|
Valentine - adolygiad Gweinidog aeth i ryfel
Adolygiad John Stevenson o Valentine: Cofiant i Lewis Valentine gan
Arwel Vittle .
Y Lolfa: 拢14.95.
Fel un a fagwyd yn y traddodiad Bedyddiedig mewn Capel Bedyddwyr ar Ynys M么n yn y Chwedegau, rhaid imi gydnabod mai digon cymysg oedd yr adwaith yno tuag at y Parchedig Lewis Valentine.
Y gwir yw fod cryn dipyn o fytholeg ac o gamsyniadau yngl欧n a gwrthrych cofiant Arwel Vittle.
Y cwestiwn felly ydi; i ba raddau y llwydda'r gyfrol i ddryllio'r camsyniadau hynny?
Do, cafodd y g诺r a fu'n Weinidog y Tabernacl, Llandudno a Phenuel, Rhosllannerchrugog, ei ddyrchafu a'i gydnabod fel un o bregethwyr Undeb y Bedyddwyr i'r graddau y byddai cael Lewis Valentine yn gennad mewn Cymanfa Bregethu yn dipyn o sg诺p.
Ond ar y llaw arall yr oedd gwleidyddiaeth Lewis Valentine yn wrthun i lawer o ffyddloniaid Anghudffurfiaeth Cymru.
"Pobol Cledwyn", er enghraifft, oedd y mwyafrif helaeth o aelodau capel Jeriwsalem, fy mam eglwys yn Llangoed ar Ynys M么n.
Ac iddyn nhw, roedd Lewis Valentine yn ffigwr rhy amlwg o fewn y "Blaid Bach" i fod yn gwbl dderbyniol a chymeradwy.
Teg nodi wrth gwrs fod gan ei aelodau yn y Tabernacl, Llandudno, safbwynt cwbwl wahanol.
Yno cafodd gefnogaeth ei aelodau pan y'i carcharwyd yn Wormwodd Scrubs yn dilynl t芒n Penyberth yn 1936 - a'i groesawu'n 么l wedi ei ryddhau.
Ond mae'n amlwg o ddarllen pennod Arwel Vittle am gyfnod Lewis Valentine yn weinidog yn ardal Lafurol y Rhos, ger Wrecsam, nad pobol fy mam eglwys i oedd yr unig rai i'w weld "yn ormod o Welsh Nash".
Dyna brofiad Lewis Valentine ei hun, er ei gyfeillgarwch bersonol gydag amryw o Lafurwyr blaenllaw ei gyfnod.
'Yn gonshi'
Roedd Valentine yn cael ei weld "yn gonshi" hefyd - g诺r, meddir, a wrthododd chwarae ei ran yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a g诺r oedd yn dal i arddel syniadau heddychiaeth oedd yn cael eu cyfri'n hynod beryglus yn nyddiau'r Rhyfel Oer.
Ond trosedd bennaf Lewis Valentine i'r gynulleidfa ddosbarth gweithiol oedd yn aelodau yn fy nghapel gartref oedd ei fod o, yn eu barn hwy, wedi gwrthwynebu dod a gwaith i Ben Ll欧n a hynny mewn cyfnod wedi'r Dirwasgiad pan oedd gwaith mor brin.
Nid fod Lewis Valentine ei hun, wrth gwrs, yn gweld y weithred o gynnau t芒n ar safle milwrol Penyberth yn y 30au cweit yn y ffordd yna.
Ond, yn sicr, i nifer fawr o Gymry, y weithred honno yn 1936 oedd y pechod mawr.
Ond yn waeth na llosgi'r safle; i'r bobol dwi'n s么n amdanyn nhw roedd y ffaith fod Saunders Lewis, DJ Williams a Lewis Valentine wedi llosgi celfi y gweithwyr a gyflogwyd i weithio ar y safle.
Mewn oes lle'r oedd yn rhaid i weithwyr ar safleoedd adeiladu dalu'n ddrud am eu celfi yr oedd gweithred fel un Penyberth yn gam anfaddeuol yn llygaid rhywun o gefndir dosbarth gweithiol.
Ochr arall y geiniog Mae'n bosibl dadlau mai Lewis Valentine oedd ochor arall ceiniog wleidyddol safbwynt rhai fel John Williams Brynsiencyn.
"Er ei holl ddiffygion," meddai Gweinidog Princess Road, Lerpwl, wrth recriwtio ar gyfer Byddin Lloyd George, "Prydain yw'r lanaf, anrhydeddusaf, y mae haul Duw yn tywynnu arni."
"Er ei holl ddiffygion," awgryma Gweinidog Capel y Tabernacl yn 1936 "Cymru yw'r lanaf a'r anrhydeddusaf y mae haul Duw yn tywynnu arni."
Lewis yn gonshi?
Annheg iawn dwi'n credu - ac fel mae Arwel Vittle yn dangos drwy dynnu sylw'r darllenydd at gyfrol Valentine ei hun - yw awgrymu fod Lewis Valentine yn llwfrgi.
Mae Dyddiadur Milwr - ei gronicl o'i brofiadau yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Mawr - yn gwrthbrofi hynny.
Yn 23 oed - fel mae Vittle yn disgrifio mewn pennod hynod ddirdynnol - gwasanaethodd Lewis Valentine yn Ffrainc gyda'r Corfflu Meddygol lle gwelodd erchyllterau na ellid byth eu anghofio.
Cefais innau wefr na allaf i ei anghofio o ddarllen yn y Chwedegau ysgrifau gan Lewis Valentine am y cyfnod hwnnw yn hen gylchgrawn Seren Gomer - chwaer gylchgrawn i wythnosolyn y Bedyddwyr Cymraeg, Seren Cymru.
A dyna pryd y dechreuais i sylweddoli nad un math o beth ydi dewrder a bod yna'r fath beth a dewrder argyhoeddiad - a ydych yn cytuno 芒'r argyhoeddiad neu beidio.
Yn ddiddorol, mae safbwynt rhai fel Lewis Valentine tuag at heddychiaeth a phynciau milwrol yn dal i greu problemau i'r Blaid Cymru fodern.
Cafodd Dafydd Iwan, Llywydd presennol Plaid Cymru, ei hun mewn twll gwleidyddol rai wythnosau'n 么l oherwydd sylwadau a wnaeth o mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Radio Wales am safleoedd milwrol yng Nghymru.
Doeth a chadarn Mae gennyf le cynnes iawn yn fy nghalon tuag at y Tabernacl Llandudno, y capel llu bu Lewis Valentine yn weinidog am ragor nag ugain mlynedd.
Yno, yn ddiweddarach, y bu un o'm harwyr mawr yn gweinidogaethu hefyd.
Bu'r diweddar Eirwyn Morgan yn weinidog ymroddedig yno cyn mynd yn Athro yng ngholeg ei enwad ym Mangor. Ys dywedai'r Groegwr slawer dydd, hwn oedd "y gorau y doethaf a'r mwyaf cadarn o ddynion".
Yn 么l ei edmygwyr, ac mae Arwel Vittle yn amlwg yn un ohonynt, mae'n ddisgrifiad yr un mor briodol o Lewis Valentine.
Yn ysgolhaig A diddorol iawn yw darllen fod Lewis Valentine, yn y Pedwardegau, wedi cynnig am swydd Athro Lleynyddiaeth Feiblaidd yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor, sef Y Coleg Gwyn.
Wyddwn i ddim cynt bod asgwrn ysgolhaig yn perthyn iddo! Gwir fod ganddo MA - ond onid oedd unrhyw un yn cael hwnnw erstalwm?
Chafodd Lewis Valentine ddim mo'r swydd a chred Arwel Vittle mai'r ffaith iddo fod yn genedlaetholwr amlwg ac hefyd oherwydd ei fod yn gyfeillgar 芒 Jac Daniel (y dyn nid y wisgi!) oedd yr eglurhad am hynny.
Ond gor symleiddio pethau braidd yw dweud hynny gredwn i!
Y syndod yw iddo gael ei ystyried am y swydd o gwbl gan mai arferiad y Bedyddywr ym Mangor oedd i penodi rhai a fu'n astudio yng Ngoleg Regent's Park, Coleg y Bedyddwyr ym Mhrifysgol Rhydychen.
Yn wir, dyna'r arferiad o hyd.
Ond bu'n werth darllen y gyfrol pe tai ond i ddysgu fod gan Lewis Valentine gyraeddiadau ysgolheigaidd nas gwireddwyd.
Codi cwestiwn Ond mae un peth yn fy mhoeni am y cofiant gan godi pob math o gwestiynau gwleidyddol, ideolegol a diwinyddol pell gyrhaeddol.
Ar dudalen 310 mae Arwel Vittle yn dyfynnu rhan o araith Lewis Valentine pan yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1962:
"Cyfrifoldeb a osodwyd arnom gan Dduw ydyw gwlad Cymru. Cyfrifioldeb a osodwyd arnom gan Dduw ydyw cenedl Cymru," meddai.
Gwnaeth Lewis Valentine ei sylw fel arweinydd enwadol nid fel arweinydd gwleidyddol.
Ond cred rhai fod hawlio bod cenedlgarwch yn deillio o ddwyfol ordinhad yn gam a allai'n harwain i gors ddiwinyddol a gwleidyddol hynod o beryglus.
Pwysigrwydd gwrthrychedd Mae'r Cymry darllengar yn ffodus o'r adfywiad cyfoes mewn cyhoeddi cofiannau a hunangofiannau Cymraeg.
Ond wedi dweud hynny, gofal piau hi gyda mentrau o'r fath.
Bu cyfnod ym myd cyhoeddi Saesneg pan fu'n arferiad gan wleidyddion digon di s么n amdanynt yn San Steffan gyhoeddi cofiant am eu cyfnod yn is ysgrifennydd seneddol mewn adran cwbwl, gwbwl, ddibwys yn nheyrnas Margaret Thatcher.
Yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn yr un modd, bu gweinidogion anghydffurfiol yn cyhoeddi cyfrolau sych a swmpus yn cofnodi gyrfaoedd pregethwrol anghofiedig.
Mae cyfrol gymeradwy Arwel Vittle yn darlunio un pwynt yr ydw i am i wneud am y maes hwn:
Y dyletswydd syml hwnnw o ymdrechu tuag at wrthrychedd.
O gofio bod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei dywallt i goffrau'r gweisg Cymreig o ffynonellau cyhoeddus dylai fod yn ddyletswydd ar gyhoeddwyr i sicrhau nad ydyn nhw ond yn apelio at un garfan wleidyddol o'r Gymru Gymraeg ddarllengar.
Mae cryn wahaniaeth rhwng broliant a chofiant.
Wrth gwrs, mae hunangofiant yn beth arall tra gwanhaol.
Ond mae cofiant sy'n syrthio'n brin o wrthrychedd mewn gwir berygl o fod yn unllygeidiog.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Arwel Vittle
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|