|
Hanes Cymru 'Dim ond John Davies . . .'
Adolygiad Betsan Powys o HanesCymru gan John Davies. Penguin. 拢16.99.
"A, ie - yr unig lyfr erioed ar hanes Cymru i fi'i ddarllen o glawr i glawr - a'i fwynhau."
Dywedwch wrth bobol fod 'na argraffiad newydd o gyfrol John Davies, Hanes Cymru ar y silffoedd heddiw a dyna'r ymateb gewch chi'n aml iawn.
Iddyn nhw mae gen i newyddion da, sef bod 'na fwy fyth o waith darllen rhwng clawr a chlawr y tro hwn diolch i bennod olaf newydd sy'n olrhain hanes Cymru o 1979 hyd heddiw.
Mae'r gyfrol sy'n dechrau gyda'r cromlechi bellach yn gorffen gydag 'C' fawr y Cynulliad a choelcerth y Cwangos - yn pontio o esgyrn sychion Paviland i fyd y Super Furry Animals.
Ydy'r bennod olaf yn cyfnerthu'r gyfrol? Ydy.
Dyma bennod yr ebychiadau: 'w ie 'fyd'.
Mae'r cwbwl, wrth gwrs, o fewn cof y mwyafrif mawr fydd yn darllen, yn bennod ry'n ni wedi byw drwyddi ac wedi'i gwylio 'as live' ar sgrin y teledu.
Ond yma mae John Davies yn plethu'r delweddau, y geiriau a'r ystadegau mewn ffordd sy'n llywio ac yn lliwio yr un pryd.
Y man cychwyn?
Dau ganlyniad allweddol '79 - Na i ddatganoli, Ie i lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher.
Ac i'r rheiny sy'n ochlyd bob tro y clywan nhw gyfeiriad at Gaerdydd eto fyth, mae newyddion da - "Shotton, Brwsel a Chaerfyrddin" yw teitl y bennod - tri lle sy'n adlewyrchu'r stori sydd gan John Davies i'w hadrodd, am ddiwedd diwydiannau trymion Cymru, am ei hesblygiad economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol.
Ffigyrau sy'n taflu goleuni "Peth twyllodrus yw ystadegau," meddai'r awdur ei hunan ond mae'r bennod yn doreithiog o ffigyrau sydd, yn fy nghopi i waeth bynnag, wedi'u tanlinellu mewn pensel drom dro ar 么l tro.
Ffigyrau ydyn nhw sy'n ychwanegu yn hytrach na boddi, ffigyrau daflodd oleuni i mi ar stori'r mewnlifiad i Gymru ac ar ddiogi'r ddadl bod y refferendwm o blaid datganoli ym 1999 wedi hollti Cymru yn ei hanner.
"Camgymeriad fyddai credu hynny," neu "eto i gyd rhaid peidio honni gormod," meddai'r awdur fwy nag unwaith, cyn mynd ati i dyrchu dan yr wyneb a pheintio darlun ychydig yn fwy deifiol o'r hanes ry'n ni gyd yn credu'n bod ni'n ei gofio.
Troed ar y sbardun - troed ar y br锚c Mae'n dilyn hynt a helynt y pleidiau gwleidyddol gydag un droed ar y sbardun ac un arall ar y br锚c.
Ydy mae'n gwibio o'r naill etholiad i'r llall, o'r naill Brif Weinidog i'r llall ond o bryd i'w gilydd mae'n craffu.
I'r rheiny fydd yn dilyn canlyniadau'r etholiad i Senedd yr Alban cyn bo hir ac yn tynnu cymhariaeth 芒'r canlyniadau yma yng Nghymru ar Fai 3, mae yma ddadansoddi difyr ar hynt a helynt y cenedlaetholwyr yn y ddwy wlad.
Fel un oedd yng Nghaeredin ar noson etholiad 1992 yn barod i ddarlledu cyfweliadau gyda "Phrif Weinidog cyntaf yr Alban - Alex Salmond" ac a wyliodd o bell wrth i Blaid Cymru ennill mwy o seddi na'r SNP, mae'r dadansoddi'n arbennig o agos i'w le!
Dim ond John Davies allai ddisgrifio'r glowyr fel criw oedd "wedi danto" a s么n am Mrs Thatcher yn "brechu'r etholwyr yn erbyn sosialaeth".
Ac yn sicr wrth drafod yr ymgyrch o blaid datganoli ym 1979, dim ond ef allai gyfeirio at Ron Davies o bawb fel "g诺r gwynfydedig amddifad o gysylltiad a Choleg Aberystwyth".
Darllenais sawl disgrifiad o gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ond yr un mor annisgwyl a hwn!
Darllenwch, a gobeithiwch fod 'na - yn rhywle - olynydd sydd eisoes yn bwrw golwg ar Hanes Cymru'r milflwydd newydd.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am Hanes Cymru
Creu Cenedl - Hanes Cymru ar y We
|
aled jones rydw i ddim hoffi cymru
Rhodri Evans, madagascar rydw yn lico y hanes cymru ond bydd i ddim os bydd na ddim byd am rygbi ynddo fe. mae rygbi yn sport dda iawn ac yn y 70s roedd ni yn gorau yn y byd. roedd ni gyda barry john ac gareth edwards. mae hanes yn tymed bach yn boring ac rhi gymlaeth i plant
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|