| |
|
|
|
|
|
|
|
Lansiadau - digwyddiadau o bwys Llyfrwerthwyr - symud o du 么l i'r cownter
Erbyn heddiw mae gwerthu llyfrau yn galw am fwy i ymdrech ar ran llyfrwerthwyr na'u rhoi ar silffoedd a disgwyl am gwsmeriaid - mae trefnu digwyddiadau i'w hyrwyddo yn anhepgor hefyd.
Gwelwyd hynny dros y Nadolig diwethaf gyda llu o gyfarfodydd 'lansio' mewn siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru.
Bu Lowri Rees yn holi un llyfrwerthwr am yr agwedd bwysig hon o werthu llyfrau, Gwyn Sion Ifan o Awen Meirion yn Y Bala.
Yn yr wythnosau yn arwain at y Nadolig bu nifer o lansiadau a sesiynau arwyddo yn Awen Meirion, Y Bala, gan gynnwys lansiad hunangofiant awdur lleol, Dan Puw, a sesiynau arwyddo gyda Huw Ceredig, Dewi Prysor ac eraill.
Dywedodd Gwyn S茂on Ifan fod hyn o bosib y ffordd orau i hybu gwerthiant.
Ond mae'n fwy na hynny, hefyd.
"Mae hefyd yn gyfle i'r cyhoedd gael cyfarfod yr awduron ac yn gyfle i gael blas o gynnwys y cyfrolau. Yn sicr mae'n achlysur cymdeithasol ac yn gyfle i drin a thrafod ein llenyddiaeth," meddai.
Neuadd lawn Dywedodd mai un o brif lwyddiannau 2006 iddo ef oedd lansiad hunangofiant Dan Puw o'r Parc ychydig filltiroedd o'r Bala ac o'r herwydd yn llyfr oedd yn ennyn llawer iawn o sylw yn yr lleol.
"Roedd Neuadd y Parc yn orlawn y noson honno, nid yn unig gyda phobl y gymuned ond hefyd oherwydd cysylltiadau Dan Puw gyda Meibion Llywarch ac ym myd cerdd dant," meddai Gwyn.
Nid yn unig mae'r lansiadau hyn yn ennyn diddordeb y gymuned ond hefyd yn cael sylw yn y wasg gyda Gwyn a llyfrwerthwyr eraill yn eiddgar iawn i wahodd newyddiadurwyr a thynwyr lluniau i'r digwyddiadau.
"Erbyn heddiw mae'n rhan o waith llyfrwerthwyr i roi ychydig o statws i lyfrau drwy gynnal lansiadau swyddogol. Mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r sylw gorau posib yn enwedig i awduron sydd ar stepen ein drws ni yma - ac mae'n bwysig gwneud ychydig bach mwy o sbloets," meddai.
Ac ychwanegodd iddo weld gwahaniaeth yn y gwerthiant o gynnal sesiynau arwyddo a lansiadau.
"Mae gwahodd awdur i'r siop ar gyfer sesiwn arwyddo unwaith eto yn gyfle i'r cyhoedd gwrdd 芒'r awduron ac yn ffordd unigryw o ddenu pobl i'r siop i edrych o gwmpas ac i bori ymhlith llyfrau."
Yn yr ysgolion Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu Gwyn hefyd yn ymweld ag ysgolion lleol gyda'i stondin llyfrau.
"Gan fod ysgolion cynradd yn cael ffeiriau a diwrnodau arbennig mae'n braf cael mynd 芒 stondin sydd yn rhoi cyfle i'r rhieni a'r plant weld y dewis eang o lyfrau sydd ar y farchnad heddiw," meddai.
"Hefyd mae'n gyfle gwych i'w cynghori am y math o lyfrau sydd yn addas ar gyfer eu gofynion."
"Nid dim ond sefyll y tu 么l i gownter siop mae llyfrwerthwr bellach. Erbyn heddiw mae angen mynd allan o'r siop at y gynulleidfa i hyrwyddo llyfrau."
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Gwyn yn brysur yn paratoi ar gyfer Diwrnod y Llyfr - achlysur blynyddol pwysig iawn iddo.
"Mae'n ddiwrnod pwysig iawn i bob llyfrwerthwr ac yn gynllun sy'n gweithio'n dda i hyrwyddo llyfrau ac i sbarduno plentyn i ddarllen mwy," meddai.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|