwn y teitl Y Cymro Cryfa? Ac yn olaf, ei farn.
Yn y gyfrol hynod ddarllenadwy yma (tua 185 tudalen) a sgwennwyd ar y cyd 芒 Lynn Davies, ceir atebion manwl i'r ddau gwestiwn cyntaf ac ychydig atebion i'r olaf.
Egyr y gyfrol gyda'r bennod ar ddigwyddiadau'r gystadleuaeth Y Cymro Cryfaf ar S4C ddechrau'r Nawdegau.
Braf yw cael darllen am fagwraeth McBryde a dysgu iddo dyfu heb unrhyw freuddwydion na gobeithion o safbwynt rygbi.
Telir tipyn o deyrnged i'w rieni a buan gwelwn ddylanwad y clybiau rygbi; Bangor yn gyntaf ac yn arbennig Porthaethwy yn llywio ac yn dylanwadu arno.
Heb amheuaeth dyma ddyn a oedd yn mwynhau'r her corfforol, ac yn synhwyro gyda phob g锚m ei fod yn ymdopi ac o dipyn i beth yn rhagori.
Diddorol yw darllen am y dynion a fu'n gyfrifol am ei gyfeirio a'i ddatblygu, Meic Griffith ac Elvie Parry er enghraifft.
Map o ddatblygiad Gwelir o'r ysgrifennu yma mai pobl o'r un anian sy'n gwneud clwb a phobl felly sy'n gyfrifol am feithrin talent amrwd, a'i dodi ar y cledrau a all arwain at gystadleuaeth uwch.
Map o ddatblygiad a chamau yng ngyrfa Robin McBryde yw'r gyfrol gyda digon o gyfeiriadau at ymarferion corfforol.
O'i ddyddiau gyda'r Wyddgrug i Abertawe a Llanelli gwelwn 诺r a oedd yn ymroddedig iawn i gryfhau ei gorff.
Synhwyrwn yn wir ei fod yn mwynhau gwthio ei hunan a cheir darlun hynod o gofiadwy wrth iddo ddisgrifio sesiwn mewn cae cefn ac yntau'n gorfod cwrsio ci Tina ei wraig wrth iddo geisio cael gafael ar ei esgid.
Peidio dangos Mae darllenwyr cofiannau athletwyr o hyd yn chwilio am athrawiaethau neu fantra seren. Un a weithredai Robin oedd peidio 芒 gadael i'r hyfforddwr weld bod yr ymarferion wedi ei drechu.
Cwestiwn arall a atebir yn eitha manwl yw'r cyfnod cymharol fyr a gafodd McBryde yn nh卯m llwyddiannus Abertawe.
Ar y pryd roedd Garin Evans yn fachwr effeithiol a mawr ei barch gan lawer. Cadw'r fainc yn dwym yw hanes sawl un pan gwyd sefyllfa o'r fath.
Mae dadleniadau McBryde yn rhai gonest a'r hyn a welwn yw dyn sy'n ysu am gael chwarae bob Sadwrn ar y lefel uchaf posib. Arweiniodd yr awydd yma iddo dderbyn gwahoddiad i ymuno a th卯m Llanelli.
Yr hyn a wna'r gyfrol yn ddiddorol yw'r m芒n gyffyrddiadau personol.
Er enghraifft dysgwn i McBryde gael y cynnig i ymuno 芒 Llanelli pan oedd yn mwynhau barbeciw teuluol ac Alan Lewis, hyfforddwr Y Scarlets ar y pryd, yn taro'i ben dros y wal yn annisgwyl.
Y mae'r gyfrol yn gofnod da i ddilynwyr y Scarlets o'r tymhorau y bu Robin yn chwarae gydag ambell g锚m yn amlwg wedi sefyll yn y cof.
Uchelgais Robin oedd chwarae dros ei wlad. Ni fu'n daith hawdd iddo sefydlu ei hun fel y dewis cyntaf a cheir darlun da o chwaraewr a weithiai i'r Bwrdd Trydan yn cystadlu mewn maes a drodd yn broffesiynol.
Ni cheir fawr o ymateb gan McBryde i'r newid yn y g锚m, dim ond yr hanes amdano'n sylweddoli'n raddol y byddai'n rhaid iddo fentro er mwyn cyflawni taith y Llewod a medru cynyddu lefelau ffitrwydd.
Cyfnodau duon Fel ymhob llyfr gan chwaraewyr y campau, ceir s么n am y teithiau tramor a'r bywyd breintiedig ar un llaw o fedru crwydro'r byd ac aros mewn gwestai braf.
Ond darlunia'r chwaraewr gwydn yma hefyd y cyfnodau du o ddioddef anafiadau.
Mae'r penodau am yrfa McBryde yn ngharfan Cymru yn rhai diddorol ac yn gofnod o'r newid a fu o safbwynt hyfforddwyr a'r datblygiad yn y technegau hyfforddi.
Mae llawer un wedi holi am swyddogaeth T卯m A Cymru - t卯m y cafodd McBryde y cyfrifoldeb o fod yn gapten arno a cheir cryn feirniadaeth ganddo ar barch a chydnabyddiaeth yr Undeb tuag at y t卯m yma.
Ac er nad yw McBryde yn ymhelaethu rhyw lawer ar gyfraniad Graham Henry y mae'n amlwg i hwnnw droi'r trai.
Rhydd dipyn mwy o ofod a sylwadau ar Steve Hansen.
Henry a Hansen Braf cael darllen am fanylion rhai o'r tactegau a'r technegau a gyflwynodd Henry er enghraifft y system "pod" gan y blaenwyr. A diddorol yw dyfarniad a chasgliadau McBryde:
"Yn sicr roedd 'na fanteision i system y 'pod' ond roedd e'n gorfodi rhywun i chwara'r g锚m fel robot braidd ac yn atal rhywun rhag ymateb i'r hyn roedd o'n ei weld o'i flaen."
Diddorol gweld fod Steve Hansen wedi ystwytho dipyn ar y system hon gan hybu chwaraewyr i ymateb i'r sefyllfa wedi dwy sgarmes.
Ond y mae McBryde yn codi'r caead fel petai ar y problemau a gwyd o orfod ymdopi a'r newid mewn t卯m hyfforddi a'r ffyddsy'n rhaid iddyn nhw fel chwaraewyr y'i ddangos mewn technegau newydd a chwbl wahanol.
Mae gennym ni fel cefnogwyr t卯m Cymru gof da o'n methiant i ennill a chystadlu mewn llinellau gyda'r blaenwyr yn edrych yn gwbl ar goll. Yma, esbonia'r bachwr y cefndir i geisio lliniaru rhywfaint ar y beirniadu a fu.
Dod i'w adnabod Ond a ddeuthum i adnabod Robin McBryde? Dywed McBryde mewn un man; "Do'n i ddim wed .i.. cymryd yr agwedd iawn, ddim wedi gofyn i mi fy hun pam nad o'n i'n cael 'y newis.... Ro'n i falle'n rhy barod i feirniadu ac erbyn hyn fedra i ddim coelio 'mod i wedi dweud rhai o'r petha wnes i wrth hwn a'r llall."
Tybed ai dyna sydd i'w gyfrif pam nad yw McBryde yn taclo ambell berson a phwnc mewn print fel y lloriodd Andy Goode a Rob Snow ar y cae rygbi?
Ac eto y mae yma ddadlennu manwl ar 诺r a roddodd y flaenoriaeth i serennu ar y cae rygbi. A chyda Robin bellach yn hyfforddwr gyda'r garfan genedlaethol, deallwn ei fod wrth ei fodd yn cael datblygu y genhedlaeth newydd o s锚r.
Dyma gyfrol hynod ddarllenadwy am yrfa un a lwyddodd i gyrraedd y brig yn un o'r safleoedd caletaf ar y maes rygbi.
Gwelir tipyn o stamp iaith y de ar y gogleddwr ond dyw hynny ddim yn syndod o gofio ei fod wedi hen fwrw'i wreiddiau yn y Tymbl.
Ac ie, dyma ogleddwr a ddaeth i'r de i ddangos i lawer sut i chwarae rygbi. Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|