Llyfrau plant - Ionawr 2007 Llyfrau plant bach a gyhoeddwyd ddiwedd Ionawr 2007
Ymhlith y llyfrau plant a gyhoeddwyd ddiwedd Ionawr 2007 mae:
Beth wyt ti'n ddweud? (What do you say?) - Llyfr dwyieithog gan Mandy Stanley.
Cyhoeddwyd gan Gomer, pris 拢4.99
Llyfr clawr caled dwyieithog yn annog plant bach i wneud synau anifeiliaid - mae yma ddigon o dudalennau ac enghreifftiau, a'r cwestiwn bob tro yw: "Beth wyt ti'n ddweud wrth...." gyda chyfieithiad oddi tano.
Mae dwsinau o lyfrau tebyg o gwmpas - dydy nhw ddim i gyd yn ddwyieithog, a dydy hwn ddim gwell na gwaeth na'r gweddill. Addas i blant dros flwydd oed.
Wyt ti'n barod Mistar Croc? (Ready or not Mr Croc?) gan Jo Lodge. Cyhoeddwyd gan Gomer, pris 拢4.99.
Mae'r llyfrau llabedi (pop-up and flaps) wastad yn boblogaidd gyda'r plantos lleiaf ac mae Mistar Croc angen help i wisgo amdano cyn mynd allan am dro. Llyfr dwyieithog clawr caled llawn hwyl - ond a ellwch chi ddyfalu i ble mae Mistar Croc yn mynd?
Chwarae gyda Twts/Hwyl gyda Twts/Yn y Bath gyda Twts/Rhifo gyda Twts gan Chris Glynn. Cyhoeddwyd gan Gomer, 拢3.99 yr un.
Pecyn o lyfrau dwyieithog hyfryd ar gyfer y rhai lleiaf - mae'n addas ar gyfer edrych arno yn unig neu ar gyfer datblygiad pellach wrth i'r plant ddysgu ambell air a chychwyn cyfri gyda mam a dad. Rwy'n hoff iawn o'r darluniau syml ac mae Twts yn gymeriad direidus y bydd unrhyw blentyn yn cymryd ati. Anna-Marie Robinson